Street Enforcement Warden

1 month ago


Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

**Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -**

**Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.**

.............

**AMDANOM NI**

Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.

Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.

Ar ôl datblygu perthynas waith agos â nifer o gleientiaid ledled Cymru, rydym yn ymfalchïo yn ein dull cydweithredol o weithio’n rhanbarthol er mwyn darparu’n lleol.

Mae ein timau amlddisgyblaeth sy’n cynnwys peirianwyr, penseiri, syrfewyr, arbenigwyr llifogydd ac amgylcheddol yn ymroddedig i ddod o hyd i’r atebion mwyaf arloesol a phriodol i ddiwallu anghenion ein cleient.

...............

**About Us**

We ensure that the environment is protected at all times during construction and have tailored our services to meet customer demand.

We are based in Gwynedd in north Wales over three locations - our main office in Caernarfon and offices at Pwllheli and Dolgellau.

Having developed a close working relationship with a number of clients across Wales, we pride ourselves on our collaborative approach of working regionally in order to deliver locally.

Our multidisciplinary teams that include engineers, architects, surveyors, flooding and environmental specialists are dedicated to finding the most innovative and appropriate solutions to meet our client’s needs.

............

**Pwrpas y swydd**
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Cynorthwyo i sicrhau trefniadau gorfodaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfer gwasanaethau stryd a rheoli gwastraff yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, er mwyn lleihau troseddau amgylcheddol i wella ansawdd yr amgylchedd lleol.

**Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer**
- Bod yn gyfrifol am gadw, gofalu a chynnal offer sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd (e.e. cyfrifiaduron llaw, ffôn symudol, camerâu TCC cudd a TCC personol, offer gosod arwyddion a cherbyd y Cyngor)

**Prif ddyletswyddau**
- Cynorthwyo’r Swyddog Gorfodaeth Gwastraff a Strydoedd i weithredu strategaethau a pholisïau perthnasol i Wasanaethau Stryd, Rheoli Gwastraff a Rheoli Cŵn.
- Awdurdod i weithredu pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a rheoliadau a phwerau gorfodaeth eraill sy’n gysylltiedig â pherthnasol i Wasanaethau Stryd, megis sbwriel a throseddau amgylcheddol eraill, achosion tipio, rheoli gwastraff, polisi cynwysyddion gwastraff, dyletswydd gofal gwastraff, a gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus, sef rheoli cŵn.
- Prosesu data personol tystion a throseddwyr yn unol â deddfwriaeth berthnasol
- Patrolio ar ac oddi ar y stryd, un ai ei hunan neu fel rhan o dîm. Patrolio ar droed ond efallai y bydd angen defnyddio cerbyd hefyd.
- Cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodol (HCP) yn y man, yn ysgrifenedig, neu drwy ddefnyddio cyfrifiaduron llaw, yn unol â chyfarwyddiadau, gweithdrefnau a’r canllawiau cyfredol.
- Cwblhau’n gydwybodol ac yn gyson, gyda thystiolaeth, pob HCP a gyflwynir a digwyddiadau eraill cysylltiol.
- Defnyddio offer TCC personol i fonitro a chofnodi’r cyhoeddiad o HCP.
- Mynychu gwrandawiadau dyfarnu fel tyst ar ran y Cyngor fel bo’r gofyn a fydd, efallai, yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig.
- Defnydd o feddalwedd sy’n berthnasol i ddyletswyddau’r swydd e.e. DEMS Uploader (TCC Personol), FlyMapper (Taclo Tipio Cymru) a Ffos Symudol.
- Ymateb yn gwrtais i ymholiadau gan y cyhoedd a, lle bo’r angen, rhoi cymorth a chyngor ar bolisi a gweithdrefnau’r Cyngor ynghylch Gwasanaethau Stryd.
- Cynnal archwiliadau, ymholiadau a chyfweliadau anffurfiol ar safle i ymchwil troseddau amgylcheddol, megis sbwriel, tipio anghyfreithlon, baw cŵn a graffiti a defnyddio Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) i ddarganfod gwybodaeth fel bo’r angen.
- Cynorthwyo’r Swyddog Gorfodaeth Gwastraff a Strydoedd i gynnal cyfweliadau gwirfoddol ffurfiol dan rybudd yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
- Cymryd datganiadau gan dystion a chynorthwyo i baratoi ffeiliau achos troseddol ar gyfer erlyniadau yn y Llys.
- Gosod a chamerâu cudd i fonitro achosion tipio a baw cŵn mewn lleoliadau problemus mewn cydymffurfiaeth a’r ddeddfwriaeth berthnasol (Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000)
- Cynorthwyo i wireddu’r polisi cynwysyddion gwastraff, yn cynnwys monitro ar safle, adnabod yr angen i’r swyddfa cefn llythyru trigolion a busnesau a gwaith gorfodaeth ddilynol yn gysylltiedig â’r siart llif a matrics risg.
- Ymateb ar safle i geisiadau am wasanaeth (e.e. Ffos ac ymholiadau cynghorau cymuned) yn y