Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd

20 hours ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu annibyniaeth a chyflawni canlyniadau llesiant.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Gradd 4 Pwyntiau Cyflog 5-7 (£21,575 - £22,369) y flwyddyn
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 30 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Prif Weithle: Woodlands a Trysor O’Le
Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Parhaol

Disgrifiad:
Byddwch yn cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd, i gymryd rhan mewn cyfleoedd dydd ystyriol yn y gymuned ac yn y ganolfan gwasanaeth, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau lles. Bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau gyrru, er mwyn cludo unigolion yn ddiogel i weithgareddau yn ôl eu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y
person. Bydd gofyn i chi ddiwallu anghenion gofal personol ac iechyd yr unigolion. Byddwch hefyd yn cynnal cofnodion a helpu i lunio adroddiadau.

**Amdanat ti**
Profiad o weithio gydag Oedolion ag Anableddau Dysgu
- Profiad o yrru cerbydau mawr, gyda pharodrwydd i yrru cerbydau sydd wedi eu haddasu

ar gyfer cadeiriau olwyn pan fo angen.
- Profiad o ddiwallu anghenion gofal personol unigolion
- Safon gyffredinol dda o addysg
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Dibynadwy, hyblyg a sensitif

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen Gwiriad GDG? Manwl ar gyfer Oedolion
Trwydded Yrru: Llawn
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Joy Lamacraft 07522621694 Julia Berriman
07927678240

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00519

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...

  • Gweithiwr Cymorth

    7 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi unigolion wrth wraidd eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydym am gynnig y cymorth cywir i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar yr adeg iawn, i'w helpu i fod yn hapus ac yn ddiogel, ac i gael y cyfleoedd gorau mewn...

  • Gweithiwr Cymorth

    7 days ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel tra'n cefnogi pobl â namau corfforol er mwyn cyflawni nodau personol gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 4, PCG 5-7, £23,500 - £24,294 Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr - Dydd Llun - Dydd Iau, 8.30am - 5pm. Dydd...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio goruchwyliwr o fewn y Tîm Cymorth Busnes yn yr adran Gynllunio sy'n eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8 - 12...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes yn ein hadran Rheoli Datblygu (Cynllunio) sydd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 4, PCG 5 - 7,...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm o Amgylch y Teulu, Llinell Gynghori Teuluoedd yn Gyntaf a Gwasanaeth Rhianta'r Fro yn rhan o'r model Cymorth Cynnar ym Mro Morgannwg. Maent yn cefnogi teuluoedd drwy wrando ar eu hanghenion er mwyn nodi ymyriadau a gwasanaethau perthnasol a all eu helpu i oresgyn unrhyw heriau neu rwystrau a allai fod. **Ynglŷn â'r rôl** Yr...