Trydanwr dan Hyfforddiant

1 month ago


Cardiff, United Kingdom BBC Full time
Cyflwyniad i'r Swydd:

Oes gennych chi brofiad ym maes trydan y tu hwnt i'r byd teledu? Yn awyddus i drosglwyddo'r sgiliau hynny i ddrama barhaus eiconig Cymru a datblygu sgiliau allweddol ym myd teledu? Rydyn ni'n chwilio am Drydanwr dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm.

Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm. Mae'r rolau hyn yn cael eu cynnig gan BBC Studios a Siop Un Stop-One Stop Shop sef Clwstwr Sgiliau'r BFI yng Nghymru.

Mae'r cyfle hwn ar gyfer pobl sy'n astudio trydaneg, neu eisoes yn y maes ond mewn lleoliad gwahanol - h.y. domestig. Mae angen pobl sydd â'r cymhwyster 18fed Argraffiad, ac yn gyffredinol, diddordeb mawr mewn trydaneg a dramâu teledu.

Dyddiadau

Pobol y Cwm: 2il - 17eg Rhagfyr

Hyfforddiant pwrpasol ar set (tra bod y ffilmio ar stop) ac yn yr ystafell ddosbarth + 2 wythnos o gysgodi yn hwyrach (Chwefror ymlaen) i'r rhai sy'n cwblhau'r 12 diwrnod cyntaf yn llwyddiannus.

Beth yw Trydanwr dan Hyfforddiant?

Bydd y Trydanwr dan Hyfforddiant yn dysgu sut i oruchwylio pob agwedd ar systemau goleuo a thrydanol. Byddan nhw'n gyfrifol am gefnogi'r Gaffer i gynllunio gosodiadau goleuo sy'n cyfleu'r naws a'r effaith ddymunol i gyflawni uchelgais y cynhyrchiad.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Gan weithio gyda'n tîm o drydanwyr, dangosir i chi sut rydyn ni'n cynllunio, yn gweithredu, yn rigio ac yn dad-rigio offer trydanol, yn enwedig goleuadau.

Mae iechyd a diogelwch yn sail i bob penderfyniad sy'n ymwneud â thrydan, felly byddwch yn gweld sut rydyn ni'n asesu offer, yn cynnal asesiadau risg ac yn sicrhau bod popeth yn gweithio'n iawn. O dan arweiniad mentor, efallai y bydd gofyn i chi brofi, glanhau a thrwsio offer, yn ogystal â 'dimmers' rhaglenni a byrddau cylched, ceblau lapio, standiau cario a helpu'n gyffredinol drwy nôl a chario offer.

Bydd y rhai o dan hyfforddiant yn treulio 7 diwrnod mewn ystafell ddosbarth a 5 diwrnod ar y set pan fydd y ffilmio ar stop. Ar ôl cwblhau'r 12 diwrnod cyntaf yn llwyddiannus, bydd y rhai o dan hyfforddiant sy'n dangos eu bod yn angerddol ac yn ymroddedig yn y maes sydd o ddiddordeb iddyn nhw'n cael cynnig 2 wythnos o gysgodi ar Pobol y Cwm pan fydd y ffilmio'n ailddechrau ym mis Chwefor 2025.

Mae deall y cynllunio, y paratoadau a'r gwaith papur sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiad yn hanfodol i unrhyw un sydd eisiau gweithio ym myd teledu, felly mae'r 7 diwrnod sy'n cwmpasu'r elfen hon o'r hyn a wnawn yn amhrisiadwy. Bydd 5 diwrnod yn y stiwdio yn rhoi amser dwys i'r rhai o dan hyfforddiant roi cynnig ar offer a dysgu heb dorri ar draws y ffilmio.

Ai chi yw'r ymgeisydd iawn?

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

• Y gallu i gyflawni gwaith gosod trydanol yn unol â rheoliadau weirio cyfredol IET BS7671 18fed Argraffiad (Hanfodol)
• Profiad o weithio gyda thrydan mewn amgylchedd domestig a/neu astudio trydaneg
• Profiad o gwblhau tasgau corfforol beichus, gan gynnwys codi a chario a rigio, gyda'r gallu i weithio'n ddiogel o uchder
• Profiad ac enghreifftiau o adegau pan fyddwch wedi gweithio mewn amgylcheddau lle mae blaenoriaethau sy'n gwrthdaro â'i gilydd a phroblemau i'w datrys
• Diddordeb brwd mewn trydaneg a dramâu teledu Cymraeg yn gyffredinol

Job Introduction:

Do you have experience in electrics in a non-TV background? Eager to carry over these skills to Wales' iconic continuing drama and learn key upskilling abilities in TV? We're looking for a Trainee Electrician to work on our Welsh speaking drama production, Pobol Y Cwm.

BBC Studios is investing in Welsh speaking talent across a number of training opportunities on the BBC's longest running soap, Pobol y Cwm. These roles are being brought to life by BBC Studios and Siop Un Stop-One Stop Shop, a BFI Skills Cluster for Wales.

This opportunity is for people studying electrics, or already in the field but in a different setting - i.e domestic. We need people who have the 18th Edition qualification, and overall a strong interest in electrics and TV drama.

Dates

Pobol y Cwm: 2nd - 17th December

Dedicated training on set (while filming is paused) and in a classroom + 2 weeks shadowing at a later time (Feb onwards) for those who successfully complete the first 12 days

What is a Trainee Electrician:

The Trainee Electrician will learn how to oversee all aspects of lighting and electrical systems. They will to be responsible for supporting the Gaffer to design lighting set-ups that convey the desired mood and effect to achieve the ambitions of the production.

What will you do?

Working with our team of sparks, you will be shown how we plan, operate, rig and de-rig electrical equipment, particularly lighting.

Health and safety underpins all decisions regarding electrics, so you will see how we assess kit, carry out risk assessments and make sure everything is in proper working order. Under the guidance of a mentor you may be required to test, clean and repair equipment, as well as programme dimmers and circuit boards, wrap up cables, carry stands and generally support by fetching and carrying equipment.

Trainees will spend 7 days in a classroom and 5 days on set while filming of the show is paused. Upon successful completion of the first 12 days, trainees who demonstrate they are passionate and committed to their area of interest will be offered 2 weeks shadowing on Pobol y Cwm when shooting starts again in February 2025.

Understanding the planning, prep and paperwork required for production is essential for anyone who wants to work in TV so 7 days covering this side of what we do is invaluable. 5 days in studio will give trainees concentrated time to try out equipment and learn without the interruption of filming.

Are you the right candidate?

To succeed in this trainee role, you will need the following:

• Ability to carry out electrical installation work in accordance with the current IET Wiring regulations BS7671 18th Edition (Essential)
• Experience of working with electrics in a domestic environment and/or studying electrics
• Experience of completing physically demanding tasks, including manual handling and rigging, with the capabilities to work safely at heights
• Experience and examples of when you have worked in environments where there are conflicting priorities and problems to solve
• An overall a strong interest in electrics and Welsh TV drama

  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad ym maes trydan y tu hwnt i’r byd teledu? Yn awyddus i drosglwyddo’r sgiliau hynny i ddrama barhaus eiconig Cymru a datblygu sgiliau allweddol ym myd teledu? Rydyn ni’n chwilio am Drydanwr dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm.  Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n berson craff? Ydych chi'n tueddu i floeddio ar y teledu pan sylwch ar gamgymeriad dilyniant? Rydyn ni'n chwilio am Oruchwylydd Sgript dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad Cymraeg, Pobol y Cwm.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur yn y byd drama deledu? Rydym yn chwilio am 2 x Artist Colur Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, os oes gennych...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni’n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu’n wniadydd? Rydyn ni’n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu'n wniadydd? Rydyn ni'n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni'n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi wrth eich bodd gyda sain? Ydych chi'n caru DJ'io, creu a recordio cerddoriaeth, neu'n cynhyrchu eich podlediadau eich hun? Neu efallai eich bod yn gweithio mewn rôl blaen y tŷ - yn gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth fyw, theatr neu'n teithio gyda band ac yn ysu i fod yn fwy ymarferol, neu efallai eich bod yn gweithio ym...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd:  Ydych chi wrth eich bodd gyda sain? Ydych chi’n caru DJ’io, creu a recordio cerddoriaeth, neu’n cynhyrchu eich podlediadau eich hun? Neu efallai eich bod yn gweithio mewn rôl blaen y tŷ – yn gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth fyw, theatr neu’n teithio gyda band ac yn ysu i fod yn fwy ymarferol, neu efallai eich bod...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg.P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â bod gennych...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P’un a ydych wedi’ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gynorthwyydd camera profiadol sy'n barod i symud i fod yn ffocysydd? Rydyn ni'n chwilio am Ffocysydd (Focus Puller) dan Hyfforddiant i ymuno â'n cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm,...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi’n gynorthwyydd camera profiadol sy’n barod i symud i fod yn ffocysydd? Rydyn ni’n chwilio am Ffocysydd (Focus Puller) dan Hyfforddiant i ymuno â’n cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi’n caru camerâu? Efallai eich bod wedi astudio’r cyfryngau neu deledu ac wedi cael blas ar greu eich cynnwys eich hun, neu a oes gennych chi gamera gartref rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud fideos ar gyfer YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant i...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n caru camerâu? Efallai eich bod wedi astudio'r cyfryngau neu deledu ac wedi cael blas ar greu eich cynnwys eich hun, neu a oes gennych chi gamera gartref rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud fideos ar gyfer YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant i weithio ar ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Eteach Full time

    Cyfle gwych i siaradwr Cymraeg brodorol â chefndir Rheoli Cyfrifon blaenorol i groesi hyfforddiant i'r sector Addysg gan weithio ochr yn ochr â'n tîm Rheoli Llwyddiant Cwsmer hynod lwyddiannus. Rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyda chefnogaeth barhaus a hyfforddiant pellach lle bo angen. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd gyrfa...


  • Cardiff, United Kingdom Crown Prosecution Service Full time

    **Location: Cardiff, Mold, Swansea** **Salary**:£62,030 - £65,450 (Cenedlaethol) **Job summary** Gofynnir i ymgeiswyr nodi eu dewis lleoliad Ardal ar y ffurflen gais ond dylid nodi y byddwn yn ystyried dewisiadau ymgeiswyr o ran eu dewis lleoliad Ardal yn ddiweddarach yn y broses ac yn ceisio darparu ar gyfer hynny lle bynnag y bo modd, er na allwn...