Rheolwr TÎm Gwaith Cymdeithasol Cymunedol

3 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn ochr â’r Rheolwr Gwasanaeth i gefnogi arfer gorau ac i ddarparu gwasanaethau proffesiynol ac arbenigol i ddinasyddion Caerdydd.

Byddwch yn rheoli tîm blaengar gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau o ran eich ymarfer, gan weithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y mwyaf o fyw'n annibynnol. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hymyriadau a'r cymorth a roddwn i'n haelodau staff. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n rhannu yr un ymrwymiad ac sy'n gallu arwain a rheoli timau i wreiddio'r diwylliant hwn.

Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg.

**Am Y Swydd**
Rydym yn ceisio recriwtio dau Reolwr Tîm, a fydd yn rheoli ein timau Gwaith Cymdeithasol Cymunedol. Mae'r timau'n gweithio ar draws cymunedau Caerdydd. Bydd y rôl yn gyfrifol am weithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Gwasanaeth a chydweithwyr i lunio'r model cyflenwi yn y dyfodol, a datblygu'r ymarfer gwasanaethau, a'r gweithdrefnau. Bydd y timau'n defnyddio ymarfer seiliedig ar gryfderau, ac mae ein datblygiad yn cael ei danategu gan ymrwymiad y Cyngor i'w Strategaeth Heneiddio'n Dda ac i weithio'n effeithiol gyda'r rhai â namau corfforol a synhwyraidd. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y Cyngor, Iechyd, y sector preifat a'r Trydydd Sector. Fel gwasanaeth rydym yn ffynnu ar waith amlddisgyblaethol, gan ddefnyddio dull cydweithredol gyda dinasyddion, gofalwyr di-dâl, teuluoedd a chydweithwyr. Mae angen profiad amlwg o berthnasoedd cydweithredol â phartneriaethau a chydweithwyr.

Bydd gennych brofiad o reoli timau gofal cymdeithasol, ac arbenigedd wrth sicrhau bod timau'n gweithio'n effeithiol i reoli systemau cymhleth mewn modd amserol a phroffesiynol. Bydd gennych brofiad o arwain a rheoli staff mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol, gan ddarparu goruchwyliaeth gyson ac effeithiol i uwch weithwyr cymdeithasol, a sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei darparu. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Rheolwyr Tîm a'r Rheolwr Gwasanaeth gan ddefnyddio data a gwybodaeth ac yn gallu rheoli a chynllunio mewn gwasanaeth eang.

Bydd gennych brofiad o gomisiynu gofal a rheolaeth ariannol o gyllideb Tîm ac yn deall pwysigrwydd dull cyson a chlir o ymdrin â gwasanaethau gofal i ddinasyddion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn awyddus i recriwtio staff profiadol sydd â phrofiad rheoli i'n gwasanaeth. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac i ddatblygu timau a gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar ymateb proffesiynol a thosturiol i'n dinasyddion.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd gennych brofiad helaeth o reoli achosion cymhleth a syml a dealltwriaeth o sut i reoli cydweithwyr trwy waith achos heriol.
- Bydd gennych brofiad helaeth o reoli achosion cymhleth a syml a dealltwriaeth o sut i reoli cydweithwyr drwy waith achos heriol.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn o'r fframwaith deddfwriaethol wrth lywodraethu'r arena gofal cymdeithasol a byddwch yn gallu cefnogi ac arwain aelodau'r tîm yn ogystal â rhoi arweiniad i gydweithwyr yn y Cyngor a phartneriaid eraill.
- Byddwch yn gallu deall gwaith y gwasanaeth, defnyddio staff yn briodol a gallu sicrhau bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau i barhau â'i waith gan ragweld a rheoli heriau.
- Byddwch yn deall ac yn defnyddio data i adrodd i'r Rheolwr Gwasanaeth am lif gwaith tîm a'r gwasanaethau a ddarperir i'n dinasyddion.
- Byddwch wedi datblygu sgiliau trefnu rhagorol i sicrhau bod eich tîm yn gweithredu'n llwyddiannus a'ch bod yn cynnal yr holl ofynion corfforaethol.
- Byddwch yn ymrwymedig i ddull seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol a byddwch yn annog ac yn datblygu'r dull hwnnw yn y gwasanaeth gan sicrhau sylfaen a strwythur sy'n cefnogi ymarfer.
- Byddwch yn ymrwymedig i annog staff i ymgymryd â hyfforddiant, sesiynau cymorth cymheiriaid a goruchwyliaeth a byddwch yn hyrwyddo hyn yn y gwasanaeth.
- Byddwch yn gallu dangos tystiolaeth o brofiad o weithio mewn amgylchedd dan bwysau. Mae eich profiad wedi datblygu eich gallu i fod yn ddigynnwrf a chyfeillgar gyda’r gallu i ymdopi drwy heriau a galw.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os hoffech drafod y swyddi gwag uchod ymhellach, cysylltwch â:
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer trefniadau rhannu swydd.

Mae'r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 cyfwerth ag amser llawn. Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.

Mae gofyn i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon yn cael taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae swyddi Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Ysbytai sy'n gweithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym am recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i'n gwasanaeth Pobl Hŷn a Nam Corfforol o fewn Gwasanaethau Oedolion. Mae'r rhain yn swyddi parhaol ac yn rhoi cyfle i weithio mewn lleoliad gwasanaeth gwaith cymdeithasol prysur. Mae eu rôl gyda'n Tîm Dyletswydd yn ymateb i gysylltiadau gan ddinasyddion, eu teuluoedd, darparwyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    Am Y Gwasanaeth Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm rheoli o fewn Ardal Dwyrain Caerdydd fel y Rheolwr Tîm wrth i’r un presennol gadael. Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** A oes diddordeb gennych mewn gyrfa Gwaith Cymdeithasol? Mae dod yn Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd. Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Gofal CYmdeithasol? Mae dod yn Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Canolfan Ymyriadau. Mae angen cynorthwy-ydd gwaith cymdeithasol...