Rheolwr Prosiectau Gwella

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn ddinas ffyniannus sy’n ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Yn ddiweddar, enwebwyd Caerdydd y ‘drydedd brifddinas orau’ yn Ewrop i fyw ynddi mewn arolwg gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n amlwg pam. Ac i ychwanegu at hyn, mae gennym ni fwy o fannau gwyrdd nag unrhyw ddinas arall yng ngwledydd Prydain

Byddwch yn gweithio i un o gyflogwyr mwyaf Cymru, yn ymuno â thîm arwain profiadol sy’n canolbwyntio ar sicrhau diben clir, diwylliant ‘gallu gwneud’ a systemau ac arferion busnes sy’n gwella cyflawniad gweithredol. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a grymuso ein gweithlu rheng flaen. Rydym ni’n dîm llawn angerdd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol, adeiladu ar gryfderau pobl a datblygu perthnasoedd effeithiol a phwrpasol. Gwneud y peth iawn, heb os, yw’r cam gweithredu mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon.

**Am Y Swydd**
Mae hon yn rôl allweddol wrth gyfrannu at sefydlu a chyflawni Maethu Cymru Caerdydd a Maethu Cymru Bro Morgannwg gan arwain ar bartneriaeth ranbarthol a gwelliannau i'r timau. Byddwch yn hyrwyddo arfer gorau a'r gwaith partneriaeth effeithiol wrth ddarparu'r gwasanaeth ar draws y rhanbarth gan gryfhau'r rhyngwyneb rhwng y gwasanaeth a'r ffynonellau cymorth anffurfiol. Byddwch yn gweithio ar lefel genedlaethol mewn cydweithrediad â'r rheolwyr datblygu rhanbarthol eraill ledled Cymru i hyrwyddo a datblygu gwasanaethau ac arferion maethu ledled Cymru i gefnogi gofalwyr Maethu Cymru.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych wybodaeth helaeth am y gwasanaeth ac mae'n ddymunol bod gennych wybodaeth gyfredol o'r heriau a'r polisïau sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn gofal a’r gofalwyr maeth. Mae’n hollbwysig eich bod yn gallu bod yn sensitif i ystod eang o farnau ac yn gallu adeiladu consensws. Bydd gennych brofiad o weithio mewn partneriaethau i ddatblygu modelau gwasanaeth newydd, profiad yn rheoli newid mewn lleoliad gofal cymdeithasol a hyder i ddod â phobl gyda chi ar y daith. Byddwch yn gyfathrebwr gwych ac yn gallu sylwi ar bob manylyn, yn gallu rhannu gwybodaeth, adroddiadau a data mewn ffordd glir a chryno.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03897


  • Rheolwr Prosiectau

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Datblygu ac Adfywio'r Cyngor yn gweithio'n galed i gyflawni cynlluniau adfywio cynaliadwy o ansawdd uchel ledled Caerdydd. Rydym yn angerddol am ymgysylltu â'n cymunedau a chyflawni prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn y ddinas. Rydym yn canolbwyntio ar wella ardaloedd lleol a chanolfannau siopa, gwella ein...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd i Reolwr Prosiectau arwain, rheoli a datblygu tîm yn cynnwys Rheolwyr Prosiectau sy'n gyfrifol am gwmpasu a chyflawni gwaith cynnal a chadw, a thîm cynnal a chadw'n cynnwys gweithredwyr llafur...

  • Rheolwr Prosiectau

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion. Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion.Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Rheolwr RHaglen

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio'r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol.Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...

  • Swyddog Gwella Iechyd

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio o fewn y Tîm Strategaeth a Lles Cymunedol fel Swyddog Gwella Iechyd i arwain gwaith sy'n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol a chymunedau lleol. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad Rheolwr Gweithredol y Strategaeth...

  • Rheolwr Gweithredol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...

  • Rheolwr RHaglen

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae gennym 8 swydd wag ar gyfer rôl Rheolwr Prosiectau - Cyflawni Uniongyrchol** **Dim ond cyflogeion Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Caerdydd ar Waith a Gweithwyr Asiantaeth sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor ar hyn o bryd, all wneud cais am y swydd hon.** Oherwydd ailstrwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y...

  • Rheolwr Project

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...

  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor. **Am Y Swydd** Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn....

  • Rheolwr Prosiect

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor.**Am Y Swydd**Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn. Bydd...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae uned Gwasanaethau 24/7 Cyngor Caerdydd yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau Categori 2, sydd wedi'i hachredu gan ISO a'r Bwrdd Archwiliadau Systemau a Larymau Diogelwch (BASLD) / ystafell reoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) sy'n defnyddio detholiad o dechnoleg i sefydlu trawsyriant gyda safleoedd ledled y ddinas ac yn genedlaethol.Mae'r...

  • Rheolwr Gweithredol

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...

  • Rheolwr Gweithredol

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros...

  • Rheolwr Datblygu

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio'r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol.Rydym yn canolbwyntio ar wella ein canolfannau ardal ac wrth gyflawni'r agenda 'dinas 15 munud' ledled ein cymunedau, rydym...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...

  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. **Am Y Swydd** Gan weithio o fewn Is-adran Strategaeth Tai a Gwella Gwasanaethau yr adran Tai a Chymunedau, bydd y swydd Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn gyfrifol am ddatblygu ac adolygu gweithdrefnau yn ymwneud â phob agwedd ar Dai, creu canllawiau llif...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Rheoli Prosiectau o fewn Uned Gwella Adeiladau Tai a Chymunedau yn gyfrifol am strategaethau cyrchu a chaffael trefniadau addas ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau i gynnwys ymateb i geisiadau am waith atgyweirio, gwneud gwaith atgyweirio mewn eiddo gwag, gwneud gwaith wedi'i gynllunio a chyflawni...