See more Collapse

Rheolwr Polisi Defnyddwyr

2 months ago


Cardiff, United Kingdom SRA Full time
Contract Type Permanent Working Pattern Full time - flexible working may be considered Working Hours 35 hours per week Salary £58,466 per annum with additional 10% London weighting if applicable Location Options Hybrid - home based and Cardiff Function Type Policy, Education and Research

Boed wrth amddiffyn y cyhoedd ynteu wrth gynyddu mynediad at gyfiawnder, defnyddwyr sydd wrth wraidd ein holl waith. Effeithiau technoleg newydd, y newid yn nisgwyliadau defnyddwyr a chwestiynau am gynaliadwyedd yr amddiffyniadau presennol i ddefnyddwyr yw rhai o'r materion allweddol rydyn ni’n mynd i'r afael â nhw.

Er mwyn hybu’n gwaith yn y maes pwysig hwn, rydym wedi sefydlu tîm Polisi Defnyddwyr newydd yn ddiweddar. Bellach mae gennyn ni gyfle cyffrous i Reolwr Polisi Defnyddwyr , un sy'n angerddol am faterion defnyddwyr ac sy'n fedrus wrth lunio polisïau, ymuno â ni a chreu effaith ystyrlon mewn rôl newydd.

Wrth ddod i'r rôl hon, byddwch yn codi proffil polisi defnyddwyr o fewn yr SRA - a phroffil yr SRA o fewn y maes polisi defnyddwyr. Yn fewnol, byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr polisi a chydweithwyr gweithredol i sicrhau bod yr effaith ar y defnyddiwr yn cael ei hystyried wrth inni ddatblygu polisi ac yn ein gweithredoedd fel rheoleiddiwr. Bydd mwy o ffocws hefyd ar ddeall ac egluro effaith ein gwaith ar ddefnyddwyr, ac amlygu sut rydym yn sicrhau bod ein gweithredoedd wedi ystyried yr effaith honno er mwyn sicrhau eu bod er budd y cyhoedd. Yn allanol, byddwch yn ymgysylltu ac yn meithrin perthnasoedd cryf â grwpiau defnyddwyr a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau dealltwriaeth eang a dwfn am y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol.

Byddwch yn defnyddio sgiliau polisi, sgiliau dadansoddi a sgiliau rheoli prosiect cryf i arwain datblygiad y polisi ar faterion defnyddwyr. Byddwch yn sicrhau bod pwysigrwydd cronfa dystiolaeth a gwerthoedd tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn gweu drwy bopeth.

A chithau’n aelod o dîm arwain yr SRA, byddwch yn hybu diwylliant, gwerthoedd, polisïau a ffyrdd yr SRA o weithio i nifer fawr o gydweithwyr mewnol.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y Proffil Rôl sydd ynghlwm wrth yr hysbyseb ar ein gwefan.

Beth sydd ar gael i chi

Chwarae rôl ganolog wrth ddeall a hybu safbwynt y defnyddiwr ar draws ein holl waith polisi Dangos eich sgiliau cyfathrebu a’ch sgiliau rheoli rhanddeiliaid – cynrychioli'r SRA ar draws ystod o grwpiau rhanddeiliaid Mwynhau amgylchedd sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano

Dealltwriaeth dda o faterion polisi defnyddwyr Tystiolaeth o'r gallu i ddatblygu perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allanol, yn enwedig defnyddwyr, cynrychiolwyr defnyddwyr, llunwyr polisi, melinau trafod neu sefydliadau yn y trydydd sector Profiad o waith datblygu polisi mewn amgylchedd tebyg neu berthynol; sgiliau llunio polisi da, gan gynnwys dadansoddi materion, nodi opsiynau, datblygu ymgyngoriadau, gweithredu polisïau a gwerthuso’u heffaith Profiad o ddefnyddio technegau rheoli prosiect cadarn i gyflawni a gweithredu polisi Cyfathrebwr hyderus a chlir, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol

Mae proffil rôl llawn ynghlwm wrth waelod yr hysbyseb hon ar ein gwefan.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr a allai fod yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng eu bywyd personol a phroffesiynol. Mae hon yn swydd amser-llawn sy'n gweithio 35 awr yr wythnos ond rydyn ni’n hapus i siarad am weithio'n hyblyg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn yr hysbyseb hon neu ar ein gwefan, cysylltwch â ni drwy

Rôl hybrid yw hon. Byddwch yn gweithio o leiaf dau ddiwrnod yn y swyddfa a gweddill yr wythnos gartref. Gall y rôl gael ei lleoli yn unrhyw un o'n swyddfeydd yn Birmingham, Caerdydd neu Lundain; bydd angen teithio'n achlysurol i swyddfeydd gwahanol i’r un lle rydych chi wedi'ch lleoli, neu ar gyfer cyfarfodydd â rhanddeiliaid neu i fynd i ddigwyddiadau. Y cyflog ar gyfer y swydd hon yw £58,466, gyda phwysoliad Llundain ychwanegol o 10% lle bo hynny'n berthnasol.

I wneud cais

Cliciwch ar 'apply’ i lenwi'r ffurflen gais ar-lein ac uwchlwythwch CV a llythyr eglurhaol, gan fynd i'r afael â sut rydych chi'n bodloni'r gofynion a amlinellir yn yr hysbyseb hon a'r proffil rôl sydd wedi’i atodi. Rydym yn argymell un tudalen ar gyfer eich Llythyr Eglurhaol a dim mwy na dau dudalen.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio a dethol a sut i wneud y gorau o'ch cais, ewch i'n .

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Gorffennaf am 09:00. Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ddiwedd mis Gorffennaf.


hether it’s protecting the public or increasing access to justice, consumers are at the heart of all our work. The impacts of new technology, changing consumer expectations and questions about the sustainability of current consumer protections are some of the key issues we are grappling with.

To further our work in this important area, we have recently established a new Consumer Policy team. We now have an exciting opportunity for a  Consumer Policy Manager , who is passionate about consumer issues and skilled in policy making, to join us and make a meaningful impact in a new role.

Coming into this role, you will raise the profile of consumer policy within the SRA - and the SRA’s profile within the consumer policy space. Internally, you will be working closely with policy and operational colleagues to make sure that the impact on the consumer is considered in our policy development and our actions as regulator. There will also be an increased focus on understanding and explaining the impact of our work on consumers, and highlighting how we ensure that our actions have considered that impact to ensure that they are in the public interest. Externally, you will be engaging and building strong relationships with consumer groups and stakeholders to capture a broad and deep understanding about consumers of legal services.

You will use policy, analytical, and strong project management skills to lead policy development on consumer issues. You will ensure that the importance of an evidence base and the values of equality, diversity and inclusion thread throughout.

A member of the SRA’s leadership team, you will promote the SRA’s culture, values, policies and ways of working to large numbers of internal colleagues.

To find out more, see the Role Profile attached to the advert on our website.

What’s in it for you

Play a central role in understanding and promoting the perspective of the consumer across all of our policy work Showcase your communication and stakeholder management skills - represent the SRA across a range of stakeholder groups Enjoy an environment that values equality, diversity and inclusion

What we are looking for

Good understanding of consumer policy issues Evidence of ability to develop strong relationships with external stakeholders, particularly consumers, consumer representatives, policy makers, think tanks or third sector organisations Experience of policy development work in a similar or related environment; with good policy making skills, including analysing issues, identifying options, developing consultations, implementing and evaluating the impact of policies Experience of using robust project management techniques to deliver and implement policy Confident and clear communicator, both written and verbal.

We have other current jobs related to this field that you can find below


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Byddwch yn rheoli'r tîm Polisi a Datblygu. **Am Y Swydd** Ynglŷn â’r swydd** Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli, datblygu, gweithredu a monitro strategaethau a pholisïau allweddol. Byddwch yn cymryd rôl arweiniol wrth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y tîm Polisi a Strategaeth Parcio. Rydym yn cydnabod bod ein dull o ymdrin â pholisi parcio a rheolaeth ymyl y ffordd yn effeithio ar brofiad pawb o Gaerdydd. Fel Peiriannydd Polisi Parcio, byddwch yn flaenllaw wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth parcio ar gyfer y ddinas. O fynd i'r afael â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu: Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth. **Am Y Swydd** Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar...


  • Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    **Eich gwaith** - Gweithio yn y Vulcan, gan oruchwylio'r tîm yn uniongyrchol a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol bob amser - Bod yn atebol am sicrhau bod y Vulcan yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth a rheoliadau, gan gynnwys diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch - Sicrhau’r gwerthiant ac elw gorau posibl a chyrraedd targedau trwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael i unigolyn ymroddedig ymuno â’n Gwasanaeth Byw’n Annibynnol. Mae'r Gwasanaeth yn dîm amlddisgyblaeth sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac aros yn rhan o’u cymuned, gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. **Am Y Swydd** Y Rheolwr Sicrwydd Ansawdd sy'n gyfrifol am...

  • Rheolwr RHaglen

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC) yn gydweithrediad Cymru gyfan o holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru (wedi'u rhannu'n 5 gwasanaeth rhanbarthol) sy’n gweithio gyda ac mewn partneriaeth ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol (AMG) Cymru a gwasanaethau eraill. Gyda'i gilydd, mae 5 gwasanaeth mabwysiadu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Welsh Headings

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Cynorthwy-ydd Gofal a Lles yn ein Hybiau Caerdydd yn Gofalu, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn...

  • Workplace Coordinator

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Integral UK Full time

    **Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda Integral UK LTD gan mai ni yw'r cwmni mwyaf (sy'n tyfu gyflymaf) sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus ym Mhrydain. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ataliol ac adweitheddol i dros 1600 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae GTC yn gyfrifol am fflyd o dros 900 o gerbydau a thua 600 darn o offer peirianyddol bach. Mae tua 100 o'r cerbydau hyn yn gerbydau trwyddedig Gweithredwyr, RCVau yn bennaf ac yn cefnogi gweithrediadau glanhau'r ddinas. Er mwyn cefnogi'r holl asedau hyn mae gan y cyngor brif weithdy mawr yn Grangetown a 2 weithdy lloeren llai mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae gennym swydd gwag ar gyfer gyrwyr/gofalwyr yn ein Canolfannau Dydd yng Nghaerdydd, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio yn rhan...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Workplace Coordinator

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Integral UK Ltd Full time

    Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda Integral UK LTD gan mai ni yw'r cwmni mwyaf (sy'n tyfu gyflymaf) sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus ym Mhrydain. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ataliol ac adweitheddol i dros 1600 o...