Rheolwr Sicrwydd Ansawdd

6 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu:
Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion

Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth.

**Am Y Swydd**
Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar ac ymrwymedig i ddarparu gofal a chymorth i Ddinasyddion Caerdydd.

Byd y rôl hon yn addas i weithiwr cymdeithasol profiadol sy’n credu yng ngwerthoedd gwaith cymdeithasol ac sy’n ffynnu ar ddatblygiad parhaus a gwella gwasanaeth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:

- Sgiliau trefnu rhagorol a manwl gywirdeb
- Sgiliau cyfathrebu cryf
- Profiad o reoli eraill
- Gallu ymarfer swyddogaeth arwain a herio gyda rheolwyr tîm ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol
- Gallu nodi meysydd polisi a gwella arfer ac arwain ar eu gweithrediad

Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau i ledaenu arfer da ar draws y gweithlu a chodi disgwyliadau y bydd y gwaith a wnawn o’r safon uchaf.

Os ydych yn berson sydd wedi dod i arfer ag amgylchedd prysur, yn credu yng ngwerth gwaith cymdeithasol a gallwch hyrwyddo diwylliant ‘arfer gorau yn gyntaf’ ar draws y gweithlu, yna gallai hon fod yn swydd addas i chi.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Jade Harrison, Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Plant Caerdydd ar (029) 2087 3830.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch ac amddiffyn pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03577



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael i unigolyn ymroddedig ymuno â’n Gwasanaeth Byw’n Annibynnol. Mae'r Gwasanaeth yn dîm amlddisgyblaeth sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac aros yn rhan o’u cymuned, gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. **Am Y Swydd** Y Rheolwr Sicrwydd Ansawdd sy'n gyfrifol am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae Gwasanaethau Ystâd yn chwilio am unigolyn diwyd a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Gofalu fel Rheolwr Gofalu y Gwasanaethau Adeiladau. Yn y rôl hon, byddwch yn arwain ein tîm i ddarparu gwasanaethau glanhau a gofalu rhagorol ar gyfer blociau o fflatiau ac adeiladau yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Fel Rheolwr...

  • Rheolwr RHaglen

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Rheolwr Prosiectau

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Datblygu ac Adfywio'r Cyngor yn gweithio'n galed i gyflawni cynlluniau adfywio cynaliadwy o ansawdd uchel ledled Caerdydd. Rydym yn angerddol am ymgysylltu â'n cymunedau a chyflawni prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn y ddinas. Rydym yn canolbwyntio ar wella ardaloedd lleol a chanolfannau siopa, gwella ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. ***Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae hon yn rôl Rheolwr Tîm sydd ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm sydd â chymwysterau addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae dwy rôl Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...

  • Rheolwr Tîm

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio recriwtio Rheolwyr Tîm yn ein gwasanaeth Iechyd ac Anableddau Plant. Mae'r swydd hon yn agored i'r rheiny sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rheiny sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn...

  • Rheolwr y RHaglen

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd ar raddfa fawr a llwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Gan ddefnyddio atebion arloesol a symud yn gyflym tuag at safon carbon isel rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...

  • Rheolwr Tim

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfleoedd cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwyr Tîm â chymwysterau...

  • Rheolwr Gwasanaeth

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Gwasanaeth cymwys addas weithio ar...

  • Rheolwr Gweithredol

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...

  • Rheolwr Technegol

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y rôl yw cynorthwyo'r Rheolwyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 4 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â maes Strategaeth, Ansawdd a Chomisiynu Gwasanaethau Oedolion. Mae'r swyddi'n canolbwyntio'n benodol ar Ymgysylltu a Rheoli’r Farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartrefi Gofal i gefnogi cyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Caerdydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ddinas ffyniannus sy’n ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Yn ddiweddar, enwebwyd Caerdydd y ‘drydedd brifddinas orau’ yn Ewrop i fyw ynddi mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...