Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes Iechyd Galwedigaethol
4 days ago
**Amdanom ni**
Tîm bach yw’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol (IG) wedi’i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae'r adran IG yn cefnogi iechyd a lles pob aelod o staff ar draws y Cyngor gan gynnwys Ysgolion ac mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Atgyfeiriadau Rheoli, Arolygu Iechyd a Sgrinio Iechyd, Imiwneiddio, Cwnsela a Hybu Iechyd / Lles.
Mae'r tîm yn cynnwys Rheolwr Nyrsys IG, Nyrs IG, Gweinyddwr a dau Feddyg IG yn ogystal â Chwnselwyr.
Nod y tîm yw cynnig gwasanaeth cefnogol a chyfrinachol gan roi bwyslais ar gefnogi anghenion Cyflogeion a Rheolwyr wrth ddelio â phob agwedd ar iechyd a lles.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Graddfa Gyflog - Gradd 3, PCG 4, £21,189 y flwyddyn
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos - llawn amser parhaol
Prif Weithle: Adran IG y Swyddfeydd Dinesig
**Disgrifiad**:
Yn y rôl byddwch yn defnyddio eich arbenigedd mewn mewnbynnu data, rheoli cronfeydd data, rheoli dyddiaduron a chydlynu a pharatoi adroddiadau. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys teipio sain, ysgrifennu a pharatoi llythyrau a chynnal a chadw a datblygu systemau swyddfa.
Cyn bo hir, bydd y gwasanaeth yn symud i System Iechyd Galwedigaethol ar-lein newydd (CORITY)
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Rydym yn chwilio am weinyddwr brwdfrydig a phrofiadol sy'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm ac sy'n gallu dangos ymrwymiad i gwblhau gwaith cymorth gweinyddol o ansawdd uchel gyda phwyslais ar gyfrinachedd, mewn modd effeithlon ac amserol.
- Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol, cymhwysedd TG, yn enwedig gyda rhaglenni Word, Excel ac Outlook, ac ystod eang o brofiad gweinyddol.
- Mae profiad o weithio ym maes Iechyd Galwedigaethol, yn defnyddio system rheoli cofnodion IG neu debyg yn ddymunol.
- Gan weithio fel rhan o dîm bach, byddai'r gallu i gyflenwi am eich cydweithwyr yn ystod eu habsenoldeb hefyd yn ddymunol er mwyn sicrhau y gweithredir y gwasanaeth yn llyfn.
Os ydych chi'n mwynhau gweithio mewn lleoliad prysur a bod gennych ddull gweithredu hyblyg a'r gallu i addasu i flaenoriaethau sy'n newid, bydd hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Nicky Johns Rheolwr Nyrsys IG (01446 709182)
Gweler y disgrifiad swydd/fanyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: RES00317
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Ady
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): VPS-LSA3 Manylion am gyflog: Grade 5, SCP 8-12 ,£20,493 -£22,183 pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Dros Dro **Disgrifiad**: Rydym eisiau cyflogi cynorthwy-ydd cymorth dysgu rhagorol i ymuno â'n tîm effeithiol ac ymroddgar iawn. Bydd yr ymgeisydd...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...
-
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Ad
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Byddwch yn ymuno â thîm Partneriaeth Busnes AD prysur a chefnogol i helpu i ddarparu cymorth gweinyddol AD i ymateb i bob agwedd ar wasanaethau'r cyngor. Bydd angen i chi gael dull hyblyg a chadarnhaol er mwyn helpu i ddiwallu anghenion y tîm a helpu i gyfrannu tuag at ddarparu gwasanaeth AD o ansawdd uchel ar draws y cyngor. **Ynglŷn...
-
Goruchwylydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio goruchwyliwr o fewn y Tîm Cymorth Busnes yn yr adran Gynllunio sy'n eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8 - 12...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Tîm Cymorth Busnes Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Tai ac Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai. Mae'r tîm, sy'n cefnogi'r Tîm Datblygu a Buddsoddi, yn rheoli ac yn darparu gwasanaeth addasiadau tai'r cyngor, ynghyd â chynnal y system rheoli asedau a ddefnyddir i fuddsoddi yn asedau tai’r...
-
Therapydd Galwedigaethol
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Therapydd Galwedigaethol profiadol a brwdfrydig ymuno â'n tîm yn llawn amser, yn barhaol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio a rheoli prosiect arloesol, a elwir yn 'Rhyddhau Amser i Ofal' sy'n canolbwyntio ar optimeiddio a theilwra pecynnau gofal ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi yn y...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae dwy rôl ar gael mewn amgylchedd Adnoddau Dynol prysur, un yn eistedd yn Cylch Bywyd yn cefnogi'r Swyddog Prosiectau - Tâl, Recriwtio a Chadw a'r llall yn Datblygu Busnes yn cefnogi'r Rheolwr Systemau a Data AD, a bydd ganddynt gefnogaeth gan ddau reolwr sydd wedi cefnogi prentisiaid yn flaenorol i rolau parhaol. **Ynglŷn â'r...
-
Swyddog Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes yn ein hadran Rheoli Datblygu (Cynllunio) sydd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 4, PCG 5 - 7,...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): CPS-LSA4 Manylion am gyflog: Level 4, Gradd 6, PCG 14 - 19 £23,484 - £25,927 p.a. pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 dyddiau/ 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Cymorth Lefel Uwch profiadol i gefnogi addysgu a dysgu arloesol ein...