Environmental Officer

2 weeks ago

Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -**

**Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.**

.............

**AMDANOM NI**

Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.

Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.

Ar ôl datblygu perthynas waith agos â nifer o gleientiaid ledled Cymru, rydym yn ymfalchïo yn ein dull cydweithredol o weithio’n rhanbarthol er mwyn darparu’n lleol.

Mae ein timau amlddisgyblaeth sy’n cynnwys peirianwyr, penseiri, syrfewyr, arbenigwyr llifogydd ac amgylcheddol yn ymroddedig i ddod o hyd i’r atebion mwyaf arloesol a phriodol i ddiwallu anghenion ein cleient.

...............

**About Us**

We ensure that the environment is protected at all times during construction and have tailored our services to meet customer demand.

We are based in Gwynedd in north Wales over three locations - our main office in Caernarfon and offices at Pwllheli and Dolgellau.

Having developed a close working relationship with a number of clients across Wales, we pride ourselves on our collaborative approach of working regionally in order to deliver locally.

Our multidisciplinary teams that include engineers, architects, surveyors, flooding and environmental specialists are dedicated to finding the most innovative and appropriate solutions to meet our client’s needs.

............

**Pwrpas y Swydd.**
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
- Datblygu gallu personol mewn materion technegol yn bennaf o ran paratoi darluniadau a dogfennau gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifiadurol amrywiol.
- Ymgymryd â rôl arweiniol yn natblygiad sgiliau technegol staff yr Uned ac is-staff (Technegwyr).
- Bod yn rhan o dîm prosiect hyblyg a chynorthwyo staff peirianneg a thechnegol ar brosiectau.
- Cynorthwyo i sicrhau bod YGC yn gweithredu ar sail fasnachol ac yn addasu ei hun i gystadlu’n effeithiol.
- Bod yn llwyr ymroddedig i fodloni anghenion y cleient.
- Os oes angen, cynorthwyo Cynrychiolydd y Peirianwyr â'u dyletswyddau a'u prosiectau adeiladu.
- Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
- Cynorthwyo â'r gofynion ar gyfer rheolaeth ariannol fel rhan o'r prosiect.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
- Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag:

arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
- safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol), a chyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
- Rheoli staff eilaidd.
- Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
- Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
- Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Prif ddyletswyddau
- datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
- cynorthwyo staff peirianneg a thechnegol i gwblhau prosiectau gan gynnwys amrediad o ddyletswyddau technegol, gweinyddol a swyddfa ddarlunio yn gymesur â lefel hyfforddiant, arbenigedd a chymhwysedd deilydd y swydd unigol.
- Cwblhau Asesiadau Archwiliad Isadeiledd Priffyrdd a gwaith cynnal a chadw.
- Goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient.
- Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
- Cynorthwyo i Oruchwylio gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo'r angen a chwblhau cyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn briodol.
- Gweithredu a rheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadurol. Cynorthwyo i ddatblygu systemau meddalwedd yn YGC.
- Cysylltu â gwasanaethau eraill, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
- Adrodd wrth, a derbyn cyfarwyddiadau gan Uwch Staff, yn rheolaidd ac fel bo’r angen i sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn iawn.
- Goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
- Dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
- Cyfrifol

  • Caernarfon, United Kingdom G T Williams Ltd Full time

    **Main Purpose of Post**: To undertake all operational activities associated with Traffic Management Planning & Co-ordination such as (but not restricted to): - Planning and coordinating traffic management and notices as per management instruction to ensure the smooth running of site operations - Review Job Packs in detail to check for any discrepancies and...

  • Caernarfon, United Kingdom Gwynedd Council Full time

    Reference: 24-27196 Job title: Procurement Consultant Directorate: Corporate Support Service: Procurement Closing date: 03/06/2024 12:00 Job type/Hours: Permanent | 37 Hour Salary: £37,336 - £39,186 a year Pay Scale: PS1 Location(s): Caernarfon **Gwynedd Council offers an attractive employment package, for more information please click on...

  • 'ardal Ni' Worker X2

    1 month ago

    Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

    **Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...

  • Bridge Operator

  • 'ardal Ni' Worker

    4 weeks ago

  • Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

    **Am fwy o wybodaeth ac ffurflen gais: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...