Prif Weithiwr Cymdeithasol y Tda

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr Cymdeithasol.

Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau, gan ymateb i argyfyngau statudol a materion gwaith cymdeithasol eraill na ellir eu gadael yn ddiogel tan y diwrnod gwaith canlynol. Mae ein gwasanaeth TDA yn drefniant partneriaeth rhanbarthol gyda Chyngor Bro Morgannwg, sy'n cael ei gynnal a'i reoli gan Gyngor Caerdydd i bob dinesydd ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol gan gydweithio ag asiantaethau partner a gwasanaethau argyfwng eraill.

Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig i ymuno â'n tîm ar adeg gyffrous o ddatblygiad y gwasanaeth.
**Am Y Swydd**
Fel Prif Weithiwr Cymdeithasol TDA, byddwch yn ymrwymedig i ddiogelu a chynnal hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion a gweithio mewn ffordd ataliol seiliedig ar gryfder. Mewn amgylchedd gwerth chweil, amrywiol ond cymhleth, byddwch yn ymdrin ag ystod o achosion o amddiffyn plant i asesiadau Deddf Iechyd Meddwl a phenderfyniadau y mae angen eu gwneud yng nghyd-destun pob achos unigol i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i'n holl ddinasyddion ac yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Yr oriau cytundebol fydd 18.5 awr yr wythnos, gan weithio fel rhan o rota dreigl sy'n denu lwfansau ychwanegol ar gyfer gweithio oriau anghymdeithasol. Byddwch yn cael goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd gan Arweinydd Gwasanaeth TDA.

***Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol. Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi sy'n cynnwys:

- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mynediad i** **Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg** sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- **Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol** a gynigir gan dîm hyfforddiant gofal cymdeithasol gwybodus ac ymroddedig, p'un a ydych newydd gymhwyso neu'n ymarferydd profiadol sy'n arbenigwr yn eich maes.
- **Cymorth** drwy fentoriaeth ac uwch dîm rheoli sy'n cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu llwyddiant.
- **Cyflog cystadleuol **gan gynnwys Taliad Atodol ar Sail y Farchnad, Lwfans GPIMC a lwfansau sifft oriau anghymdeithasol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad o ddiogelu oedolion a phlant. Bydd gennych wybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ac yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn meddu ar sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol ac yn gallu gwneud asesiadau a phenderfyniadau risg cadarn mewn argyfwng. Bydd gennych brofiad o asesu risg ac anghenion cymhleth oedolion a phlant agored i niwed a byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol ac ar y cyd â chydweithwyr ac asiantaethau partner.

Byddwch yn gallu dangos safonau uchel o ymarfer proffesiynol, gan gynnwys cadw cofnodion, cymhwysedd TGCh a throsglwyddo’n brydlon ac effeithiol i wasanaethau a chydweithwyr yn ystod y dydd. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr, uwch reolwyr a chyrff proffesiynol eraill yn ôl yr angen.

Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cyfatebol a bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn hanfodol yn ogystal â bod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y telir lwfans ychwanegol ar ei gyfer.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Sylwch fod ein holl swyddi a hysbysebir yma yn destun gwiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ni chaiff ceisiadau yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.

Fel arfer cynhelir cyfweliadau ar Teams, ond os byddai'n well gennych gael cyfweliad wyneb yn wyneb, rhowch wybod i ni

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni'n sy’n cael y dylanwad mwyaf sylweddol ar blant ac ar eu dyfodol, a phan fydd adegau na allant aros yn ddiogel yng...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £46,591 gan gynnwys Taliad Atodol ar Sail y Farchnad. Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gobeithio recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Arbenigol, gyda arwyddocaol o brofiad ôl-gymhwyso, i reoli llwyth gwaith diffiniedig o Blant sy'n destun Gorchmynion Lleoli. Byddwch yn rhan o Dîm Amddiffyn Plant o fewn Ardal y Gogledd sy'n dal achosion CGCh, AP, AGG a'r Llys. Mae gan y tîm Reolwr Tîm parhaol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â’r Tîm Asesiadau Perthynas. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. **Manteision a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...