Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth
7 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd.
Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd (C2C) i'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu rydym yn ei redeg ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru.
Ni yw'r arbenigwyr blaenllaw ar Microsoft PowerBI o fewn y cyngor a rhoddir hyfforddiant llawn ar y pecyn Microsoft newydd hwn. Gellir ennill achrediad PowerBI wrth weithio yn y tîm, sy'n sgil werthfawr iawn yn y sector ystadegau a delweddu data.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl hon fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth ac yn dysgu i ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwaith a’r cyfrifoldebau sy’n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd. Byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy yn y meysydd canlynol:
- Gweithio’n rhan o dîm
- Defnyddio Pecynnau Microsoft Office
- Cynhyrchu ystadegau i fesur perfformiad
- Defnyddio meddalwedd PowerBI ryngweithiol gyfoes Microsoft
- Hyfforddiant llawn ar becynnau meddalwedd y gellir ei gymhwyso at rolau eraill
- Llinell gyntaf cefnogaeth TG i ganolfan gyswllt brysur
- Achrediad rheoli prosiectau drwy Academi Cyngor Caerdydd
- Sgiliau dadansoddi, rhagamcanu a chyflwyno data.
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy grwpiau gwaith a chyfarfodydd.
Bydd y tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Rydym yn symud i weithio ar-lein a gartref a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein Dadansoddwyr Perfformiad Gwasanaeth yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Mal Perry ar 07788 417967.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Dylech deilwra eich cais i'r rôl a nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf. Peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o roi’r wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Job Reference: RES01214
-
Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...
-
Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'r Tîm Ystadegau a Chymorth yn darparu ystadegau ar gyfer pob maes o fewn y timau gwasanaethau cwsmeriaid a digidol, yn amrywio o brif ganolfan gyswllt Cyngor Caerdydd...
-
Uwch Ddadansoddwr Busnes
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael o fewn Tîm Perfformiad a Mewnwelediad y Cyngor ar gyfer Dadansoddwr Busnes sydd â diddordeb mewn bod wrth galon agenda perfformiad a gwella'r Cyngor. Mae dwy swydd wag ar gael yn bresennol. Mae un yn swydd barhaol o fewn y tîm a bydd yn cefnogi gwaith parhaus sy'n dod i mewn ar draws amrywiaeth o ffrydiau gwaith a...
-
Swyddog Yn y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...
-
Swyddog Yn y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...
-
Welsh Headings
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...
-
Rheolwr Technegol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** - Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Rheolwr Technegol yn yr Uned Gwella Adeiladau, y Tîm Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio. **Am Y Swydd** - Bydd deiliad y swydd yn cynllunio, datblygu a rheoli gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac yn goruchwylio gwaith contractwyr o ddydd i ddydd gan sicrhau bod...
-
Gweithwr Bar, Gwesty'r Vulcan, Sain Ffagan
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time**Eich gwaith** - Gweithio mewn tîm bach yn wynebu'r cyhoedd, gan fod yn gyfrifol am ddarparu bwyd a diodydd i ymwelwyr - Gweini amrywiaeth o gwrw casgen a photel, gwinoedd a gwirodydd - Cynnig gwasanaeth cwsmer o’r safon uchaf bob amser - Paratoi a gweini amrywiaeth o fwyd a diodydd - Cwblhau tasgau penodedig gan ddilyn prosesau a gweithdrefnau'r adran,...
-
Rheolwr Sicrwydd Ansawdd
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael i unigolyn ymroddedig ymuno â’n Gwasanaeth Byw’n Annibynnol. Mae'r Gwasanaeth yn dîm amlddisgyblaeth sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac aros yn rhan o’u cymuned, gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. **Am Y Swydd** Y Rheolwr Sicrwydd Ansawdd sy'n gyfrifol am...
-
Swyddog Perfformiad Tgrhff
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae GTC yn gyfrifol am fflyd o dros 900 o gerbydau a thua 600 darn o offer peirianyddol bach. Mae tua 100 o'r cerbydau hyn yn gerbydau trwyddedig Gweithredwyr, RCVau yn bennaf ac yn cefnogi gweithrediadau glanhau'r ddinas. Er mwyn cefnogi'r holl asedau hyn mae gan y cyngor brif weithdy mawr yn Grangetown a 2 weithdy lloeren llai mewn...
-
Swyddog Cyflawni Canlyniadau Gradd 6 Dros Dro Tan
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Cyflawni Partneriaethau i gynorthwyo nifer o brosiectau gan gynnwys y Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'r gronfa hon yn rhan o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth San Steffan i hybu cynhyrchiant, swyddi a safonau byw, adfer ymdeimlad gymuned, balchder lleol a pherthyn a...
-
Cyfrifydd y Trysorlys
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r swydd hon wedi'i lleoli o fewn tîm Cyfalaf, Corfforaethol a Rheoli'r Trysorlys adran Cyfrifeg y gwasanaeth Cyllid. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Nhîm y Trysorlys ac mae’n gyfrifol am reoli trafodion bancio, buddsoddi a benthyca’r cyngor a’i berfformiad adrodd. **Ynglŷn â’r swydd** Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am...
-
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Comisiynu
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn...
-
Swyddog Cyflawni Prosiectau Tgch
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...
-
Welsh Headings
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu ac anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda golwg ar fodloni eu anghenion fel y’u nodwyd. **Am Y...
-
Rheolwr Contractau a Monitro
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Rheoli Prosiectau o fewn Uned Gwella Adeiladau Tai a Chymunedau yn gyfrifol am strategaethau cyrchu a chaffael trefniadau addas ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau i gynnwys ymateb i geisiadau am waith atgyweirio, gwneud gwaith atgyweirio mewn eiddo gwag, gwneud gwaith wedi'i gynllunio a chyflawni...
-
Goruchwylydd Bwyd a Diod, Gwesty'r Vulcan, Sain
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time**Eich gwaith** - Gweithio yn y Vulcan, gan oruchwylio'r tîm yn uniongyrchol a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol bob amser - Bod yn atebol am sicrhau bod y Vulcan yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth a rheoliadau, gan gynnwys diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch - Sicrhau’r gwerthiant ac elw gorau posibl a chyrraedd targedau trwy...
-
Uwch Swyddog Llety â Chymorth X 2
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...
-
Swyddog Pensiynau
7 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...
-
Swyddog Contractau a Datblygu Gwasanaethau
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...