Handyperson (University Accommodation)
1 week ago
MAE O'R PWYSIGRWYDD MWYAF EICH BOD YN DARLLEN Y TESTUN SY'N YMWNEUD Â CHWBLHAU DATGANIAD ATEGOL A NODIR YN YR ADRAN MANYLEB PERSON.
Mae preswylfeydd y Brifysgol yn darparu llety i tua 5,500 o fyfyrwyr ar draws y brifysgol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ystod eang o bobl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn brwdfrydig a dibynadwy, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw effeithlon ac effeithiol ar safle preswylfeydd myfyrwyr.
Swydd 1 - Llawn Amser 35 awr yr wythnos, fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener 7 awr y dydd
Swydd 2 - Rhan Amser, 25 awr yr wythnos, fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener 5 awr y dydd.
Gweithir sifftiau rhwng 8.00am - 6.00pm ar sail rota.
Cynhelir y cyfweliadau dydd Mercher, 2 Ebrill 2025
Cyflog Cychwynnol: £12.79 yr awr (£23,350 y flwyddyn (Gradd 2).
Mae'r rôl hon yn seiliedig ar y Campws.
Manteision
Rydym yn cynnig pecyn buddion staff cystadleuol a gwerth chweil:
- 32 diwrnod o wyliau'r flwyddyn ynghyd ag 8 gŵyl y banc, gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i ffwrdd
- Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Gwisg a Hyfforddiant yn rhad ac am ddim
- Hyfforddiant mewnol fydd yn arwain at gymwysterau newydd a gwell i helpu i sicrhau eich dilyniant.
- Rydym yn cynnig dau gynllun pensiwn cyfrannol a byddwch yn cael eich cynnwys fel mater o drefn yn y cynllun sy'n berthnasol i'ch eich math o swydd.
- Yn sgil eincynllun Beicio i'r Gwaithcaiff cyflogeion brydlesu beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig gwerth hyd at £3,000 drwy gynllun Aberthu Cyflog.
- Yn rhan o gynllun Benthyciadau Tocynnau Teithio Tymor Blynyddol y Brifysgol cewch wneud cais am fenthyciad di-log gan y Brifysgol, a fydd yn ei thro yn prynu tocyn teithio blynyddol ar eich rhan. Bydd y swm hwn yn ad-daladwy dros gyfnod o 10 mis
- Cyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon
- Manteisio ar fwy na 90 o ostyngiadau a bargeinion i'r staff
- Gofal plant am bris gostyngol
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2025
Dyddiad cau: Dydd Iau, 8 Ionawr 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd sydd â'r uchelgais i greu prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif Ddyletswyddau
- Cynnal mân atgyweiriadau a rhoi gwybod am unrhyw atgyweiriadau mawr i reolwyr y safle a'r Is-adran Ystadau. Gweithredu o dan arferion gweithio diogel.
- Cadw cofnodion o broblemau cynnal a chadw parhaus, yn enwedig mewn perthynas â materion cynnal a chadw ar y gweill. Er mwyn dilyn unrhyw gamau gweithredu gofynnol, uwchgyfeirio yn ôl yr angen, a chynghori'r cwsmer fel y bo'n briodol.
- Symud dodrefn, storfeydd a sbwriel ac ati.
- Darllen mesuryddion nwy a thrydan a chofnodi darlleniadau lle bo'n berthnasol.
- Cloi/datgloi adeiladau yn ôl yr angen.
- Cadw pob ardal allanol yn ddiogel ac yn daclus. Ysgubo a chlirio'r ffyrdd a'r llwybrau, gan ddefnyddio offer priodol yn ôl yr angen. Gwneud yn siŵr nad oes sbwriel ar y safle.
- Cadw ardaloedd storio biniau sbwriel yn lân a symud biniau yn ôl yr angen.
- Casglu a chael gwared ar sbwriel.
- Cynnal gwiriadau diogelwch a larymau tân, llwybrau dianc, goleuadau argyfwng, drysau ac offer tân, cadw cofnodion cywir o wiriadau/archwiliadau/profion a/neu waith a gwblhawyd neu a godwyd.
- Cymryd rhan mewn fflysio legionella a gweithdrefn profi dyfeisiau cludadwy a chadw cofnodion cywir yn ôl yr angen.
- Dosbarthu allweddi a post.
- Cynnal gwaith peintio fel y cyfarwyddir.
- Bod yn ymwybodol o faterion diogelwch ar y safle, gan gadw mewn cysylltiad â thîm y preswylfeydd trwy gysylltiad radio.
- Sicrhau y rhoddir gwybod am unrhyw broblemau neu beryglon cynnal a chadw, a nodir ar y safle, yn ystod gweithrediadau o ddydd i ddydd.
- Gyrru cerbydau'r Brifysgol a danfon nwyddau yn ôl yr angen.
- Paratoi ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau ac ati.
- Cymryd rhan ym mhob sesiwn hyfforddiant a nodir yn y Matrics Hyfforddiant.
- Nodi eich anghenion hyfforddiant personol yn unol â'ch rheolwr, gan wneud yn siŵr bod dysgu'n cael ei drosglwyddo yn y gweithle.
- Ymdrin â dyletswyddau cyffredinol eraill o fewn cwmpas y radd, megis coginio a chynhyrchu bwyd, rheoli dyletswydd, cyflenwi yn ystod absenoldeb neu yn ystod cyfnodau o amrywiad mewn llwyth gwaith o fewn y gweithle arferol neu mewn mannau eraill o fewn y mannau Arlwyo.
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd/gadael, mewn cynadleddau a chyfnodau prysur eraill a all fod o fewn preswylfeydd eraill ac sy'n golygu gweithio oriau ychwanegol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd.
GWYBODAETH AM WASANAETHAU'R CAMPWS
Mae Gwasanaethau'r Campws yn darparu ystod o wasanaethau cymorth proffesiynol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r gwasanaeth Preswylfeydd yn rheoli llety ar gyfer dros 5,500 o fyfyrwyr mewn lletyau arlwyo a hunanarlwyo.
O ran arlwyo, mae caffis a bwytai wedi'u lleoli'n gyfleus ar draws campysau'r brifysgol, yn ogystal â gwasanaeth lletygarwch a ddarperir.
Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwasanaeth chwaraeon cytbwys ac integredig o safon uchel i fyfyrwyr a staff, ac yn diwallu anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr.
Mae'r Feithrinfa yn cynnig cyfleusterau i blant rhwng 10 wythnos a 5 mlynedd oed, ac mae'r ganolfan wedi'i rhannu'n adrannau sy'n briodol i oedran a datblygiad y plant.
Defnyddir y cyfleusterau preswyl ac arlwyo ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn ystod gwyliau'r Brifysgol. Mae canolfan gynadleddau a adeiladwyd ac a ddyluniwyd at y diben ar gael hefyd drwy gydol y flwyddyn.
Mae gwaith Gwasanaethau'r Campws wedi'i gefnogi gan ei wasanaeth gweinyddol mewnol sy'n ymdrin â neilltuo lleoedd mewn preswylfeydd, adnoddau dynol ac ansawdd, prynu, cyfleusterau, cyllid, a gwaith gweinyddol cyffredinol.
Manyleb Unigolyn
Mae Manyleb yr Unigolyn wedi'i rhannu'n ddwy adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble rydych wedi defnyddio eich profiad, eich gwybodaeth, eich sgiliau penodol a'ch galluoedd yn unol â gofynion y swydd benodol hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy greu dogfen newydd sy'n cynnwys eich datganiad ategol yn ei gyfanrwydd, cyfeiriwch at gynllun sampl isod, rhestrwch YR HOLL FEINI PRAWF a gosod sylwadau wrth bob un sy'n nodi sut y gwnaethoch eu bodloni.
Mae'n rhaid i chi lunio'r datganiad hwn cyn dechrau gwneud eich cais ar-lein, gan y bydd angen i chi ei lanlwytho. Pan fyddwch yn uwchlwytho'r datganiad ategol, mae angen enwi'r ddogfen yn "datganiad ategol a dylai hefyd gynnwys gyfeirnod y swydd sy'n gorffen gyda BR" (sy'n berthnasol i'w swydd dan sylw).
MEINI PRAWF HANFODOL
- Profiad o wneud atgyweiriadau cyffredinol mewn amgylchedd proffesiynol/masnachol.
- Profiad o gyfathrebu gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod eang o bobl.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda'r gallu i ymateb i anghenion cwsmeriaid mewn ffordd foneddigaidd a chwrtais ac addasu i'w hanghenion yn ôl y gofyn.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifol gan gynnwys rhifyddeg sylfaenol.
- Gallu diamheuol i ddilyn cyfarwyddiadau/gweithdrefnau.
- Profiad o ymgymryd â gweithgareddau codi a chario.
- Dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelwch trydanol, systemau gwresogi a phlymio.
- Dealltwriaeth sylfaenol o beryglon diogelwch yn y gweithle.
- Trwydded yrru Grŵp B ddilys, lawn
- Profiad o beintio.
- Tystiolaeth o'r gallu i ddefnyddio ebost a chymwysiadau ar y rhyngrwyd.
- Gallu siarad Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu'r iaith.
Bydd yr holl benderfyniadau wrth lunio rhestr fer yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol yn y lle cyntaf, gyda'r meini prawf dymunol yn cael eu defnyddio i ddewis neu ddad-ddewis ymgeiswyr yn dilyn hynny fel sy'n briodol. Byddwn yn cyfweld â'r ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r meini prawf dynodedig orau.
Mae enghraifft o sut i amlinellu eich dogfen a chynnwys meini prawf Hanfodol a Dymunol isod:
HANFODOL
1. Profiad o wneud atgyweiriadau cyffredinol mewn amgylchedd proffesiynol/masnachol.
Cyflwynwch dystiolaeth
2. Profiad o gyfathrebu gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod eang o bobl.
Cyflwynwch dystiolaeth
3. Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda'r gallu i ymateb i anghenion cwsmeriaid mewn ffordd foneddigaidd a chwrtais ac addasu i'w hanghenion yn ôl y gofyn.
Cyflwynwch dystiolaeth
Ewch ymlaen i restru'r holl feini prawf Hanfodol a Dymunol, gan roi tystiolaeth dan bob pennawd.
-
University Programs Recruiter
2 weeks ago
London, Greater London, United Kingdom Cloudflare Full time £60,000 - £80,000 per yearAbout UsAt Cloudflare, we are on a mission to help build a better Internet. Today the company runs one of the world's largest networks that powers millions of websites and other Internet properties for customers ranging from individual bloggers to SMBs to Fortune 500 companies. Cloudflare protects and accelerates any Internet application online without...
-
Out of Hours Residence Manager
2 weeks ago
London, Greater London, United Kingdom University of the Arts London Full time £40,000 - £49,172 per yearVacancy ID12169College/Exec GroupEstatesLocationCCW - Peckham Road, London UKSalary£40,199 - £49,072 per annumContractPermanentHours35Apply by7 December 2025, 11:55 pmThe opportunityOpportunity to use your accommodation and tenancy management experience to play a key role ensuring University of the Arts London (UAL) halls of residence remain safe and...
-
Assistant Residence Manager
2 weeks ago
London, Greater London, United Kingdom GSA - Global Student Accommodation Full time £30,000 - £32,000 per yearThe Curve, LondonPermanent40 hours per week£30,000 - £32,000Our Assistant Managers are part of a team of awesome Yugoers across the globe, who will support you to ensure we are consistent in the service we provide to our students. #Futureshapers who want to positively influence and shape the lives of others students and Yugoers.Located in the heart of...
-
London, Greater London, United Kingdom Flinders University Full time AU$113,211 - AU$133,974Position DetailsFull Time | ContinuingAcademic Level A | $88,842 - $107,666 pro-rata plus 17% super I View Position DescriptionAcademic Level B I AU$ $ p.a + 17% Super I View Position DescriptionLocation: Tonsley / Kaurna Country /Australia View Candidate BrochureAbout the Role:Flinders University's College of Science and Engineering is seeking an...
-
Professor in Software Engineering
4 days ago
London, Greater London, United Kingdom Flinders University Full time £212,873 per yearPosition DetailsFull Time | ContinuingAcademic Level E I AU$212,873 plus 17% SuperannuationLocation: Tonsley / Kaurna Country /AustraliaView Position Description View Candidate Brochure About the Role:Flinders University's College of Science and Engineering is seeking a distinguished academic to provide leadership in software engineering and cloud...
-
Senior Lecturer in Mechanical Engineering
4 days ago
London, Greater London, United Kingdom Flinders University Full time AU$138,124 - AU$158,885Position DetailsFull Time | ContinuingAcademic Level C: AU$ $138,124 - $158,885 p.a.+ 17% Super I View Position DescriptionLocation: Tonsley / Kaurna Country /Australia View Candidate BrochureAbout the Role:Mechanical Engineering at Flinders University is based at the new state of the art Campus at Tonsley and the new City Campus. It has been identified as...
-
Research Assistant
6 days ago
London, Greater London, United Kingdom City St George's, University of London Full time £30,000 - £50,000 per yearCity St George's, University of London is the University of business, practice and the professions and brings together the expertise and excellence of City, University of London and St George's, University of London into one institution. The combined university is one of the largest suppliers of the health workforce in the capital, as well as one of the...
-
Summer Letting Coordinator
4 hours ago
London, Greater London, United Kingdom University of London Careers Service Full timeThe University of LondonThe University of London is the UK's largest provider of international distance and online learning and the convenor of a federation of 17 London-based universities, many of which are among the highest-ranking universities in the world.Collectively the federation represents a cohort of some 250,000 learners and 50,000 academic and...
-
London, Greater London, United Kingdom Flinders University Full time AU$138,124 - AU$158,885Position DetailsFull Time | ContinuingAcademic Level C | AU$138,124 - $158,885 pa + 17% SuperView Position DescriptionLocation: Tonsley / Kaurna Country /Australia View Candidate BrochureAbout the Role:Flinders University's College of Science and Engineering is seeking an accomplished, forward-thinking academic to join our expanding team as Senior Lecturer...
-
Lecturer/Senior Lecturer in ICT
4 days ago
London, Greater London, United Kingdom Flinders University Full time AU$113,211 - AU$158,885Position DetailsFull Time | ContinuingAcademic Level B | AU$113,211 - $133,974 p.a. I View Position Description Academic Level C I AU$ $ p.a. I View Position DescriptionLocation: Tonsley / Kaurna Country /Australia View Candidate Brochure About the Role:The College of Science and Engineering is seeking a passionate Lecturer or Senior Lecturer to drive...