Prif Weithiwr Cymdeithasol Ardal

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn esiampl o arfer gorau ac yn hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr penodedig, gan eu galluogi i dyfu a datblygu i fod yr ymarferwyr gorau y gallant fod. Ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac rydym yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol i'r rolau hyn.

Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter cymudo, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, gyda llwybrau trafnidiaeth ardderchog. I'r ymarferwyr hynny sy'n ceisio ehangu eu profiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd, mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, drwy gyfleoedd cyffrous i ddatblygu gwybodaeth ymarfer mewn meysydd sydd ond ar gael yn y brifddinas, gan weithio gyda phlant a theuluoedd o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau.

Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac yn arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt wyneb-yn-wyneb diogel gyda theuluoedd a phlant.

Mae’r ddihareb ‘mae’n cymryd pentref i fagu plentyn’ yr un mor berthnasol i ddinas fawr fel Caerdydd ag y mae yn unrhyw le - yr her yw nodi, ymgysylltu a chydweithio â’n cymunedau i gyflawni hyn. Mae model ardal Caerdydd yn caniatáu i weithwyr cymdeithasol a staff cymorth weithio yn y cymunedau lleol a dod i adnabod anghenion penodol y cymunedau rydym yn eu cefnogi. Gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau statudol ac anstatudol eraill a'r 3ydd sector, rydym yn darparu'r lefel gywir o gymorth i'n teuluoedd ar yr adeg gywir, gan rymuso teuluoedd i estyn allan at y rhwydweithiau cymorth hyn er mwyn lleihau anghenion hirdymor unigolion a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn arweinwyr o ran ymarfer ac fe'u dewiswyd fel lleoliad ar gyfer prosiectau peilot allweddol gan gynnwys Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teuluol. Rydym yn flaengar ac yn ceisio croesawu modelau gweithio newydd er mwyn sicrhau llwyddiant wrth gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl a phlant sy'n ymwneud â chamfanteisio troseddol. Mae ein ffyrdd newydd o weithio wedi ein harwain at ddatblygu timau amlddisgyblaethol.

Mae Caerdydd yn cefnogi dysgu a datblygu unigolion drwy gyfleoedd datblygu arwain a rheoli wrth gynnwys staff yn y gwaith o archwilio ac adolygu dysgu rhagweithiol sy'n galluogi datblygiad parhaus y gwasanaeth ac unigolion o fewn diwylliant meithringar a chefnogol.

Mae ffocws allweddol ar symud cydbwysedd gofal gan sicrhau mai dim ond y plant hynny na ellir lliniaru risgiau ar eu cyfer sy'n cael eu lleoli y tu allan i'w rhwydwaith teuluol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ddadansoddi'r problemau presennol yn glir a cheisio teilwra cymorth i ddiwallu anghenion teulu a allai gynnwys cymorth dyddiol yn y cartref a/neu ddefnyddio seibiannau byr. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd drwy ymyrraeth statudol a rhannu cyfrifoldeb rhiant dim ond pan fo'r risgiau'n mynnu hynny ac nid o ganlyniad i fynediad at adnoddau/gwasanaethau.

**Am Y Swydd** Y manteision a gynigir**

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.

Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd.
- Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd

Mae timau Diogelu a Phlant sy’n Derbyn Gofal Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i gael eu lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u c



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni'n sy’n cael y dylanwad mwyaf sylweddol ar blant ac ar eu dyfodol, a phan fydd adegau na allant aros yn ddiogel yng...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £46,591 gan gynnwys Taliad Atodol ar Sail y Farchnad. Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm rheoli o fewn Ardal Dwyrain Caerdydd fel y Rheolwr Tîm wrth i’r un presennol gadael. Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol?** **Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf.** **Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...