Cynorthwywyr Adnoddau Gwaith Cymdeithasol

3 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Adnoddau Gwaith Cymdeithasol llawn amser ar gontractau o 12 mis. Mae'r swyddi yn rhan o'r gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol ac yn helpu i sicrhau bod dinasyddion yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau.

Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd yn cefnogi bron i 5000 o bobl ar draws yr ardal a nhw yw'r mwyaf yng Nghymru. Y Gwasanaethau Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol yw ein tîm mwyaf yn y Gwasanaethau Oedolion, gyda ffocws ar helpu unigolion i fyw mewn man lle maent yn saff a diogel.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm sy'n cefnogi'r broses asesu a chynllunio gofal i ddinasyddion. Gan weithio'n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol, Rheolwyr Gofal Cartref a Therapyddion Galwedigaethol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gofal a chymorth yn cael ei drefnu ar gyfer dinasyddion yn y gymuned. Mae angen sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol yn ogystal â dealltwriaeth dda o'r broses cynllunio gofal.

Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys:

- Cefnogi gweithwyr cymdeithasol gyda'r broses cynllunio gofal
- Cwblhau atgyfeiriadau, cynlluniau gofal a chymorth i ddinasyddion
- Cysylltu â dinasyddion, cydweithwyr a darparwyr gofal
- Cynnal a diweddaru cronfeydd data cyfrifiadurol
- Rhoi cymorth gweithredol cyffredinol i’r tîm

Mae'r swyddi'n cynnwys ystod eang, amrywiol a chyfnewidiol o dasgau mewn amgylchedd deinamig. Bydd angen i chi fod yn barod i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun, gallu gweithio dan bwysau mewn amgylchedd prysur, a bod yn ymrwymedig i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddinasyddion a chydweithwyr.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad mewn lleoliad gweinyddol, rhaglenni Microsoft Office a byddant wedi gweithio gydag aelodau'r cyhoedd. Bydd gofyn i chi fod yn drefnus iawn a defnyddio'ch gwybodaeth a'ch menter eich hun yn ddyddiol. Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn amgylchedd sy'n newid yn gyson, felly mae'r gallu i ddysgu ac i addasu'n gyflym yn hanfodol. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi gynorthwyo timau gwaith cymdeithasol eraill yng Nghaerdydd, felly rhaid i chi fod yn agored i gyfleoedd newydd a meddu ar agwedd gadarnhaol.

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddangos sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol a sgiliau trefnu a chael profiad o weithio gydag aelodau'r cyhoedd.

Bydd gofyn i chi ymatal rhag barnu’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau a rhaid i chi fod yn barod i weithio’n hyblyg fel aelod o dîm i ddiwallu anghenion newidiol y cwsmer a all gynnwys gweithio o ganolfannau timau eraill.

Mae’r gallu i siarad Gymraeg yn ddymunol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rheiny:

- sy’n 25 oed ac iau
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
- o’n cymunedau lleol gan gynnwys unigolion anabl,

gofalwyr a’r rheini o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a

chymuned LHDT+ Caerdydd yn arbennig
- sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03265



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym am recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol o fewn Gwasanaethau Oedolion. Mae'r rhain yn swyddi parhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae eu rôl gyda'n Tîm Dyletswydd yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon ar hyn o bryd yn cael taliad atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Gofal CYmdeithasol? Mae dod yn Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Canolfan Ymyriadau. Mae angen cynorthwy-ydd gwaith cymdeithasol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n Gwasanaeth Pobl Hŷn a Namau Corfforol yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae hon yn swydd barhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae’r rôl gyda'n Tîm Ysbytai yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol sy'n angerddol am hawliau pobl ag anableddau dysgu ac sydd am fod yn rhan o wasanaeth sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n galluogi pobl i fyw bywydau llawn ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Teitl y Swydd**:Cynghorydd Adnoddau Dynol** **Contract**:Llawn amser, Parhaol** **Cyflog: £33,897-36,154 y flwyddyn** **Oriau**:37, Pum diwrnod** **Lleoliad**:Caerdydd** **, gweithio o gartref** Mae swydd wag gyffrous ar gael fel Cynghorydd Adnoddau Dynol yn yr adran Adnoddau Dynol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    Swyddog CymdeithasolCyfle i Ymuno â Sefydliad Gofal Cymdeithasol CymruYn Sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth a chymorth mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein GweledigaethEin nod yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, teuluoedd a gofalwyr.Yn arwain y gwaith, rydym yn rhoi...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** *Mae atodiad marchnad o £3000 yn daladwy yn ychwanegol at y cyflog a restrir* Mae ein gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol yn rhan o'r Gwasanaethau Oedolion, o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...


  • Cardiff, United Kingdom BASW Full time

    Swydd Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol (Hil)Mae Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain Cymru (BASW Cymru) yn chwilio am ymarferydd gwaith cymdeithasol profiadol i weithio fel Catalystwr Newid Cymdeithasol ar gyfer y swydd Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol (Ras).Funded by Lywodraeth Cymru a'i Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth, bydd...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Ddim yn bell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar y daith weithredu ac sy’n defnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...