Rheolwr Gwasanaeth Lleoli Oedolion a Llety â

2 days ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ar draws Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion cymeradwy. Arolygiaeth Gofal Cymru ydy rheoleiddiwr y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd a galluogi pobl yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt, i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd mewn ffordd gynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r tîm yn cynnwys saith gweithiwr prosiect, un swyddog gofal cymdeithasol a gweinyddwr.

Darperir llety â chymorth ym Mro Morgannwg drwy gontract gyda dau ddarparwr cymorth, i oedolion ag anabledd dysgu a/neu anabledd corfforol sydd, yn dilyn asesiad lles, wedi'u nodi fel rhai sydd angen gofal a chymorth.

Diben y gwasanaeth yw darparu model o wasanaethau unigol sy'n seiliedig ar gryfderau ac wedi'u cyd-gynhyrchu, a fydd yn hyrwyddo ac yn cynnal annibyniaeth a chynhwysiant dinasyddion sydd ag anableddau dysgu a/neu anableddau corfforol, awtistiaeth, nam ar y synhwyrau, ymddygiad sy'n heriol ac anghenion chymhleth. Cefnogir y rheolwr gan swyddog monitro llety â chymorth.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Graddfa Gyflog Gradd 10, 36-39, £40,578 - £43,570

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Hen Goleg, Y Barri

**Disgrifiad**:

- Rheoli'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn unol â Chofrestru ac Arolygu** **Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Rhannau 2-16 o Reoliadau'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion cyfrifol) (Cymru) 2019
- Gweithio'n agos gyda'r Unigolyn Cyfrifol i reoli'r cytundeb partneriaeth rhwng Bro Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol a'u bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol.
- Datblygu'r gwasanaethau yn unol ag egwyddorion cyd-gynhyrchu a chydweithio â dinasyddion, staff a rhanddeiliaid allweddol.
- Darparu arweiniad a goruchwyliaeth broffesiynol i aelodau’r tîm ac adolygu a mynd i’r afael â’u perfformiad, hyfforddiant ac anghenion o ran datblygu personol yn rheolaidd er mwyn cyflawni amcanion adrannol i sicrhau gwelliant parhaus.
- Sicrhau bod dinasyddion yn ganolog i fonitro contractau a datblygu gwasanaethau.
- Hyrwyddo dealltwriaeth o ymchwiliadau a'u cynorthwyo yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau Diogelu Oedolion.
- Rhoi arweiniad ar faterion llety, rheoli newid a chynorthwyo darparwyr i ddarparu a chynnal gwasanaethau a safon uchel, sy’n hybu bywyd o ansawdd da ac annibyniaeth.
- Cymryd cyfrifoldeb a ddirprwyir dros reoli cyllidebau ariannol dynodedig drwy sicrhau bod aelodau tîm yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ateb anghenion mewn ffordd hyblyg a chreadigol o fewn dirprwyaeth y cytunwyd arni, ac adolygu cyllidebau’n rheolaidd yn unol ag egwyddorion Gwerth Gorau.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio fel aelod o dîm amlddisgyblaethol.
- Profiad o weithio gyda sefydliadau statudol, gwirfoddol ac annibynnol.
- Profiad o weithio gyda phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth.
- Profiad o weithio mewn llety â chymorth neu lety preswyl.
- Profiad o brosesau monitro gwasanaethau
- Profiad o weithdrefnau Diogelu Oedolion
- Profiad o reoli a goruchwylio mewn lleoliad iechyd a/neu ofal cymdeithasol
- Gwybodaeth am weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
- Yn gallu arddangos ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau
- Gwybodaeth am gysyniadau Polisi Cyfle Cyfartal y Cyngor ac ymrwymiad iddynt
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am bolisïau a deddfwriaeth berthnasol:

- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016), Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, Deddf Llesiant Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) (2014), Deddf Galluedd Meddyliol (2005) Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid/ Trefniadau Diogelu Rhyddid.
- Diploma Lefel 5 ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ( Ymarfer Uwch i Oedolion) FfCCh Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Oedolion) neu gymhwyster cyfatebol.
- Y gallu i weithio dan bwysau.
- Brwdfrydedd ac yn gryf eich cymhelliant

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad GDG: Manwl

07815859638

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00433

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Ydych chi’n defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder wrth wneud Gwaith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym gyfle i Weithwyr Cymdeithasol yn y Tîm Pontio Anableddau Dysgu, a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous yn bodoli i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro. Rydym yn chwilio am reolwr brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain ein tîm Ailalluogi. Mae Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig a gaiff ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd y Brifysgol Caerdydd ar Fro. Rydym yn...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** **Oes gennych chi ymagwedd sy'n seiliedig ar gryfder tuag at Waith Cymdeithasol?** **Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?** **Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.** Mae gennym nifer o gyfleoedd gwaith cymdeithasol ar draws y gwasanaeth a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi ymrwymo i...

  • Rheolwr Preswyl

    6 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cartref Porthceri, sydd wedi'i leoli yng Ngorllewin y Barri, yn gartref preswyl stori dwbl wedi'i adeiladu yn bwrpasol i bobl hŷn. Mae Cartref Porthceri yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer ei breswylwyr. Mae gwasanaethau...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...