Cynorthwy-ydd Gweinyddol Comisiynu
5 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o wasanaethau allanol i ddinasyddion Caerdydd.
Prif flaenoriaethau'r Gwasanaeth yw:
Darparu gwasanaethau cymdeithasol o’r ansawdd uchaf posibl
- Integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol
- Goresgyn y rhwystrau a chydlynu gwasanaethau yn y Gymuned ac ar draws y Cyngor
- Sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a thrigolion Caerdydd cymaint â phosibl
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at wasanaeth cymorth busnes effeithiol yn Nhîm Contractau a Chomisiynu’r Gwasanaethau Oedolion yn unol â pholisïau, prosesau cymorth busnes a gweithdrefnau’r Cyngor.
**Am Y Swydd**
Bydd y Cynorthwy-ydd Gweinyddol Comisiynu yn gweithio o fewn Tîm Contractau a Chomisiynu’r Gwasanaethau Oedolion.
Bydd y rôl yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynnig gwasanaeth derbynfa i’r tîm a chynnal systemau cymorth busnes effeithiol o safbwynt negeseuon ffôn, prosesu geiriau, cronfeydd data, cofrestrau, gohebiaeth, ysgrifennu cofnodion, ffotocopïo, ffeilio a chyflenwadau nwyddau swyddfa.
- Cefnogi'r tîm i gyflawni blaenoriaethau a phrosiectau comisiynu ar draws y swyddogaethau arbenigol
- Helpu gyda’r gwaith o weinyddu systemau sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae pobl leol (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed) yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yng Nghaerdydd.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03664
-
Uwch Gynorthwy-ydd Gweinyddol
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...
-
Cynorthwy-ydd Ymchwil a Datblygu Polisi
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...
-
Cynorthwy-ydd Contractau
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer gweinyddwr proffesiynol gyda sgiliau cefnogi busnes cryf i gefnogi ein Tîm Grant Cymorth Tai Er mwyn cefnogi darpariaeth lwyddiannus, rydym yn ceisio tyfu’r tîm ac mae angen Gweinyddiaeth llawn cymhelliant i gyfrannu at ddarpariaeth ein tîm o Dai â Chymorth. An exciting opportunity has arisen...
-
Administrative Assistant
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Tenovus Full time**Hours: 35 hours per week, full time across Monday - Friday (typical office operating hours are between 8.30-5.00)** **Work location: Cardiff City Centre Head Office, CF10** **The basics**: - A good level of admin / office experience in a busy role - Data entry experience - Customer service experience (by phone, in person and online) **Your Staff...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...