Swyddog Cymorth Prosiectau

7 days ago

Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**Am Y Gwasanaeth**
Mae uned Gwasanaethau 24/7 Cyngor Caerdydd yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau Categori 2, sydd wedi'i hachredu gan ISO a'r Bwrdd Archwiliadau Systemau a Larymau Diogelwch (BASLD) / ystafell reoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) sy'n defnyddio detholiad o dechnoleg i sefydlu trawsyriant gyda safleoedd ledled y ddinas ac yn genedlaethol.

Mae'r gwasanaeth wrthi'n newid yn sylweddol a bydd yn cael ei adleoli i safle pwrpasol yn ddiweddarach eleni. Mae adleoli'r gwasanaeth yn rhan o raglen newid ehangach sy'n cyd-fynd â map ffordd Dinas Glyfar Cyngor Caerdydd ac mae ganddo sawl ffrwd prosiect sy'n gofyn am gefnogaeth gan reolwr prosiectau.

**Am Y Swydd**
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn proffesiynol a brwdfrydig i sicrhau bod technolegau strategol yn cael eu cyflawni a'u gweithredu'n effeithiol i gefnogi blaenoriaethau allweddol y Cyngor yn y maes Gwasanaethau 24/7. Mae'r technolegau hynny'n cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i: y rhwydwaith diwifr, systemau GDX, Teledu Cylch Cyfyng, Diogelwch a thechnoleg Derbyn Larymau.

Bydd y Swyddog Cymorth Prosiectau'n cefnogi'r broses o adleoli'r gwasanaeth yn ogystal â chychwyn, datblygu a rheoli prosiectau newid busnes eraill. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu cyflawni i'r safon ofynnol ac o fewn y cyfyngiadau penodedig o ran amser a chost.

Mae'r prosiectau hyn yn cynnig cyfleoedd arbed ac incwm sylweddol i Gyngor Caerdydd, ac yn parhau i gefnogi preswylwyr Tai a dinasyddion Caerdydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad blaenorol o gefnogi prosiectau a bydd yn rhannu ein hangerdd a'n brwdfrydedd i greu Canolfan Gweithrediadau Integredig 'o'r radd flaenaf' ar gyfer ein gwaith derbyn larymau a monitro Teledu Cylch Cyfyng.

Mewn amgylchedd sy'n cael ei yrru gan dechnoleg byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddarparu a gweithredu technolegau strategol yn effeithiol i gefnogi blaenoriaethau allweddol y Cyngor ym maes Gwasanaethau 24/7.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda chontractwyr a rhanddeiliaid yn fewnol ac yn allanol a bydd disgwyl i chi ddatblygu a chynnal perthnasau gwaith cadarn ac adeiladol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Ellen Worship, Rheolwr Gweithredu a Darparu ar Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00989

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy'n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant.Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am Swyddog...

  • Swyddog Arweiniol

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.**Am Y Swydd**Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae'n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol.**Am Y Swydd**Bydd y Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol yn gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Cymorth Systemau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli technolegau newydd yn effeithiol,...

  • Rheolwr Prosiectau

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion.Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.**Am Y Swydd**Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae'n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant. Mae'r swydd ran amser, dros dro hon yn cael ei hariannu tan 31. Mai 2025 ar hyn o bryd.Byddwch yn rhan o Dîm Cymorth Busnes Gofal Plant sefydledig sy'n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i'r...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth maethu, Maethu Cymru Caerdydd.Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae'n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy'n Dda i Blant'_ sy'n rhoi...

  • Swyddog Cymorth

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.**Am Y Swydd**Y person penodedig fydd yn gyfrifol am;Ymchwilio i geisiadau am Orchmynion Rheoleiddio Traffig a drafftio gohebiaeth gysylltiedigHelpu i ddylunio cynlluniau Gorchymyn Rheoleiddio Traffig newyddCyflwyno Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn unol â...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o'r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd.Mae...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol:- Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig- Mynediad at Raglenni Rhianta- Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu.Gofal plant...

  • Swyddog Cyngor

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy'n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i'w mynychu.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi...

  • Rheolwr Prosiectau

    6 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd i Reolwr Prosiectau arwain, rheoli a datblygu tîm yn cynnwys Rheolwyr Prosiectau sy'n gyfrifol am gwmpasu a chyflawni gwaith cynnal a chadw, a thîm cynnal a chadw'n cynnwys gweithredwyr llafur...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy'n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i'w mynychu.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy'n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i'w mynychu.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae'r rheolwyr safle yn darparu'r canlynol:- Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol- Gwasanaeth atgyweirio a chynnal a...

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych ymuno â'n tîm Lles sy'n gweithio o'r Hybiau Cymunedol.**Am Y Swydd**Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu gwasanaeth Cymorth Lles ac yn helpu i'w ddarparu, gan gydweithio â sefydliadau partner ac asiantaethau cynghori amrywiol i ddarparu...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Tîm Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth y Cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth reoli twf cyflym Caerdydd ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sy'n gynwysedig yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar sydd â'r nod o weddnewid system drafnidiaeth Caerdydd,...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli.Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brosiectau cyflogadwyedd a ariennir yn allanol,...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd.Mae Rhieni yn Gyntaf yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Cymorth Cynnar Caerdydd....