Current jobs related to Swyddog Cymorth Prosiectau - Cardiff - Cardiff Council


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...

  • Swyddog

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer** **Swyddog, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.** **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...

  • Swyddog Arweiniol

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes rhan-amser dros dro (18.5 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth gweinyddol i'r gwasanaeth a'r rheolwr ac yn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth. **Beth Rydym Ei...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth maethu, Maethu Cymru Caerdydd. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sylweddol sy'n cefnogi'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol drwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol a monitro cynnydd yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sylweddol sy'n cefnogi'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol drwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol a monitro cynnydd yr...

  • Swyddog Prosiectau

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hyn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

Swyddog Cymorth Prosiectau

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r tîm Datblygu ac Adfywio yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys cynlluniau tai newydd, uwchraddio amgylcheddau drwy gynlluniau adfywio ystadau, gwella tir cyhoeddus, gwella Canolfannau Siopa Ardal a Lleol a gwella cyfleusterau cymunedol.

Mae'r tîm Adfywio yn canolbwyntio'n benodol ar gyflawni cynlluniau cyfalaf gyda'r nod o wella ansawdd bywyd trigolion Caerdydd. Mae ein cynlluniau'n amrywio o brosiectau ar raddfa fach fel cynlluniau gwella amgylcheddol lleol, o dan ein Rhaglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau, i gynlluniau adfywio ystadau ac adnewyddu adeiladau cymunedol mawr fel ein Rhaglen Canolfannau Cymunedol lwyddiannus.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Cymorth Prosiectau ymuno â'r Tîm Adfywio. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ymroddedig i helpu i ddod â newid i'n cymunedau drwy amrywiaeth o gynlluniau.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus helpu i gyflawni prosiectau, codi archebion prynu a cheisiadau am wybodaeth am dir / cyfleustodau. Bydd angen cynnal archwiliadau safle a threfnu gwaith cynnal a chadw / gwella ar raddfa fach ar dir y Cyngor a stoc gatio lôn gefn lle bo angen. Mae dadansoddi data prosiectau a gwariant ar gyfer monitro prosiectau, gweinyddu’r gwaith o ddosbarthu dogfennau ymgynghori, a chynorthwyo mewn digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus hefyd yn rhan o'r rôl. Mae gweithio mewn partneriaeth â thimau yn y Cyngor a gyda rhanddeiliaid a chymunedau allanol wrth wraidd yr hyn a wnawn.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Dylech feddu ar brofiad o weithio mewn rôl cymorth prosiectau, sgiliau cyfathrebu rhagorol a lefel uchel o gymhwysedd gyda phecynnau TG. Mae profiad o brosesu gorchmynion a thaliadau yn hanfodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â Daryne Keogh drwy ffonio
07815 992892

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02131