Cynorthway-ydd Gwaith Cymdeithasol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff gofal cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod yn gallu diwallu eu hanghenion a'u canlyniadau eu hunain.

Mae ein Gwasanaethau Cymorth Arbenigol ac Iechyd Meddwl yn cefnogi amrywiaeth o unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl, problemau gyda chyffuriau ac alcohol, a digartrefedd. Mae'r timau'n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCaF) a sefydliadau trydydd sector i ddarparu gwasanaethau i unigolion a theuluoedd i'w helpu gyda'r heriau y maen nhw’n eu profi a rhoi cymorth parhaus pan fo angen hynny.

Mae'r timau o fewn ein gwasanaeth yn cynnwys:

- Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC)
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (GIMBH)
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
- Tîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
- Tîm Fforensig
- Y Tîm Niwroseiciatreg
- Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd/ Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas, Gwasanaeth Pontio/ Tîm Niwroamrywiol
- Gwasanaethau Dydd Tŷ Canna

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwaith Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion Caerdydd.
Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig y cyfle i chi weithio yng nghymuned fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru. Mae ein timau Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dros 5000 o unigolion ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd proffesiynol i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a phrofiadol.
Byddwch chi’n ymuno â thîm sy'n arbenigo mewn cefnogi oedolion â chyflyrau niwrowahanol gyda gofal a chymorth. Mae’r tîm wedi ymrwymo i waith cymdeithasol ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac i aros mor annibynnol â phosibl.
Fel Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol ac i’ch helpu i fod y gweithiwr gorau posibl.
Mae’r Tîm Niwroamrywiaeth yn rhan o Wasanaethau Cymorth Arbenigol sydd wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Mae'r Tîm yn gweithio gydag oedolion a phobl ifanc sy'n Niwrowahanol (Awtistiaeth, ADCG, Tourette's a/neu Anhwylder Tic) gydag anghenion gofal a chymorth gan gydweithio â nifer o asiantaethau partner yn y ddinas yn rhai statudol a'r trydydd sector.
Mae'r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol a gweithiwr cymorth sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n Niwroamrywiol a'r Gweithwyr Cymdeithasol sy'n gweithio gyda'r Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd Pobl Ifanc. Rydym yn cynnal asesiadau gydag oedolion a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal a chymorth sy'n pontio o’r Gwasanaethau Plant: mae'r tîm yn comisiynu pecynnau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn ymgymryd â gwaith uniongyrchol gydag unigolion. Rydym yn ymrwymedig i Ymarfer Gwaith Cymdeithasol sy'n Seiliedig ar Gryfderau ac yn cydweithio ag unigolion i gyflawni eu canlyniadau a nodwyd ac i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth a'u lles.
Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i weithio drwy ddull Gwella Trawma gydag unigolion, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn ochr yn ochr â'n hymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau. Mae’r Tîm wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial.

Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:

- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi, gan gynnwys mynediad at safleoedd swyddfa ledled y ddinas.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu rhagorol
- Cymorth a gynigir drwy fentoriaeth gyda chymorth gan uwch reolwyr

(I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel cynorthwy-yd gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd, edrychwch ar ein Gwefan Gwaith Cymdeithasol lle gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gallwch ddisgwyl gweithio i Gaerdydd a mwy am yr hyn sydd gennym i'w gynnig: Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd : Gwaith Cymdeithasol Caerdydd)
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am weithwyr brwdfrydig sydd am gael profiad pellach o fewn Cyngor Caerdydd. Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol a rheoli eich amser. Bydd angen i chi allu dangos sgiliau ymgysylltu a chasglu gwyboda



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. **Cyflog Cystadleuol** **Taliad Atodol ar sail y Farchnad** **Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr** **Tyfu a datblygu** **_ Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF_** **Dull Ffocws ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol?** **Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf.** **Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £46,591 gan gynnwys Taliad Atodol ar Sail y Farchnad. Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Adnoddau Gwaith Cymdeithasol llawn amser ar gontractau o 12 mis. Mae'r swyddi yn rhan o'r gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol ac yn helpu i sicrhau bod dinasyddion yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau. Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon yn cael taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae swyddi Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Ysbytai sy'n gweithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn...