Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes

4 days ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a dyraniadau amserol yn ddidrafferth. Maen nhw’n darparu gwybodaeth ystadegol fisol, yn diweddaru cofnodion dinasyddion ac yn gweithredu ar waith cau. Maent yn cynorthwyo Rheolwyr Tîm gyda phrosesau Adnoddau Dynol i alluogi'r Timau i weithredu a darparu cymorth gweinyddol llawn i weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a swyddogion gofal cymdeithasol er mwyn iddynt ganolbwyntio ar eu rolau

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 4, SCP 5-7, £21,575 - £22,369

Oriau Gwaith - 37 awr

Patrwm Gweithio: Dydd Llun i Ddydd Gwener
Prif Weithle: Canolfan Tŷ Jenner

Dyletswyddau i gynnwys
- Darparu gwasanaeth derbynfa rheng flaen i'r Gwasanaethau Oedolion.
- Cynorthwyo gyda rhedeg y ganolfan o ddydd i ddydd.
- Creu a chynnal systemau electronig i gofnodi ac olrhain gwybodaeth
- Fel y prif gysylltiadau ar gyfer y Tîm, sy'n gyfrifol am brosesu'r holl atgyfeiriadau a dderbynnir
- Casglu, monitro a darparu gwybodaeth rhestrau aros ar gyfer cyfarfodydd dyrannu wythnosol er mwyn i achosion gael eu dyrannu'n effeithlon ar sail blaenoriaeth.
- Cynnal a chadw systemau cofnodi cyfrifiadurol WCCIS, TRIM / Rheolwr Cynnwys.
- Paratoi ac anfon gohebiaeth drwy'r ystafell bost, system bost Hybrid ac e-bost diogel sy'n cadw at reoliadau GDPR
- Cynorthwyo Rheolwyr Tîm / Rheolwyr Ymarferwyr gyda phrosesau AD
- Darparu cefnogaeth weinyddol lawn i Dimau Oedolion.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur ac o gyflawni gwaith mewn pryd
- Profiad o weithio gyda systemau gwybodaeth cyfrifiadurol
- Profiad o waith tîm
- Gwybodaeth gyfrifiadurol gyffredinol, gan gynnwys systemau gwybodaeth seiliedig ar gyfrifiaduron (Microsoft Access, Excel)
- Sgiliau cyfathrebu da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i reoli ac adalw gwybodaeth
- Y gallu i flaenoriaethu'r llwyth gwaith ac i weithio dan bwysau
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd sy'n newid yn gyson.
- 4 TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth)
- Gweithiwr tîm
- Ymrwymiad at ragoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus
- Ymrwymiad i gyfle cyfartal ac i wasanaethu cwsmeriaid
- Y gallu i weithio ar ei (h)ysgogiad ei hun
- Hunangymhelliant
- Y gallu i weithio dan bwysau a chyflawni gwaith mewn pryd
- Parodrwydd i fanteisio ar hyfforddiant
- Yn gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel bo'n briodol
- Yn gallu ymateb i anghenion newidiol y swydd

**Gwybodaeth Ychwanegol**

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Kathryn O’Mahoney 01446 725100

Gweler y disgrifiad swydd/ manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach

Job Reference: SS00535



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): VPS-LSA3 Manylion am gyflog: Grade 5, SCP 8-12 ,£20,493 -£22,183 pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Dros Dro **Disgrifiad**: Rydym eisiau cyflogi cynorthwy-ydd cymorth dysgu rhagorol i ymuno â'n tîm effeithiol ac ymroddgar iawn. Bydd yr ymgeisydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio goruchwyliwr o fewn y Tîm Cymorth Busnes yn yr adran Gynllunio sy'n eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8 - 12...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Cymorth Busnes Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Tai ac Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai. Mae'r tîm, sy'n cefnogi'r Tîm Datblygu a Buddsoddi, yn rheoli ac yn darparu gwasanaeth addasiadau tai'r cyngor, ynghyd â chynnal y system rheoli asedau a ddefnyddir i fuddsoddi yn asedau tai’r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae dwy rôl ar gael mewn amgylchedd Adnoddau Dynol prysur, un yn eistedd yn Cylch Bywyd yn cefnogi'r Swyddog Prosiectau - Tâl, Recriwtio a Chadw a'r llall yn Datblygu Busnes yn cefnogi'r Rheolwr Systemau a Data AD, a bydd ganddynt gefnogaeth gan ddau reolwr sydd wedi cefnogi prentisiaid yn flaenorol i rolau parhaol. **Ynglŷn â'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes yn ein hadran Rheoli Datblygu (Cynllunio) sydd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 4, PCG 5 - 7,...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): CPS-LSA4 Manylion am gyflog: Level 4, Gradd 6, PCG 14 - 19 £23,484 - £25,927 p.a. pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 dyddiau/ 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Cymorth Lefel Uwch profiadol i gefnogi addysgu a dysgu arloesol ein...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Tîm Diogelu ac Adolygu yn croesawu ceisiadau am swydd Uwch Gynorthwyydd Cymorth Busnes. Mae hon yn rôl bwysig yn cefnogi gweithgarwch a swyddogaethau'r Tîm Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r tîm yn un sydd wedi hen ennill ei blwyf gydag ystod eang o swyddogaethau. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 7, £26,446 -...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Tîm Rhanbarthol yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn yr awdurdod lleol, ac mewn sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn cynnal rhaglen ranbarthol o newid, er mwyn cyflawni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth. Mae’r Tîm...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Tîm bach yw’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol (IG) wedi’i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae'r adran IG yn cefnogi iechyd a lles pob aelod o staff ar draws y Cyngor gan gynnwys Ysgolion ac mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Atgyfeiriadau Rheoli, Arolygu Iechyd a Sgrinio Iechyd, Imiwneiddio, Cwnsela a Hybu Iechyd /...