Cynorthwyydd Chwarae Dechrau’n Deg X2

6 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am dau Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars.

Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn falch o fod yn lleoliad cynnes a chroesawgar yng nghanol y gymuned, sy'n darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant 2-3 oed, o ddydd Llun i ddydd Gwener, fel rhan o ddarpariaeth Dechrau'n Deg. Ar hyn o bryd rydym ar dir Ysgol Uwchradd Willows.

Dywedodd rhieni y mae eu plant wedi mynychu Twinkle Stars:
**_ "Rydw i mor ddiolchgar i'r staff, gwnaethon nhw helpu fy mab ac rwy’n gallu gweld gwelliant enfawr. Gwnaethon nhw wrando arnom am bryderon am ein mab a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i'n cefnogi. Mae’r staff yn wych. Mae ein mab wrth ei fodd yn mynd yno".
- **

**_"Mae gen i dri o blant sydd wedi mynychu Twinkle Stars, ac mae pob un wedi bod wrth eu boddau’n mynd yno. Maent yn tyfu cymaint wrth fynychu, o ran hyder yn eu lleferydd a’u sgiliau _**annibynnol ac mae hynny o ganlyniad i gariad a gofal y staff yn y lleoliad."

Dyma beth ddywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ein harolwg diwethaf:
**_ ‘Mae ymarferwyr yn darparu amgylchedd meithringar a gofalgar lle mae anghenion y plant yn dod gyntaf............ Mae'r ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i blant ei archwilio ac i ddysgu, ac mae ymarferwyr yn addasu'r ddarpariaeth a'r adnoddau mewn ymateb i ddiddordebau’r plant.'_**

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i thargedu at blant dan 4 oed a’u teuluoedd. Mae gofal plant rhan-amser ar gyfer plant 2-3 oed yn un rhan o arlwy Dechrau'n Deg.

Cefnogir y lleoliad gofal plant gan dîm arweinyddiaeth ymroddedig a phwrpasol o fewn gwasanaeth Rhianta a Chwarae Caerdydd. Rydym yn rhan o dîm amlasiantaeth ehangach o weithwyr proffesiynol sy'n darparu Gwasanaethau Rhianta a Chwarae ledled Caerdydd. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i gefnogi staff, cyfleoedd hyfforddi rhagorol a datblygiad gyrfaol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd 0-18 - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk) - Rhianta Caerdydd 0-18 - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd : Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook - chwiliwch am Cardiff Parenting - Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.
**Am y Swydd**
Rydym yn chwilio am 2 Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm gofal plant yn Twinkle Stars. Byddwch yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd i weithio yn y lleoliad.

Bydd y Cynorthwyydd Chwarae yn chwarae rhan allweddol wrth ymuno â thîm profiadol o staff sy'n darparu profiadau chwarae difyr a hwyliog i blant 2-3 oed. Rydym yn croesawu syniadau newydd a chyffrous gan ymgeiswyr llwyddiannus i blant ddysgu trwy chwarae a bod yn yr awyr agored. Bydd y Cynorthwyydd Chwarae yn gallu cynllunio'n effeithiol ar gyfer dysgu plant, bod yn llawn hwyl ac yn ymgysylltiol.

Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg Twinkle Stars ar agor i blant o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am - 11:30am a 12:30pm - 3pm. Oriau gwaith y swydd yw 8:30am - 3:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn gorffen am 4:30pm un noson yr wythnos i fod yn bresennol mewn cyfarfod tîm. Bydd deiliad y swydd yn gweithio 33.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. Mae pob diwrnod yn cynnwys egwyl ddi-dâl o 30 munud i ginio.

Bydd gan y Cynorthwyydd Chwarae ymrwymiad i ddatblygiad plant a sicrhau bod y plant a'r teuluoedd yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu bob amser.

Yng Nghyngor Caerdydd rydym yn cymryd lles ein holl staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd yr ydym yn ceisio cyflawni hyn, gyda chyfleoedd i chi fel gweithiwr:

- **Gael mynediad i **Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg** sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- **Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol** a gynigir gan dîm datblygu’r gweithlu gwybodus ac ymroddedig, p'un a ydych newydd gymhwyso neu'n ymarferydd profiadol sy'n arbenigwr yn eich maes.
- **Cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa ar draws Tîm Cymorth Cynnar Caerdydd gyfan - **rydym yn annog datblygiad gyrfaol ac yn cefnogi gweithwyr i sicrhau bod ganddynt fynediad i ddatblygu eu cryfderau ym mhob maes.
- **Cymorth** drwy fentoriaeth, goruchwyliaeth ac uwch dîm rheoli sy'n cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu llwyddiant.

Byddwch yn cael eich cefnogi gyda sesiwn sefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus gan reolwr llinell, a thrwy oruchwylio.
**Yr Hyn Rydy



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am tri Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Adnoddau Gwaith Cymdeithasol llawn amser ar gontractau o 12 mis. Mae'r swyddi yn rhan o'r gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol ac yn helpu i sicrhau bod dinasyddion yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau. Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor...