Uwch Swyddog Hyb
3 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Dwyrain (Hyb Llaneirwg, Hyb Llanrhymni, Hyb Partneriaeth Tredelerch & Hyb Powerhouse Llanedern)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y tasgau'n cynnwys datrys ymholiadau, darparu gwasanaethau llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, darparu gwybodaeth a gweithredu fel mentor a rhoi cymorth i swyddogion eraill.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu gwych i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Dyma rai enghreifftiau o sut yr ydym yn ymdrechu i gyflawni hyn:
- Hawl i wyliau blynyddol hael.
- Trefniadau gweithio y gellir eu haddasu, a all gynnwys cynllun fflecsi sy'n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi ac sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy.
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach i roi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.
- Mynediad at rwydweithiau cydraddoldeb cyflogeion ar gyfer cymorth, arweiniad a chymdeithasu (mae'r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, Rhwydwaith Gofalwyr, Rhwydwaith Anabledd, Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Menywod).
- Cyfleoedd gwaith hybrid.
- Mynediad at gymorth lles gweithwyr cynhwysfawr.
- Mynediad at y Llwyfan Manteision i Weithwyr MyAdvantages (sy'n cynnwys mynediad at Gynllun Beicio i'r Gwaith y Cyngor a gostyngiadau unigryw gyda manwerthwyr fel Asda, Tesco ac Ikea).
**Am Y Swydd**
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cyngor ar ystod eang o wasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys darpariaeth llyfrgelloedd. Bydd gofyn i chi gydweithio â sefydliadau partner amrywiol i ddarparu gwasanaeth holistig; tra'n sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn cael ei ddarparu bob amser. Byddwch yn gweithredu fel mentor i swyddogion eraill ac yn rhoi cymorth iddyn nhw a'r rheolwr hyb cynorthwyol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen gwybodaeth arbenigol arnoch am ddarparu Gwasanaethau Llyfrgell, y Dreth Gyngor, Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor a Thai. Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm, a byddwch yn meddu ar agwedd hyblyg. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol a byddwch yn gallu datrys anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn arbennig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.
Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a chyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio.
Mae'r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae'r swyddi hyn yn amodol ar wiriadau DBS.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03652
-
Uwch Swyddog Hyb
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych ymuno â’n tîm Datrysiadau Tai yn yr Hybiau ar draws y ddinas. **Am Y Swydd** Bydd yr Uwch Swyddog Hyb yn gyfrifol am: Gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Hybiau i ddatrys ymholiadau am gyngor a darparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n...
-
Swyddog Hyb
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Uwch Swyddog Hyb
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Gogledd (Hyb yr Eglwys Newydd ar Hyb Rhiwbeina) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y tasgau'n cynnwys datrys ymholiadau, darparu...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...
-
Uwch Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Clercaidd
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n...
-
Uwch Swyddog Cynghori
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae dau gyfle llawn amser wedi dod ar gael gyda Caerdydd ar Waith. Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar Raglen...
-
Swyddog Hyb
7 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd gofyn i chi gynnal Cyfweliadau gyda chwsmeriaid sy'n dymuno ymuno â'r rhestr aros tai, gan eu cynghori ar yr holl opsiynau tai sydd ar gael yn ogystal â chynnal cyfweliadau cofrestru tenantiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo â’r gwaith o gydlynu ystod eang o wasanaethau’r cyngor a bydd gofyn iddo gydweithio ag...
-
Swyddog Hyb
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...