Gweithiwr Achos Ymgyslltu Disgyblion
7 months ago
**Amdanom ni**
Gyda newidiadau a datblygiadau yn y dyfodol o fewn y Tîm Addysg, mae swydd barhaol newydd a chyffrous ar gael ar gyfer Gweithiwr Achos Ymgysylltu Disgyblion.
Mae’r swydd hon yn eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau sy’n adrodd i’r Cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu â Disgyblion a’r Rheolwr AHYYY a bydd yn helpu i ysgogi a chyflawni’r nodau mewn perthynas â Fframwaith Gweithredu AHYYY.
Mae hwn yn agoriad gwych i weithio o fewn Cyngor Bro Morgannwg lle byddwch yn cael y cyfle i adeiladu gyrfa ystyrlon.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion y Cyflog: Statws Sengl Gradd 6 Pt 14-19 - £27,334- £29,777.
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Swydd Lawn Amser - 37 awr yr wythnos
Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig y Barri - gweithio gartref a chynnal ymweliadau â chartrefi ac ysgolion hefyd
Cefnogi cylch gwaith a swyddogaeth y tîm Ymgysylltu â Disgyblion; cyfrifoldeb am fonitro a sicrhau ansawdd dysgwyr Ymgysylltu â Disgyblion o ddydd i ddydd, gan wneud hynny drwy gysylltu â phartneriaid, darparwyr, ysgolion, rhieni / gofalwyr a dysgwyr drwy gyfarfodydd ysgol, ymweliadau cartref, sesiynau ymgysylltu a chyfarfodydd amlasiantaethol fel y bo'n briodol.
Gwneud cyfraniad effeithiol i nod y Gwasanaeth Ymgysylltu â Disgyblion o sicrhau bod plant o oedran ysgol statudol yn cael eu diogelu a hefyd yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt ac yn manteisio i'r eithaf ar eu potensial addysgol.
Cefnogi gwelliant drwy gynnig cyngor ac arweiniad, i rieni / gofalwyr, dysgwyr a gweithwyr ysgol proffesiynol i sicrhau bod darpariaeth ac addasiadau addas i'r cwricwlwm yn cael eu hystyried, gan hyrwyddo'r defnydd priodol o 14-19, hyrwyddo'r defnydd o lais y disgybl, cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a defnyddio data i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Arwain ar gofnodi, monitro a sicrhau ansawdd data - gan gynnwys atgyfeiriadau i'r panel iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol (PICEM) gan gynnwys brysbennu
**Amdanat ti**
- Cymhwyster Safon Uwch neu’n uwch ym maes addysg neu waith ieuenctid neu faes tebyg arall sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.
- Sgiliau rhifedd / llythrennedd rhagorol.
- Hyfforddiant diogelu
- Cymhwysedd TGCh a digidol rhagorol mewn amrywiaeth o offer Microsoft Office fel Word, Excel, Teams, PowerPoint ac ati.
- Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi lles plant a phobl ifanc.
- Bod yn hyblyg, chwilfrydig, ymgysylltu a bod yn rhan effeithiol o dîm.
- Bod yn broffesiynol, yn agored, yn onest ac yn dryloyw gyda rhanddeiliaid fel cynrychiolydd brand Bro Morgannwg
- Y gallu i gefnogi eraill drwy fod yn sensitif, yn bwyllog ac yn ddoeth ym mhob sefyllfa.
- Rhaid gallu defnyddio egwyddorion hawliau cyfartal a chyfrinachedd.
- Bod yn hyblyg, yn drefnus, gyda'r gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch menter eich hun.
- Y gallu i groesawu ac addasu i newid er mwyn parhau i wella
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae angen cofrestriad CGA a oes angen gwiriad GDG: Mae gwiriad manwl yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Shelley Meredith -Cydlynydd Gwaith Achos Ymgysylltu Disgyblion on ymlaen 01446 709333 / 07542028527
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: LS00313
-
Childrens Services Worker
6 months ago
Barry, United Kingdom Action for Children Full time**Childrens Services Worker** **Salary**:£21,300 per annum (£9,210 per annum pro-rata) **Location**:Barry, Vale of Glamorgan **Contract/Hours**:2 x** **Permanent, Part-time - 16 hours per week Core working hours are between 15:00 - 19:00 Tuesday to Thursday and 09:00 - 13:00 on Saturdays **Benefits**: - 29 days annual leave PLUS bank holidays (up to...
-
Children's Services Worker
6 months ago
Barry, United Kingdom Action for Children Full time**Childrens Services Worker** **Salary**:£21,300 per annum (£12,665 per annum pro-rata) **Location**:Barry, Vale of Glamorgan **Contract/Hours**:1 x** **Permanent, Part-time - 22 hours per week Core working hours are between 08:30 - 19:00 Monday to Friday and 08:30 - 16:00 on Saturdays **Benefits**: - 29 days annual leave PLUS bank holidays (up to 5...
-
Children's Services Worker
7 months ago
Barry, United Kingdom Action for Children Full time**Childrens Services Worker** **Salary**:£21,300 per annum **Location**:Barry, Vale of Glamorgan **Contract/Hours**:Permanent, Full-time - 37 hours per week Core working hours are between 09:00 - 19:00 Monday to Friday and 09:00 - 13:00 on Saturdays **Benefits**: - 29 days annual leave PLUS bank holidays (up to 5 more days with continuous service) -...