Artist Colur dan Hyfforddiant

1 month ago


Cardiff, United Kingdom BBC Full time
Cyflwyniad i'r Swydd:

Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg.

P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â bod gennych gymhwyster sy'n eich galluogi i roi colur (HNC, HND neu radd), byddem wrth ein bodd yn clywed wrthoch chi.

Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm, a rom-com gonest, cwiar S4C, Anfamol. Mae'r rolau hyn yn cael eu cynnig gan BBC Studios a Siop Un Stop-One Stop Shop sef Clwstwr Sgiliau'r BFI yng Nghymru.

Dewiswch pa gynhyrchiad (neu'r ddau) yr hoffech wneud cais amdano pan ofynnir i chi. Mae manylion isod am y gwahaniaeth rhwng y cyfleoedd.

Dyddiadau

Pobol y Cwm: 2il - 17eg Rhagfyr
Hyfforddiant pwrpasol ar set (tra bod y ffilmio ar stop) ac yn yr ystafell ddosbarth + 2 wythnos o gysgodi yn hwyrach (Chwefror ymlaen) i'r rhai sy'n cwblhau'r 12 diwrnod cyntaf yn llwyddiannus.

Anfamol: 21ain Hydref - 29ain Tachwedd
Yr holl amser ar y set fel rhan o'r tîm cynhyrchu

Beth yw Artist Colur dan Hyfforddiant?

Mae Artist Colur dan Hyfforddiant yn chwarae rhan hanfodol mewn adran golur ar gynhyrchiad. Mae eu cyfrifoldebau yn cwmpasu tasgau amrywiol i gefnogi'r artist colur a sicrhau bod actorion a pherfformwyr yn edrych ar eu gorau ar y sgrin neu ar lwyfan.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Gan weithio o dan gyfarwyddyd y Cynllunydd/Goruchwylydd Colur, byddwch yn cael gweld sut mae ein hadran golur yn gweithio. Drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad a ddatblygwyd o'ch hyfforddiant, byddwch yn cynorthwyo'r tîm drwy weithio gydag actorion a'u paratoi ar gyfer y set.

Efallai y byddwch hefyd wrth law am 'touch ups' a newidiadau drwy gydol y cyfnod ffilmio, dilyniant neu 'continuity', cwblhau a threfnu gwaith papur, archebu stoc, siopa i'r adran, a mynd ar neges -
i gyd yn cyfrannu at gipolwg gwerthfawr o fyd y ddrama deledu a rôl Cynorthwyydd Colur.

Pa gyfle sy'n iawn i chi?

Bydd y rhai o dan hyfforddiant yn treulio 7 diwrnod mewn ystafell ddosbarth a 5 diwrnod ar y set pan fydd y ffilmio ar stop. Ar ôl cwblhau'r 12 diwrnod cyntaf yn llwyddiannus, bydd y rhai o dan hyfforddiant sy'n dangos eu bod yn angerddol ac yn ymroddedig yn y maes sydd o ddiddordeb iddyn nhw'n cael cynnig 2 wythnos o gysgodi ar Pobol y Cwm pan fydd y ffilmio'n ailddechrau ym mis Chwefor 2025.

Mae deall y cynllunio, y paratoadau a'r gwaith papur sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiad yn hanfodol i unrhyw un sydd eisiau gweithio ym myd teledu, felly mae'r 7 diwrnod sy'n cwmpasu'r elfen hon o'r hyn a wnawn yn amhrisiadwy. Bydd 5 diwrnod yn y stiwdio yn rhoi amser dwys i'r rhai o dan hyfforddiant roi cynnig ar offer a dysgu heb dorri ar draws y ffilmio.

Bydd y rhai o dan hyfforddiant ar Anfamol yn treulio 6 wythnos ar set wrth i'r gyfres gael ei ffilmio. Bydd y cyfleoedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai dan hyfforddiant ymuno â'r cynhyrchiad a dysgu mewn ffordd fwy ad-hoc na'r amgylchedd dysgu pwrpasol a grëwyd ar gyfer Pobol y Cwm.

O dan gyfarwyddyd mentor, bydd y rhai o dan hyfforddiant yn cael tasgau sy'n cyd-fynd â lefel eu gallu, profiad a brwdfrydedd. Ceir mwy o fanylion am y math o ddyletswyddau y gellid gofyn i chi eu gwneud isod o dan bob disgrifiad swydd. Mae'r rolau hyn yn dibynnu ar y person dan hyfforddiant yn llyncu'r wybodaeth wrth iddyn nhw wylio a chlywed yr arbenigwyr o'u cwmpas.

Ai chi yw'r ymgeisydd iawn?

I fod yn llwyddiannus yn rôl hon dan hyfforddiant, mae'n rhaid i chi gael y canlynol:

• Gradd sylfaen, gradd baglor neu HND mewn artistwaith Colur neu gyfwerth, e.e. HNC gyda chyrsiau perthnasol eraill fel gwaith barbwr, trin gwallt, etc.
• Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o feddalwedd monitro dilyniant neu 'continuity'
• Diddordeb go iawn mewn colur a thystiolaeth o fwrw ati'n rhagweithiol i chwilio am ffyrdd o fagu mwy o brofiad a gwybodaeth
• Syniadau a safbwyntiau creadigol gwreiddiol eich hun, yn ogystal â'r rhai sydd wedi'u hysbrydoli gan eraill, rydych chi'n gyffrous i'w rhannu a'u datblygu
• Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
• Profiad o weithio i friff o fewn amserlen benodedig
• Profiad o drin a gweithio gyda chleientiaid a/neu fodelau yn sensitif; deall eu hystyriaethau a chydbwyso â gofynion y briff
• Profiad ac enghreifftiau o adegau pan fyddwch wedi gweithio fel rhan o dîm ac wedi rhannu tasgau; cyfathrebu gwybodaeth a chymryd cyfarwyddyd gan eraill
• Profiad ac enghreifftiau o adegau pan fyddwch wedi gweithio mewn amgylcheddau lle mae blaenoriaethau sy'n gwrthdaro â'i gilydd a phroblemau i'w datrys
• Eich cit sylfaenol eich hun
• Angerdd am ddramâu sebon a'r ddrama Gymraeg - yn enwedig y Cwm a/neu Anfamol

Job Introduction:

Would you like to understand more about prepping artists for a variety of make-up tasks in TV drama? We're looking for 2 x Trainee Make-Up Artists for our Welsh speaking drama productions.

Whether you're trained for weddings, theatre, fashion, retail, salon or special effects, as long as you have a qualification which allows you to apply make-up (HNC, HND or degree), we'd love to hear from you.

BBC Studios is investing in Welsh speaking talent across a number of training opportunities on the BBC's longest running soap, Pobol y Cwm, and S4C's honest, queer rom-com, Anfamol. These roles are being brought to life by BBC Studios and Siop Un Stop-One Stop Shop, a BFI Skills Cluster for Wales.

Please select which production (or both) you would like to apply for when asked. There are details below about the difference between the opportunities.

Dates

Pobol y Cwm: 2nd - 17th December
Dedicated training on set (while filming is paused) and in a classroom + 2 weeks shadowing at a later time (Feb onwards) for those who successfully complete the first 12 days

Anfamol: 21st October - 29th November
Whole time on set as part of the production team

What is a Make-Up Trainee:

A Make-Up Trainee plays a crucial role in the make-up department of a production. Their responsibilities encompass various tasks to support the makeup artist and ensure that actors and performers look their best on screen or on stage.

What will you do?

Working under the instruction of the Make-Up Designer/Supervisor, you will see how our make-up department runs. Using knowledge and experience gained from your training you will assist the team by working with actors and preparing them for set.

You may also be on standby for touch-ups and changes throughout the shoot, cover continuity, complete and organise paperwork, order stock, shop for the department, and run errands - all contributing to a valuable insight in to the world of TV drama and the role of a Make-Up Assistant.

Which opportunity is right for you?

Trainees on Pobol y Cwm will spend 7 days in a classroom and 5 days on set while filming of the show is paused. Upon successful completion of the first 12 days, trainees who demonstrate they are passionate and committed to their area of interest will be offered 2 weeks shadowing on Pobol y Cwm when shooting starts again in February 2025.

Understanding the planning, prep and paperwork required for production is essential for anyone who wants to work in TV so 7 days covering this side of what we do is invaluable. 5 days in studio will give trainees concentrated time to try out equipment and learn without the interruption of filming.

Trainees on Anfamol will spend 6 weeks on set while the show is being filmed. These opportunities will require trainees to slot in with production and learn in a more ad-hoc way than the dedicated learning environment created for Pobol y Cwm.

Under the direction of a mentor, trainees will be given tasks which align with their level of ability, experience and enthusiasm. Further details about the type of duties you might be asked to do can be found below under each job description. These roles rely on the trainee to absorb information as they watch and hear from the experts around them.

Are you the right candidate?

To be successful in this trainee role, you must have the following:

• Foundation degree, bachelor's degree, or HND in Make-Up artistry or equivalent, e.g: HNC with other relevant courses like barbering, hairdressing, etc
• Basic knowledge and awareness of software for monitoring continuity
• A genuine interest in make-up and evidence of pro-actively seeking ways to gain more experience and knowledge
• Original creative ideas and opinions of your own, as well as those inspired by others, that you're excited to share and develop
• Knowledge of relevant health and safety legislation and procedures.
• Experience of working to a brief within a specified timeframe
• Experience of sensitively handling and working with clients and/or models; understanding their considerations and balancing with the demands of the brief.
• Experience and examples of when you have worked as part of a team and shared tasks; communicating information and taking direction from others.
• Experience and examples of when you have worked in environments where there are conflicting priorities and problems to solve
• Your own basic kit.
• An enthusiasm for soap and Welsh drama - especially Pobol Y Cwm and/or Anfamol

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur yn y byd drama deledu? Rydym yn chwilio am 2 x Artist Colur Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, os oes gennych...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P’un a ydych wedi’ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n berson craff? Ydych chi'n tueddu i floeddio ar y teledu pan sylwch ar gamgymeriad dilyniant? Rydyn ni'n chwilio am Oruchwylydd Sgript dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad Cymraeg, Pobol y Cwm.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu’n wniadydd? Rydyn ni’n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu'n wniadydd? Rydyn ni'n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni'n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni’n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Oes gennych chi brofiad ym maes trydan y tu hwnt i'r byd teledu? Yn awyddus i drosglwyddo'r sgiliau hynny i ddrama barhaus eiconig Cymru a datblygu sgiliau allweddol ym myd teledu? Rydyn ni'n chwilio am Drydanwr dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad ym maes trydan y tu hwnt i’r byd teledu? Yn awyddus i drosglwyddo’r sgiliau hynny i ddrama barhaus eiconig Cymru a datblygu sgiliau allweddol ym myd teledu? Rydyn ni’n chwilio am Drydanwr dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm.  Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd:  Ydych chi wrth eich bodd gyda sain? Ydych chi’n caru DJ’io, creu a recordio cerddoriaeth, neu’n cynhyrchu eich podlediadau eich hun? Neu efallai eich bod yn gweithio mewn rôl blaen y tŷ – yn gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth fyw, theatr neu’n teithio gyda band ac yn ysu i fod yn fwy ymarferol, neu efallai eich bod...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi wrth eich bodd gyda sain? Ydych chi'n caru DJ'io, creu a recordio cerddoriaeth, neu'n cynhyrchu eich podlediadau eich hun? Neu efallai eich bod yn gweithio mewn rôl blaen y tŷ - yn gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth fyw, theatr neu'n teithio gyda band ac yn ysu i fod yn fwy ymarferol, neu efallai eich bod yn gweithio ym...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gynorthwyydd camera profiadol sy'n barod i symud i fod yn ffocysydd? Rydyn ni'n chwilio am Ffocysydd (Focus Puller) dan Hyfforddiant i ymuno â'n cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm,...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi’n gynorthwyydd camera profiadol sy’n barod i symud i fod yn ffocysydd? Rydyn ni’n chwilio am Ffocysydd (Focus Puller) dan Hyfforddiant i ymuno â’n cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi’n caru camerâu? Efallai eich bod wedi astudio’r cyfryngau neu deledu ac wedi cael blas ar greu eich cynnwys eich hun, neu a oes gennych chi gamera gartref rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud fideos ar gyfer YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant i...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n caru camerâu? Efallai eich bod wedi astudio'r cyfryngau neu deledu ac wedi cael blas ar greu eich cynnwys eich hun, neu a oes gennych chi gamera gartref rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud fideos ar gyfer YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant i weithio ar ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Eteach Full time

    Cyfle gwych i siaradwr Cymraeg brodorol â chefndir Rheoli Cyfrifon blaenorol i groesi hyfforddiant i'r sector Addysg gan weithio ochr yn ochr â'n tîm Rheoli Llwyddiant Cwsmer hynod lwyddiannus. Rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyda chefnogaeth barhaus a hyfforddiant pellach lle bo angen. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd gyrfa...


  • Cardiff, United Kingdom Crown Prosecution Service Full time

    **Location: Cardiff, Mold, Swansea** **Salary**:£62,030 - £65,450 (Cenedlaethol) **Job summary** Gofynnir i ymgeiswyr nodi eu dewis lleoliad Ardal ar y ffurflen gais ond dylid nodi y byddwn yn ystyried dewisiadau ymgeiswyr o ran eu dewis lleoliad Ardal yn ddiweddarach yn y broses ac yn ceisio darparu ar gyfer hynny lle bynnag y bo modd, er na allwn...