Prif Weithiwr Cymdeithasol

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £46,591 gan gynnwys Taliad Atodol ar Sail y Farchnad.

Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â theuluoedd a phlant.

Mae gwasanaethau Plant Caerdydd yn arweinwyr o ran ymarfer ac fe'u dewiswyd fel lleoliad ar gyfer prosiectau peilot allweddol gan gynnwys Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teuluol. Rydym yn flaengar ac yn ceisio croesawu modelau gweithio newydd er mwyn sicrhau llwyddiant wrth gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl a phlant sy'n ymwneud â cham-fanteisio troseddol. Mae ein ffyrdd newydd o weithio wedi ein harwain at ddatblygu timau amlddisgyblaethol.

Mae Caerdydd yn cefnogi dysgu a datblygu unigolion drwy gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth wrth gynnwys staff yn y gwaith o archwilio ac adolygu dysgu rhagweithiol sy'n galluogi datblygiad parhaus y gwasanaeth ac unigolion o fewn diwylliant meithringar a chefnogol.

Mae ffocws allweddol ar symud cydbwysedd gofal gan sicrhau mai dim ond y plant hynny na ellir lliniaru risgiau ar eu rhan sy'n cael eu rhoi y tu allan i'w rhwydwaith teuluol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ddadansoddi'r materion cyflwyno yn glir a cheisio teilwra cymorth i ddiwallu anghenion teulu a allai gynnwys cymorth dyddiol yn y cartref a/neu ddefnyddio seibiant. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd drwy ymyrraeth statudol a rhannu cyfrifoldeb rhiant dim ond pan fo'r risgiau'n mynnu hynny ac nid o ganlyniad i fynediad at adnoddau / gwasanaethau.

**Am Y Swydd**
Rydym wedi creu rôl Prif Weithiwr Cymdeithasol newydd a fydd yn canolbwyntio ar Waith Llys.

Byddwch yn weithiwr cymdeithasol ag achosion gyda thua 10/11 o blant (4/5 teulu) sy'n destun achosion gofal. Byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli achosion gan gynnwys ymweliadau statudol, cynllunio ac adolygu gofal, a gwaith llys.

Byddwch yn gweithio gyda phlant a'u teuluoedd i helpu i wneud penderfyniadau i blant aros gartref neu ddychwelyd adref i'w rhieni. Bydd angen i asesiadau ystyried y risgiau presennol a'r ffactorau amddiffynnol cysylltiedig gan nodi hefyd y tebygolrwydd o newid parhaus o fewn amserlenni'r plentyn.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant sy'n destun achosion gofal a'u teuluoedd a chynhyrchu gwaith o safon ragorol sy'n darparu argymhellion yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

**Y manteision a gynigir**

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.

Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd.
- Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch wedi cynnal asesiadau gan ddefnyddio Fframwaith asesu'r Adran Iechyd ac mae gennych wybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion fframwaith Ailuno'r NSPCC. Byddwch yn deall effaith trawma ar allu'r rhieni ac ar anghenion y plentyn ac yn gallu canfod a oes gan y rhiant/rhieni y gallu i ddiwallu anghenion y plentyn unigol. Bydd arnoch angen y sgiliau i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu yn ystod y broses asesu a theilwra eich asesiadau i arddulliau dysgu rhieni.

Bydd eich asesiadau'n defnyddio gwybodaeth gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'r plentyn a'u teulu ac yn archwilio'r rhwydweithiau cymorth anffurfiol sydd ar gael i'r rhieni i'w cynorthwyo yn y rôl rhianta.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Caiff y Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5000 ei adolygu bob 12 mis.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni'n sy’n cael y dylanwad mwyaf sylweddol ar blant ac ar eu dyfodol, a phan fydd adegau na allant aros yn ddiogel yng...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â’r Tîm Asesiadau Perthynas. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...