Cynorthwy-ydd Cymorth Projectau RHanbarthol
4 days ago
**Amdanom ni**
Mae’r Tîm Rhanbarthol yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn yr awdurdod lleol, ac mewn sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn cynnal rhaglen ranbarthol o newid, er mwyn cyflawni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth. Mae’r Tîm Rhanbarthol yn chwarae rôl allweddol mewn hyrwyddo a chynnal Dewis Cymru. Mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur adnoddau sy’n darparu gwybodaeth am yr ystod o wasanaethau lles sydd ar gael yn lleol, ac yn rhoi dewis a rheolaeth i bobl dros y gwasanaethau maent yn ymgysylltu â nhw, gan eu helpu i ddod o hyd i ffynonellau help a chymorth ymarferol.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 4 (Grade 4 (£21,575- £22,369) pro-rata y flwyddyn.
Oriau Gwaith: 30 awr yr wythnos (gallai’r swydd fod yn addas i’w rhannu)
Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener (y gwir ddiwrnodau i’w penderfynu wrth benodi)
Cyd-leolir yn Dominions Way, Caerdydd, Swyddfa Dociau’r Barri, y Barri a gweithio gartref
Disgrifiad:
Yn adrodd i’r Rheolwr Projectau Rhanbarthol, bydd y Cynorthwy-ydd Projectau Rhanbarthol yn
- Gweithio gyda phartneriaid o bob man o Gaerdydd a Bro Morgannwg i ddatblygu a chynnal Dewis Cymru.
- Bod yn gyfrifol am wella cywirdeb a maint y gwasanaethau ar Dewis Cymru
- Cefnogi’r Rheolwr Projectau ag allgymorth a gweithgareddau rhanbarthol eraill i godi ymwybyddiaeth o Dewis Cymru.
- Dylanwadu ar unigolion, staff a sefydliadau a’u hysgogi i ddefnyddio Dewis.
- Cynorthwyo â’r gwaith o hyfforddi, arddangos a rhoi cyngor ac arweiniad i staff neu grwpiau lleol ar ofynion gwybodaeth a’r defnydd o Dewis.
- Cynorthwyo darparu Rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Gynaliadwy Ranbarthol drwy weithgareddau o ddydd i ddydd a chynnal y rhaglen a’r ffrydiau gwaith cysylltiedi
**Amdanat ti**
Bydd angen:
- Bod yn hunan-gymhellol a gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel aelod o dîm.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a’r gallu i frwdfrydu ac ysgogi eraill.
- Yr hyder i gefnogi eraill gyda hyfforddiant, gan arddangos a rhoi arweiniad i staff neu grwpiau lleol
- Sgiliau cyfrifiadurol rhagorol, profiad o ddiweddaru cofnodion a sicrhau cywirdeb gwybodaeth a sylw at fanylion
- Sgiliau trefnu gwych, gan gynnwys y gallu i drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau.
- Lefel addysg safonol dda.
- Gallu blaenoriaethu llwythi gwaith a gweithio dan bwysau
- Gallu teithio rhwng safleoedd gwaith yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a ledled dwy ardal yr awdurdodau lleol yn ôl yr angen.
- Profiad amlwg o weithio mewn gofal cymdeithasol neu sefydliad tebyg.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Disgrifiad: Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: SS00637
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Ady
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): VPS-LSA3 Manylion am gyflog: Grade 5, SCP 8-12 ,£20,493 -£22,183 pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Dros Dro **Disgrifiad**: Rydym eisiau cyflogi cynorthwy-ydd cymorth dysgu rhagorol i ymuno â'n tîm effeithiol ac ymroddgar iawn. Bydd yr ymgeisydd...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): CPS-LSA4 Manylion am gyflog: Level 4, Gradd 6, PCG 14 - 19 £23,484 - £25,927 p.a. pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 dyddiau/ 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Cymorth Lefel Uwch profiadol i gefnogi addysgu a dysgu arloesol ein...
-
Athro - Ysgol Gynradd Tregatwg
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais):CPS-TEACH Manylion am gyflog: Prif Raddfa Athrawon + TLR2a Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 diwrnod, llawn amser Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu llawn amser i ymuno â’n hysgol arloesol a bywiog cyn gynted â phosibl. Gyda...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Tîm Cymorth Busnes Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Tai ac Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai. Mae'r tîm, sy'n cefnogi'r Tîm Datblygu a Buddsoddi, yn rheoli ac yn darparu gwasanaeth addasiadau tai'r cyngor, ynghyd â chynnal y system rheoli asedau a ddefnyddir i fuddsoddi yn asedau tai’r...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...
-
Cynorthwyydd Dysgu L3
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Ein nod yn Nhregatwg yw darparu cwricwlwm deniadol ac arloesol ar gyfer yr 21ain Ganrif sy’n cael ei arwain gan ddiddordebau plant ac sy’n rhoi’r sgiliau a’r profiadau iddynt ddod yn ddysgwyr gydol oes hyderus. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i uchelgais y Cwricwlwm Newydd i Gymru, i’n plant fod yn: - Dysgwyr uchelgeisiol, galluog -...
-
Cynorthwy-ydd Llyfrgell
4 days ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Ein gweledigaeth yw darparu gwasanaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth modern sy'n diwallu anghenion newidiol ein cymunedau. **Ynglŷn â'r rôl** Cynorthwyo gyda rhoi gwasanaeth llyfrgell cyfeillgar a phroffesiynol i’r gymuned. Bydd hyn yn cynnwys ymdrin ag ymholiadau, helpu gyda gweithgareddau llyfrgell a rhoi cymorth i gwsmeriaid i fanteisio...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Tîm bach yw’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol (IG) wedi’i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae'r adran IG yn cefnogi iechyd a lles pob aelod o staff ar draws y Cyngor gan gynnwys Ysgolion ac mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Atgyfeiriadau Rheoli, Arolygu Iechyd a Sgrinio Iechyd, Imiwneiddio, Cwnsela a Hybu Iechyd /...
-
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae dwy rôl ar gael mewn amgylchedd Adnoddau Dynol prysur, un yn eistedd yn Cylch Bywyd yn cefnogi'r Swyddog Prosiectau - Tâl, Recriwtio a Chadw a'r llall yn Datblygu Busnes yn cefnogi'r Rheolwr Systemau a Data AD, a bydd ganddynt gefnogaeth gan ddau reolwr sydd wedi cefnogi prentisiaid yn flaenorol i rolau parhaol. **Ynglŷn â'r...