Artist Colur Hyfforddiant

3 weeks ago


Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

Cyflwyniad i'r Swydd:

Ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur yn y byd drama deledu? Rydym yn chwilio am 2 x Artist Colur Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg.

P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, os oes gennych gymhwyster sy'n eich galluogi i roi colur (HNC, HND neu radd), byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar ein cynyrchiadau drama. Mae'r rolau hyn yn cael eu cynnig gan BBC Studios a Siop Un Stop-One Stop Shop, sef Clwstwr Sgiliau'r BFI yng Nghymru.

Beth yw Artist Colur Hyfforddiant?

Mae Artist Colur Hyfforddiant yn chwarae rôl hanfodol yn adran golur cynhyrchiad. Mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys amrywiaeth o dasgau i gefnogi'r artist colur a sicrhau bod actorion a pherfformwyr yn edrych ar eu gorau ar y sgrin neu ar lwyfan.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Gan weithio o dan gyfarwyddyd y Cynllunydd/Goruchwylydd Colur, byddwch yn cael gweld sut mae ein hadran golur yn gweithredu. Drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad a ddatblygwyd o'ch hyfforddiant, byddwch yn cynorthwyo'r tîm drwy weithio gydag actorion a'u paratoi ar gyfer y set.

Efallai y byddwch hefyd ar gael am 'touch ups' a newidiadau drwy gydol y cyfnod ffilmio, dilyniant neu 'continuity', cwblhau a threfnu gwaith papur, archebu stoc, siopa i'r adran, a mynd ar neges –
i gyd yn cyfrannu at gipolwg gwerthfawr o fyd y ddrama deledu a rôl Cynorthwyydd Colur.

Pa gyfle sy'n iawn i chi?

Bydd y rhai o dan hyfforddiant yn treulio amser mewn ystafell ddosbarth a byddant yn cael cyfle i weithio ar y set. Mae deall y cynllunio, y paratoadau a'r gwaith papur sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiad yn hanfodol i unrhyw un sydd eisiau gweithio ym myd teledu.

Ai chi yw'r ymgeisydd iawn?

I fod yn llwyddiannus yn rôl hon dan hyfforddiant, mae'n rhaid i chi gael y canlynol:

  • Gradd sylfaen, gradd baglor neu HND mewn artistwaith Colur neu gyfwerth.
  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o feddalwedd monitro dilyniant.
  • Diddordeb go iawn mewn colur a thystiolaeth o fwrw ati'n rhagweithiol i chwilio am ffyrdd o fagu mwy o brofiad a gwybodaeth.
  • Syniadau a safbwyntiau creadigol gwreiddiol.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol.
  • Profiad o weithio i friff o fewn amserlen benodedig.
  • Profiad o drin a gweithio gyda chleientiaid a/neu fodelau yn sensitif.
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm.
  • Angerdd am ddramâu sebon a'r ddrama Gymraeg.


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P’un a ydych wedi’ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg.P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â bod gennych...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu’n wniadydd? Rydyn ni’n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu'n wniadydd? Rydyn ni'n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni'n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni’n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n...