Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
**Amdanom ni**
**Oes gennych chi ymagwedd sy'n seiliedig ar gryfder tuag at Waith Cymdeithasol?**
**Hoffech chi weithio yn yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru?**
**Os felly, ymunwch â ni ym Mro Morgannwg.**
Mae gennym nifer o gyfleoedd gwaith cymdeithasol ar draws y gwasanaeth a byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi ymrwymo i ymarfer o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn buddsoddi yn ein timau i fynd â'r gwasanaeth i'r lefel nesaf o ragoriaeth. Mae gennym swyddi gwag yn y meysydd canlynol:
- Tîm Derbyn ac Asesu: Ymyriadau cyflym i gefnogi pobl ag anghenion sy'n dod i'r amlwg neu sy'n newid.
- Tîm Gofal Hirdymor: Cefnogi pobl i fyw’n dda yn eu cymunedau lleol.
- Tîm Anabledd Dysgu: Cefnogi pobl ag Anabledd Dysgu i gyflawni eu llawn botensial a chanlyniadau personol.
- Gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau cymunedol - Gweithio ar draws Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro a Thîm Alcohol a Chyffuriau’r Fro i asesu a chefnogi’r rhai sydd ag anawsterau iechyd meddwl difrifol ac anawsterau camddefnyddio sylweddau, y cyfeirir ato hefyd fel diagnosis deuol.
Byddwch yn cael cymorth rhagorol ac yn cael mynediad at ystod o gyfleoedd hyfforddi i'ch cefnogi yn eich rôl.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 8 - 9 (yn dibynnu ar brofiad) £30,984 - £39,571
Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos 8.30 -5.00pm (4.30pm dydd Gwener) gyda lefel o hyblygrwydd.
Prif Weithle: Timau yn y Barri, Bro Morgannwg
Swyddi parhaol
Disgrifiad:
- Cyflawni asesiad o ddinasyddion yn unol â dyletswyddau statudol dan ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cynllunio a chomisiynu gwasanaethau i alluogi oedolion ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr ag anghenion cymorth i oresgyn y rhwystrau i gyflawni'r canlyniadau personol a monitro ac adolygu'r cynlluniau gofal drwy gyd-gynhyrchu â dinasyddion a gofalwyr
- Paratoi ar gyfer sesiynau goruchwylio ac Adolygu Datblygiad Personol (#AmdanafFi) gyda’r goruchwylydd/rheolwr llinell a chyfrannu atynt, a nodi anghenion datblygu personol a hyfforddiant i gynnal Cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Dilyn hyfforddiant i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod y Cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei swyddogaethau statudol, gan gynnwys parodrwydd i alluogi staff i ddilyn hyfforddiant pellach i ddod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, neu’n weithwyr mewn rolau uwch eraill mwy penodol.
- Goruchwylio neu fentora staff neu fyfyrwyr eraill lle y bo’n briodol a chynnig mewnbwn i raglenni hyfforddiant a chyfarfodydd Materion Ymarfer Tîm lle y bo’n briodol.
- Rhoi gwybod am unrhyw bryderon diogelu i’r swyddog diogelu priodol yn ddi-oed.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio gydag oedolion sy’n agored i niwed trwy salwch, anabledd neu eiddilwch oherwydd eu hoedran
- Asesu gofalwyr a dinasyddion sy'n oedolion.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol/gwirfoddol i hyrwyddo annibyniaeth dinasyddion
- Profiad o weithio gyda dull adfer/ar sail cryfder o gefnogi dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau personol
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru); y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a.y.b.
- Gwybodaeth am faterion a gweithdrefnau diogelu o ran oedolion
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau Cyfle Cyfartal ac ymrwymiad iddynt
- Gallu cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Gallu asesu anghenion, cynllunio gwaith, pennu blaenoriaethau ac adolygu trefniadau.
- Gallu dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth.
- Gallu cysylltu a chyd-drafod ag unigolion, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau.
- Gallu gweithio fel aelod o dîm.
- Gallu gweithio’n hyblyg a dan bwysau.
- Gallu gweithredu a chynnal systemau rheoli TG a gwaith achos. Safon addysg gyffredinol dda.
- Ymrwymiad i'ch datblygiad personol eich hun a hyfforddiant pellach.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad GDG
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Katherine Callow
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodol am ragor o wybodaeth.
Job Reference: SS00418
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
3 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer ei Dîm Fourteen Plus. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwytnwch ar draws ein timau. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i'n Tîm Derbyn, a'n Timau Cymorth i Deuluoedd, rydym yn ceisio ychwanegu capasiti ac adeiladu gwytnwch a sefydlogrwydd. Fel Gweithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg, bydd gennych lwyth gwaith hylaw, cefnogaeth ragorol ac amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn datblygu ein gwasanaethau i...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal HIrdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau...
-
Gweithiwr Cymdeithasol y Guardian Arbennig
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** - Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...
-
Llif Cleifion Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Bro Morgannwg ar gyfer Pobl Hŷn yn dîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig a seiciatryddion. Mae'r tîm yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd arbenigol i oedolion y maent yn byw gyda dementia a phobl dros 65 oed y mae ganddynt...