Swyddog Diogelwch Tân

2 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Swyddog Diogelwch Tân yn darparu gwasanaeth cymorth proffesiynol i Reolwyr Adeiladu yn adeiladau corfforaethol y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
**Am Y Swydd**
Mae angen Swyddog diogelwch tân profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Prif ddiben y rôl hon yw cynnal asesiadau risg tân ar safle Cyngor Caerdydd er mwyn galluogi'r Cyngor i reoli'r risg o dân o ddydd i ddydd.

Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor arbenigol i adrannau technegol i gefnogi trefniadau diogelwch tân, ymateb i bryderon, cynghori ar waith adfer a gweithredu fel rhan o dîm arbenigol y Cyngor ar bob agwedd ar reoli diogelwch tân. Bydd y swydd yn eistedd o fewn yr Is-adran Iechyd a Diogelwch ac yn adrodd i'r Rheolwr Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn weithiwr diogelwch tân proffesiynol deinamig, gyda phrofiad o gyflwyno asesiadau risg tân yn ogystal â darparu cyngor ac arweiniad technegol ar yr holl faterion sy'n ymwneud â diogelwch tân.

Bydd gennych hanes profedig o gynghori ar faterion rheoli diogelwch tân, yn ogystal â phrofiad ymarferol o gynnal arolygiadau, asesiadau risg ac ymchwiliadau tân a llosgi bwriadol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol arnoch, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y gallu i flaenoriaethu tasgau a llwyth gwaith amrywiol, i gyd-fynd â thargedau gwasanaeth a therfynau amser ynghyd ag ymatebion adweithiol o fewn amserlenni penodedig.

Byddwch yn ymrwymedig i ddarparu cyngor a chymorth proffesiynol o ansawdd uchel i'n Rheolwyr Adeiladu a'n hadrannau technegol er mwyn sicrhau diogelwch a lles aelodau'r staff a'r cyhoedd.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu’r Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd yn destun gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00270



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol yn gyfrifol am gynnal a chadw holl stoc tai domestig Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Llety Dros Dro, Cyfadeiladau Byw yn y Gymuned, hosteli, ystafelloedd unigol ac ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ymateb i geisiadau cynnal a chadw...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Swyddog Cyswllt

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Comisiynu Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a gomisiynir yn allanol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy’n hysbys i, neu sy'n ymwneud â, Gwasanaethau Plant Caerdydd. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio gyda'r farchnad a'i datblygu i gynyddu nifer ac ansawdd y gwasanaethau sydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...

  • Swyddog Storfa

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Swyddog Storfa wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ehangu'r tîm, mae cyfle newydd cyffrous ar gael i ymuno â'r tîm Perfformiad a Pholisi o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Gwasanaethau i Oedolion yn cefnogi dinasyddion ledled Caerdydd i fyw'n dda ac yn darparu mynediad at wasanaethau gofal, cymorth a chyngor sy'n gweithio gyda thimau ar draws y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau’r Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Swyddog Gweinyddol Llawn-amser ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r...