Gweithiwr Cymdeithasol Pontio
6 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd.
Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a gorllewin Caerdydd. Mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr â thîm iechyd arbenigol ac yn cynnig cymorth amlddisgyblaethol i bobl leol. Rydym yn cefnogi unigolion i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau gan ganolbwyntio ar gynhwysiant a chefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n mynd ati i hyrwyddo arfer gorau ac sy'n cefnogi gweithio ar sail cryfder gyda'i ymarferwyr. Dywedodd archwiliad annibynnol wrthym ym mis Mawrth 2020 fod gennym feysydd o arfer da cenedlaethol ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y rhain a datblygu cyfleoedd lleol pellach o ansawdd uchel i fodloni canlyniadau pobl wrth i ni wella o'r pandemig.
Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Yn ddiweddar, enwebwyd Caerdydd y ‘drydedd ddinas orau’ yn Ewrop i fyw ynddi mewn arolwg gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n amlwg pam. Ai nawr yw’r amser iawn i chi weithio ym mhrifddinas Cymru gyda'i chymunedau bywiog ac amrywiol a’i hystod o brofiadau gwaith gwahanol? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol i ymuno â'r tîm yn y Tîm Anabledd Dysgu i weithio gyda phobl ifanc ag anableddau sy'n trosglwyddo i'r Gwasanaethau Oedolion.
Ydych chi'n angerddol am roi gofal o ansawdd uchel a chefnogi'r rhai ag Anabledd Dysgu i fyw bywyd llawn ac amrywiol? Wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl?
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithiwr cymdeithasol cymwys ymuno â'r Tîm Anableddau Dysgu Oedolion yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Rydym yn dîm gwaith cymdeithasol bywiog, creadigol a chefnogol, sy'n cefnogi oedolion a'u gyrfaoedd.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.
Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol ar sail cryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
Cyfle i hyfforddi’n rhan o'r gwaith o gynnig darpariaeth a mentora ar sail cryfderau.
Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol ar gyfer ei weithwyr.
Cyfleoedd i helpu i lywio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i oedolion ag anabledd dysgu yng Nghaerdydd yn y dyfodol
Mae’r swydd hon yn gyfle i gynorthwyo pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu a all fod angen:
Asesiadau dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Cynlluniau Gofal a Chymorth
Cynllunio pontio
Prosesau llys/Deddfwriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Asesiadau Gofal Iechyd Parhaus
Ochr yn ochr â chyfarfodydd goruchwylio a chyfoedion rheolaidd bydd gennych gyfle i fynychu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi a gwella ymarfer i adeiladu ar eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol sydd â dealltwriaeth gadarn o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac sydd â sgiliau mewn cynnal asesiadau sy'n seiliedig ar gryfder / sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn ogystal â rheoli llwyth achosion cymhleth yn effeithiol. Yn ogystal, mae'r swyddi hyn yn cynnwys asesu risg a chefnogi pobl i reoli'r risgiau hyn.
Profiad o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth yn hanfodol.
Brwdfrydedd ac angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd ag anabledd dysgu a'u teuluoedd sy'n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Sylfaen gwerthoedd cryf a pharodrwydd i weithio'n weithredol gyda gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau wrth wraidd eich ymarfer
Profiad o oruchwylio staff
Profiad o weithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu
Parodrwydd i ddysgu ymrwymiad i ymarfer rhagorol
Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014
Ymrwymiad i ddatblygu hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Byddwn yn eich helpu i gael profiad o waith a phrosesau’r Llys Gwarchod
Disgwylir i baw
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. **Cyflog Cystadleuol** **Taliad Atodol ar sail y Farchnad** **Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr** **Tyfu a datblygu** **_ Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF_** **Dull Ffocws ar y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol?** **Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf.** **Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Ardal
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Ardal
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...
-
Cynorthway-ydd Gwaith Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff gofal cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...