Rheolwr Preswyl

6 days ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Cartref Porthceri, sydd wedi'i leoli yng Ngorllewin y Barri, yn gartref preswyl stori dwbl wedi'i adeiladu yn bwrpasol i bobl hŷn. Mae Cartref Porthceri yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer ei breswylwyr. Mae gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion a dewisiadau a aseswyd.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 9, PCG 31 - 35 £35,336 - £39,571 y.f.

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos. Gweithio i rota 4 wythnos sy’n cynnwys gwaith penwythnos y rhoddir tâl ychwanegol ar ei gyfer. Er mwyn sicrhau cysondeb gwasanaeth mae disgwyliad i weithio rhai o’r oriau a gontractiwyd yn ystod shifft nos achlysurol.

Prif Waith: Cartref Preswyl Porthceri i Bobl Hŷn, Y Barri

**Disgrifiad**:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain a chymell grŵp staff ymrwymedig wrth ddarparu gwasanaeth o safon i 26 o bobl hŷn sy’n byw yng Nghartref Porthceri. Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, profiad o ofalu am bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia a phrofiad llwyddiannus o reoli gwasanaethau gofal nyrsio neu ofal cymdeithasol.

**Amdanat ti**
Bydd angen:

- O leiaf 2 flynedd o brofiad mewn gofal cymdeithasol i oedolion neu mewn rôl reoli cartref nyrsio
- NVQ/FfCCh lefel 4/5 ym maes rheoli gofal cymdeithasol neu Wobr rheolwr cofrestredig
- Wedi’ch cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru neu ymrwymiad i gofrestru ymhen 3 mis o gael eich penodi

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Marijke Jenkins -
01446 731106

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: SS00444



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tŷ Dewi Sant yn gartref gofal preswyl sy’n cefnogi hyd at 33 o bobl hŷn. Mae’n adeilad unllawr llachar, sy’n ystyriol o ddementia ac mae lles preswylwyr ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn. Mae gennym dîm mawr o staff sy'n ymroddedig ac yn groesawgar. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 5, SCP 8 - 12 £24,702 -...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ar draws Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion cymeradwy. Arolygiaeth Gofal Cymru ydy rheoleiddiwr y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn...