Swyddog Pensiynau
6 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, o’r adeg y maen nhw’n ymuno â'r cynllun i'w hymddeoliad.
**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm, ac i fod yn Swyddog Pensiynau o fewn y Tîm Gweinyddu Pensiynau. Bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth pensiwn effeithlon ac effeithiol, i holl aelodau a phensiynwyr y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a'r 42 o gyflogwyr sy'n cymryd rhan.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn gyfrifol am wirio a chymeradwyo gwaith a gynhyrchir gan Uwch Gynorthwywyr Pensiynau, gan gynnwys cyfrifo buddion ymddeol a marwolaeth, cyfrifo trosglwyddiadau i mewn ac allan, darparu ymatebion i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r Cynllun a deiliaid cyfran eraill, sicrhau bod targedau perfformiad a chynllun gweithredu yn cael eu cyrraedd. Byddwch yn hunan-gymhellol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol, yn meddu ar sgiliau rhifedd cryf a sylw da i fanylion ac yn mwynhau'r her o weithio mewn amgylchedd heriol. Byddwch yn dirprwyo ar ran yr Uwch Swyddog Pensiynau, yn ôl y galw.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i chi ddangos agwedd hyblyg tuag at waith a’r gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau.
Os oes gennych sgiliau cyfathrebu gwych, profiad o weithio mewn amgylchedd pensiwn a gwybodaeth am gynlluniau pensiwn a deddfwriaeth Buddion Diffiniedig, hoffem glywed gennych.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Jayne Newton ar 07929 830950.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01173
-
Uwch Swyddog Pensiynau
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...