Swyddog Cymorth Busnes
2 days ago
**Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am Swyddog Cymorth Busnes a’i rôl fydd canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddatblygu, cynnal a chadw a chyfathrebu ar gyfer ein llwyfan 'Beth Nesaf? Caerdydd’. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cymorth gweinyddol ehangach ar draws prosiectau ychwanegol sy'n rhan o flaenoriaeth Llwybrau Dysgu y Fenter. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gartref yn bennaf ond bydd angen iddo fynd i Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, CF10 4UW a lleoliadau eraill ledled Caerdydd weithiau. **Am Y Swydd** Ydych chi’n meddu ar y canlynol - Angerdd am lwyfannau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol? - Diddordeb mewn datblygu a chynnal a chadw gwefannau? - Diddordeb mewn cyfathrebu a marchnata? - Dawn greadigol a sylw ar fanylion? - Dealltwriaeth o negeseuon cyfryngau cymdeithasol "ar duedd" a llwyfan digidol? - Brwdfrydedd dros gefnogi plant a phobl ifanc Caerdydd? - Y gallu i siarad Cymraeg? Yn y rôl Swyddog Cymorth Busnes hon, byddwch yn cefnogi'r Swyddog Ôl-16 i ddatblygu a chynnal ein llwyfan 'Beth Nesaf? Caerdydd’. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cynnwys, ychwanegu, dileu a threfnu cynnwys, a sicrhau bod pob agwedd ar y wefan yn parhau i fod yn weithredol. Ar brydiau, bydd gofyn i chi gysylltu â rhanddeiliaid i gasglu cynnwys newydd a hyrwyddo eu defnydd o'r llwyfan. Byddwch hefyd yn cefnogi ein gwasanaeth drwy ddysgu cyfathrebu negeseuon ar draws y cyfryngau cymdeithasol drwy greu ac amserlennu negeseuon, ail-rannu negeseuon gan bartneriaid Addewid Caerdydd a chwarae rhan wrth weithredu ymgyrchoedd marchnata wedi'u targedu fel rhan o'n strategaeth cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Busnes sy'n greadigol, yn arloesol, yn ddyfeisgar ac yn rhywun sy'n gallu dysgu defnyddio llwyfannau dylunio graffig fel Canva i frandio negeseuon a dogfennau fformat y gellir eu rhannu'n fewnol ac yn allanol i'r Cyngor. Mae angen i chi fod yn berson brwdfrydig ac yn barod i gyfrannu syniadau ar sut i hyrwyddo Addewid Caerdydd. Byddwch hefyd yn darparu cymorth drwy weithredu a chynnal systemau gweinyddol, ac ar adegau, bydd disgwyl i chi hefyd fynychu cyfarfodydd mewn swydd arsylwadol a darparu nodiadau manwl ar gyfer aelodau eraill y tîm. Mae cyfle hefyd i ddatblygu eich sgiliau ymchwil drwy nodi darpariaeth a chyfleoedd newydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i bobl ifanc 16-24 oed yng Nghaerdydd. **Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd. Mae ein Swyddogion Cymorth Busnes yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa. **Gwybodaeth Ychwanegol** Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Dylech deilwra eich cais i'r rôl a nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf. Peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o roi’r wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais. I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl yn y dyfodol efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach Addewid Caerdydd drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, a LinkedIn. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: - Canllawiau Gwneud Cais - Gwneud cais am swydd â ni - Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol: - Siarter y Gweithwyr - Recriwtio Cyn-droseddwyr - Nodyn Preifatrwydd Job Reference: EDU00642
-
Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol yn gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Cymorth Systemau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli technolegau newydd yn...
-
Rheolwr Cymorth Busnes
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...
-
Swyddog Cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant, yn y Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg. Bydd y tîm newydd hwn yn gyfrifol am gyflawni ystod o swyddogaethau cymorth busnes ar gyfer y gwahanol dimau o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant. Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy'n...
-
Swyddog Cymorth Prosiectau
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm Datblygu ac Adfywio yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys cynlluniau tai newydd, uwchraddio amgylcheddau drwy gynlluniau adfywio ystadau, gwella tir cyhoeddus, gwella Canolfannau Siopa Ardal a Lleol a gwella cyfleusterau cymunedol. Mae'r tîm Adfywio yn canolbwyntio'n benodol ar gyflawni cynlluniau...
-
Swyddog Cymorth Busnes
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau’r Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Swyddog Gweinyddol Llawn-amser ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r...
-
Cynorthwy-ydd Adnoddau
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i weithio gyda'r Tîm Cymorth Busnes i helpu i roi cymorth busnes i dîm rheoli’r Gwasanaethau 24/7. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Teleofal, Pryd ar Glud a'r Ganolfan Derbyn Larymau. **Am Y Swydd** - Helpu i gyflawni rôl weinyddol amlswyddogaethol ar gyfer y Gwasanaeth yn ôl yr angen. - Cynorthwyo â’r...
-
Swyddog Cyngor Ar Ddigartrefedd
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...
-
Swyddog Diogelwch Tân
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Swyddog Diogelwch Tân yn darparu gwasanaeth cymorth proffesiynol i Reolwyr Adeiladu yn adeiladau corfforaethol y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddog diogelwch tân profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Prif ddiben y rôl hon yw cynnal...
-
Swyddog Cyswllt Porth y Teulu
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....
-
Swyddog Amserlennu Opti-time
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time rhan-amser (18.5 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth...