Therapydd Galwedigaethol
5 days ago
**Amdanom ni**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Therapydd Galwedigaethol profiadol a brwdfrydig ymuno â'n tîm yn llawn amser, yn barhaol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio a rheoli prosiect arloesol, a elwir yn 'Rhyddhau Amser i Ofal' sy'n canolbwyntio ar optimeiddio a theilwra pecynnau gofal ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi yn y gymuned.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o drin â llaw, pecynnau gofal maint dde, a gwybodaeth gadarn o offer a thechnegau arbenigol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio'r Swyddog Gofal Cymdeithasol/Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, gan gynnwys goruchwylio rheoli achosion a dyletswyddau o ddydd i ddydd.
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu am dair blynedd ond mae'r swydd yn barhaol, a bydd swydd arall yn cael ei chynnig o fewn y Cyngor, pe na bai'r prosiect yn parhau.
**Ynglŷn â'r rôl**
- Cyflog: Gradd 8 (£34,834-£38,23 y flwyddyn, pro rata) yn ogystal â thaliadau chwyddo_
- Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos gan gynnwys rota penwythnosau_
- Prif Waith: Ysbyti Barry (dros dro). Gwaith yn y gymuned ar draws y Fro._
- Parhaol._
- Byddwch yn gweithio o fewn tîm sefydledig ac yn darparu asesiadau ac ymyriadau therapi galwedigaethol i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth sydd â chyflyrau amrywiol Byddwch yn cael cymorth proffesiynol gan y tîm therapi Galwedigaethol ehangach ac yn cyfrannu at ddatblygu'r Gwasanaeth hwn._
- Bydd agweddau allweddol yn cynnwys hybu annibyniaeth, iechyd a lles er mwyn helpu unigolion i gyflawni eu nodau drwy gydweithio a chymorth amlddisgyblaethol._
- Fel un o’n Therapyddion Galwedigaethol bydd disgwyl i chi weithio’n hyblyg dros 5 diwrnod, gan gynnwys gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc._
**Amdanat ti**
- Yr ydym yn chwilio am therapydd galwedigaethol sy'n flaengar ac yn frwdfrydig ynghylch ffyrdd arloesol o weithio_
- Mae'n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i uniaethu â'r unigolyn sy'n derbyn cymorth a deall ei anghenion. Mae’r sgiliau i weithio'n annibynnol a defnyddio'u menter eu hunain a hefyd fel tîm amlddisgyblaethol ehangach yn hanfodol. Rhaid i chi hefyd fod ag agwedd gadarnhaol a'r cymhelliant i alluogi pobl i aros gartref a chynnal swyddogaeth, annibyniaeth a pharchu eu dewisiadau._
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Gellir dod o hyd i fanylion llawn yn y disgrifiad swydd atodedig a'r fanyleb person._
Job Reference: SS00863
-
Therapydd Galwedigaethol
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 8 PCG 26 - 30 £34,834 - £38,223 Oriau Gwaith - 37 Patrwm Gweithio: Dydd Llun - Dydd Gwener Prif Weithle: Canolfan Tŷ Jenner Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am lwyth achosion pobl sydd angen asesiad yn eu cartrefi er mwyn cynnal eu diogelwch a chynyddu annibyniaeth. Caiff hyn ei fodloni drwy...
-
Swyddog Gofal Cymdeithasol
5 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Gofal Cymdeithasol/Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol profiadol ac ysgogol ymuno â'n tîm yn llawn amser, yn barhaol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio ochr yn ochr â'r Uwch Therapydd Galwedigaethol fel rhan o brosiect newydd arloesol i becynnau gofal maint cywir ar gyfer y bobl rydym yn eu...