Current jobs related to Swyddog Cyswllt Presenoldeb Ac Ymgysylltu â - Barry - Vale of Glamorgan Council
-
Swyddog Datgarboneiddio Ac Ynni
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae ein tîm Datgarboneiddio ac Ynni, sy'n rhan o adran eiddo'r Cyngor, yn rheoli'r gwaith o gyflawni prosiectau lleihau ynni ar gyfer y cyngor ar draws ein hasedau adeiladau. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor i gyflawni'r heriau sy'n gysylltiedig ag eiddo a nodir yn y Cynllun Her Newid Hinsawdd; yn ogystal â data...
-
Swyddog Diogelwch
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Cynnig presenoldeb diogelwch i eiddo sy'n berchen i'r Cyngor at y diben o atal lladrad, tresmasu, fandaliaeth a monitro pobl a cherbydau, i sicrhau amgylchedd diogel i'r holl ddefnyddwyr **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 2 £23,151 pa **Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. **Amser tymor**...
-
Swyddog Cymorth Cyfreithiol
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn cynnwys diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, masnachu teg, rheoli llygredd, a...
-
Swyddog Diogelwch
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Cynnig presenoldeb diogelwch i eiddo sy'n berchen i'r Cyngor at y diben o atal lladrad, tresmasu, fandaliaeth a monitro pobl a cherbydau, i sicrhau amgylchedd diogel i'r holl ddefnyddwyr **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 2 £21,029 pa **Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener. Mon 18:50 - 07:10, Thur 06:50 -...
-
Swyddog Allgymorth a Chyfathrebu Ailgylchu I
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn recriwtio Swyddog Allgymorth a Chyfathrebu Ailgylchu i Fyfyrwyr i ymuno â Phartneriaeth Gymunedol Myfyrwyr Caerdydd. Mae Partneriaeth Gymunedol Myfyrwyr Caerdydd yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, ac mae wedi arwain amrywiaeth o ymgyrchoedd a mentrau llwyddiannus...
-
Swyddog Mangre
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i’r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau’r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â’r safonau angenrheidiol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i...
-
Cyfathrebu Ac Ymgysylltu Intern
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Dyma gyfle i ymuno â Thîm Cyfathrebu Cyngor Bro Morgannwg. Gan weithio mewn amgylchedd creadigol, cyflym, wrth galon y sefydliad, mae'r tîm yn gyfrifol am bob agwedd o gyfathrebu mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau, rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a datblygu gwefan a mewnrwyd y sefydliad. Fel...
-
Swyddog Gwasanaethau Cymdogaeth
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn recriwtio Swyddog Gorfodi Eiddo Gwag i'n Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth o fewn y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Mae'r tîm yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cwmpasu Tai Sector Preifat, Rheoli Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl**:Tâl Gradd 9, PCG 31-35, **£37,261 - **£**41,496** Oriau Gwaith / Patrwm...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Cyswllt Ar ôl Mabwysiadu
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...
-
Swyddog Datblygu Ieuenctid
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro gyfle cyffrous o fewn ei dîm rheoli. Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi'i wreiddio o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ac, yn dilyn ei arolygiad cadarnhaol diweddar gan Estyn yn gynharach eleni, mae'n chwilio am arweinydd gwaith ieuenctid brwdfrydig i ymgymryd â rôl y Swyddog Datblygu Ieuenctid...
-
Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r swydd hon yn rhan o’r tîm Cynhwysol, yn cynnig cwricwlwm amrywiol o weithgareddau a phrosiectau ieuenctid mewn ysgolion, y gymuned a'r awyr agored wrth ddiwallu anghenion a diddordebau pobl ifanc ym Mro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog ar gyfer...
-
Swyddog Diogelwch Cymunedol
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth i atal a lleihau trosedd ac anhrefn a gwella canfyddiadau’r cyhoedd, lles a diogelwch cymunedol y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Bro Morgannwg. **Ynglŷn â'r rôl** **Ynglŷn â’r swydd**: **Manylion Tâl**:Gradd 6*** **Oriau Gwaith / Patrwm **Gwaith: 37 awr / 5...
-
Swyddog Gweinyddol- St Athan Primary School
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Am y Rôl** Manylion am gyflog: Gradd 6 Diwrnodau / Oriau Gwaith: 37awr, amser tymor Parhaol **Disgrifiad**: Mae angen unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio fel Swyddog Gweinyddol, yn yr ysgol uchod. Dylai ymgeiswyr fod â chymwysterau NVQ Lefel 2 neu gyfwerth ynghyd â phrofiad a dealltwriaeth gadarn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn...
-
Cydlynydd Sgiliau Digidol
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwsanaeth Addysg Gymunedol Oedolion Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i oedolion. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Nôl ar y Trywydd Iawn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu addysg mewn sgiliau a chymwysterau ar gyfer pobl sy’n gymwys, yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Digidol, Cyflogadwyedd, Cyfathrebu a...
-
Swyddog Incwm
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...
-
Gweithiwr Achos Ymgyslltu Disgyblion
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Gyda newidiadau a datblygiadau yn y dyfodol o fewn y Tîm Addysg, mae swydd barhaol newydd a chyffrous ar gael ar gyfer Gweithiwr Achos Ymgysylltu Disgyblion. Mae’r swydd hon yn eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau sy’n adrodd i’r Cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu â Disgyblion a’r Rheolwr AHYYY a bydd yn helpu i ysgogi a...
-
Swyddog Gofal Cymdeithasol
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...
-
Gweinyddwr Quickstart a Chynorthwyydd Cyfryngau
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Rydym yn cynnig cymorth cyflogadwyedd i oedolion 16+ oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda'r unigolion hyn i'w symud i gyflogaeth gynaliadwy ac i ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn...
-
Swyddog Cymorth Technegol
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r swyddi uchod ar gael o fewn Adran Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg sy'n cynnwys gwasanaethau cydgysylltiedig Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth, Peirianneg a Thrafnidiaeth. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnwys gweithrediadau rheng flaen sylweddol a blaenllaw sy'n cyflawni swyddogaethau amrywiol yn uniongyrchol i...
-
Uwch Swyddog Gofal Dydd
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...
Swyddog Cyswllt Presenoldeb Ac Ymgysylltu â
7 months ago
**Amdanom ni**
Mae'r tîm Ymgysylltu â Disgyblion sydd newydd ei sefydlu (sydd wedi'i leoli yn y Gwasanaeth
Ieuenctid) yn chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad a gwybodaeth o weithio gyda dysgwyr ynysig
ac sy'n agored i niwed. Byddai'r swydd yn dod o dan y cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu
(Shelley Meredith) yn cefnogi’r tîm ymgysylltu â disgyblion o ddydd i ddydd.
Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am fonitro a chofnodi, tra'n cefnogi'r rheolwr gyda
chydlynu addysg plant sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol 'AHY', mae hyn yn cynnwys y
myfyrwyr hynny sy'n wynebu anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol ac sydd
angen ymyriadau ychwanegol neu bwrpasol, gan gynnwys darpariaeth wedi’i nodi i ddiwallu
angen.
Byddai'r swydd yn rhan o'r Gwasanaeth Ieuenctid, gan helpu i yrru a chyflawni nodau a
gweledigaeth y Rheolwr Ymgysylltu (Rhys Jones) mewn perthynas â Fframwaith Gweithredu
AHY, tra'n gweithio'n agos gyda'r tîm a phartneriaid ehangach.
Er ei fod yn dîm bach, byddai gan y swydd gysylltiadau allweddol â thimau yn y gyfarwyddiaeth
addysg, gwasanaethau a thimau'r cyngor, ysgolion statudol ac annibynnol, ochr yn ochr â
phartneriaid ehangach; gan sicrhau bod gweledigaeth ehangach y strategaeth AHY yn cael ei
chyflawni ar gyfer dysgwyr unigol.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Statws Sengl APT&C - Gradd 6
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: Swydd Lawn Amser - 37 awr x 52 wythnos.
Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig Y Barri - bydd y swydd yn cynnwys model gweithio hybrid gan
gynnwys ymweliadau ar draws y Sir.
Disgrifiad:
Cefnogi cylch gwaith a swyddogaeth y tîm Ymgysylltu â Disgyblion; cyfrifoldeb am fonitro a
sicrhau ansawdd dysgwyr Ymgysylltu â Disgyblion o ddydd i ddydd, gan wneud hynny drwy
gysylltu â phartneriaid, darparwyr, ysgolion, rhieni/gofalwyr a dysgwyr drwy gyfarfodydd ysgol,
ymweliadau cartref, sesiynau ymgysylltu a chyfarfodydd amlasiantaethol fel y bo'n briodol.
Gwneud cyfraniad effeithiol i nod y Gwasanaeth Ymgysylltu â Disgyblion o sicrhau bod plant o oedran ysgol statudol yn cael eu diogelu a hefyd yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd addysgol
sydd ar gael iddynt ac yn manteisio i'r eithaf ar eu potensial addysgol.
Cefnogi gwelliant drwy gynnig cyngor ac arweiniad, i rieni/gofalwyr, dysgwyr a gweithwyr ysgol proffesiynol i sicrhau bod darpariaeth ac addasiadau addas i'r cwricwlwm yn cael eu hystyried, gan hyrwyddo'r defnydd priodol o 14-19, hyrwyddo'r defnydd o lais y disgybl, cynllunio sy'n
canolbwyntio ar yr unigolyn a defnyddio data i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Arwain ar gofnodi, monitro a sicrhau ansawdd data - gan gynnwys atgyfeiriadau i'r panel iechyd
cymdeithasol, emosiynol a meddyliol (PICEM) a chefnogi'r Rheolwr Cynhwysiant gyda
brysbennu
**Amdanat ti**
Further detail can be found in attached job description / person specification.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio gyda dysgwyr sy’n agored i niwed
- Tystiolaeth o DPP diweddar a pherthnasol
- Profiad o brosesau a gweithdrefnau diogelu
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas ag ADY / AAA
- Ymwybyddiaeth o ystod o lwybrau a chyfleoedd cymwysterau galwedigaethol a ffurfiol
- Profiad o weithio gyda’r awdurdod lleol
- Profiad o waith amlasiantaethol ac atgyfeirio
- Gwybodaeth am y Ddeddf ADY Newydd, Cwricwlwm Newydd a strategaethau
Llywodraeth Cymru
- Profiad neu wybodaeth am brosesau a systemau gwybodaeth reoli corfforaethol
- Profiad o gynnal achosion.
Ceir rhagor o fanylion yn y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae gwiriad manwl yn
hanfodol ar gyfer y swydd hon
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Rhys Jones - Rheolwr Ymgysylltu ar 01446 709308 / 07739192394
Shelley Meredith - Cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu ar 07542028527
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: LS00261