Uwch Warden Ardal Leol

6 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae gan Gyngor Caerdydd Ganolfan Derbyn Larymau a Theledu Cylch Cyfyng achrededig sy'n llawn offer ac sy'n cynnig gwasanaeth 24/7 365 diwrnod y flwyddyn i lawer o'r adeiladau uchel a safleoedd y cyngor ledled y Ddinas. Yn gysylltiedig â Chanolfan Derbyn Larymau'r Cyngor mae'r tîm Wardeiniaid Ardal. Mae'r wardeiniaid yn gweithredu fel tîm ymateb y Ganolfan, yn delio â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn ymateb i larymau adeiladu.

**Am Y Swydd**
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i unigolyn brwdfrydig ymuno â'n tîm fel Uwch Warden Ardal Leol yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd. Mae'r Wardeiniaid Ardal yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn yn cynnal patrolau dyddiol o flociau fflatiau uchel y Cyngor ac yn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel ac i larymau adeiladau fel deiliaid Allweddi. Y wardeiniaid yw'r cyswllt rhwng yr adran dai a'r gymuned ac mae'n ofynnol iddynt ryngweithio â phreswylwyr wyneb yn wyneb yn ddyddiol, felly mae sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da yn hanfodol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen Uwch Warden Ardal, nid yn unig i ymuno â'r Wardeiniaid ar batrolau a digwyddiadau dyddiol ond hefyd i fod yn rhannol gyfrifol am oruchwylio'r Wardeiniaid Ardal, gan weithio'n agos gyda'r Arweinydd Tîm i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu i'r safon uchaf. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn debygol o allu gweithio’n dda fel aelod o dîm a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg gwybodaeth mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan feddu ar y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol gyda phob gwasanaeth i sicrhau bod cymaint o alwadau â phosibl yn cael eu datrys ar y cam cyntaf gyda lefel uchel o foddhad cwsmeriaid. Yn ogystal, byddai natur empathig a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd galwadau brys o fudd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r Ganolfan Gyswllt ar agor 24/7, bob diwrnod o’r flwyddyn, gan gynnwys Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc. Mae patrwm sifft priodol ar waith, sef 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd gyda gwelliannau a lwfansau perthnasol yn cael eu darparu. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi, cyn dechrau'r rôl.

Swydd dros dro yw hon i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae trwydded yrru ddilys lawn yn hanfodol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Gwybodaeth Ychwanegol y Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiad:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: RES01177



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â maes Strategaeth, Ansawdd a Chomisiynu Gwasanaethau Oedolion. Mae'r swyddi'n canolbwyntio'n benodol ar Ymgysylltu a Rheoli’r Farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartrefi Gofal i gefnogi cyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Caerdydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd...

  • Uwch Weithiwr Cymorth

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Byw â Chymorth Mewnol Caerdydd wrth iddo gychwyn ar raglen o wella a moderneiddio. Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig y cyfle i chi weithio o fewn cymuned fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru. Mae ein Gwasanaeth Byw â Chymorth bach ar hyn o bryd yn cefnogi 18 o unigolion ac yn cynnig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Crown Prosecution Service Full time

    **Location: Cardiff, Mold, Swansea** **Salary**:£62,030 - £65,450 (Cenedlaethol) **Job summary** Gofynnir i ymgeiswyr nodi eu dewis lleoliad Ardal ar y ffurflen gais ond dylid nodi y byddwn yn ystyried dewisiadau ymgeiswyr o ran eu dewis lleoliad Ardal yn ddiweddarach yn y broses ac yn ceisio darparu ar gyfer hynny lle bynnag y bo modd, er na allwn...

  • Swyddog Pensiynau

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...

  • Arbenigwr Categori

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. Mae tîm caffael Ardal wedi’i rannu'n 5 tîm gweithredol: Gwasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...

  • Caretaker

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom St Davids Catholic Sixth Form College Full time

    **Gofalwr rhan-amser, Contract cyfnod penodol - Caerdydd** Coleg Chweched Dosbarth poblogaidd a gor-danysgrifedig yw Coleg Dewi Sant, sy’n darparu addysg o safon uchel i fyfyrwyr 16-19 mlwydd oed o fewn Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ein harolygiad Estyn 2019, cawsom radd ‘rhagorol’ ym Maes Arolygu 1: Safonau, ac ym Maes Arolygu 5: Arweinyddiaeth a...

  • Uwch Swyddog Hyb

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Dwyrain (Hyb Llaneirwg, Hyb Llanrhymni, Hyb Partneriaeth Tredelerch & Hyb Powerhouse Llanedern) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tri chyfle cyffrous wedi codi yn yr Ardal Gwasanaeth Tai a Chymunedau am Drefnwyr Opti-Amser rhan-amser (18.5 awr yr wythnos) yn yr Uned Atgyweiriadau Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth Rydym Ei...