Uwch Asesydd Budd-daliadau
7 months ago
**Amdanom ni**
Mae'r swydd o fewn yr Adran Fudd-daliadau. Mae’r tîm yn prosesu pob math o geisiadau am Fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor yn unol â phob gofyniad gweinyddol a deddfwriaethol. Rydym hefyd yn prosesu ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim a Grantiau Datblygu Disgyblion.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409 - £27,852
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos
Prif Weithle: Gweithio o adref/y Swyddfeydd Dinesig
- Prosesu pob math o geisiadau am Fudd-dal Tai a Gostyngiad/Cymorth y Dreth Gyngor gan gynnwys enillwyr cyflog hunan gyflogedig, personau o dramor a myfyrwyr ar gyfer lwfansau rhent, ad-daliadau rhent a cheisiadau lleihad treth gyngor.
- Delio â newidiadau mewn amgylchiadau ar gyfer pob math o hawliad ac eitemau eraill y mae angen camau gweithredu ar eu cyfer mewn perthynas â hawliadau Budd-dal;
- Mynd i’r afael â gohebiaeth ac ymholiadau fwy cymhleth yn unol â dymuniadau rheolwyr,
- Sicrhau fod gordaliadau wedi eu dosbarthu yn gywir at ddibenion adennill a bod camau yn cael eu cymryd i adennill oddi ar fudd-daliadau sy’n mynd rhagddynt lle bo’n briodol;
- Gwneud penderfyniadau ar geisiadau i ôl-ddyddio budd-daliadau;
- Gwybod am Reoliadau presennol Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ac arfer gorau;
- Delio ag ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn, gohebiaeth, neu wyneb yn wyneb a chynnal cyfweliadau;
- Nodi ac adrodd ar hawliadau twyllodrus posib i’r Tîm Ymchwiliadau Twyll Unigol;
- Cyflawni targedau perfformiad unigol a sefydlir gan reolwyr;
- Cydgysylltu ag Adrannau Cyngor eraill, asiantaethau eraill a phersonau eraill a effeithir i sicrhau fod ein cwsmeriaid yn derbyn y wybodaeth a’r cyngor cywir am eu hawl i fudd-daliadau a bod gwasanaeth yn canolbwyntio ar y cwsmer yn cael ei gynnig;
- Datrys materion yn ymwneud â thaliadau gan gynnwys sieciau sydd wedi’u canslo a’u dychwelyd;
- Gwirio cywirdeb asesiadau a gordaliadau;
- Paratoi adroddiadau ar ganlyniadau gwirio;
- Gwneud penderfyniadau ar apeliadau;
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi a datblygu gweithdrefnau;
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi adroddiadau rheoli a monitro rheolaethau;
- Cynorthwyo rheolwyr gyda datblygu staff
**Amdanat ti**
- Profiad o Fudd-daliadau, Treth Gyngor neu o weithio ym myd gwasanaeth cwsmeriaid/ceiswyr hawliau o fewn y 3 blynedd diwethaf.
- Defnyddio systemau TG.
- Profiad amlwg o weithio o fewn rheoliadau/gweithdrefnau Budd-daliadau/Treth Gyngor
- Profiad o'r broses Apeliadau Budd-daliadau a Rheoli Budd-daliadau
- Gwybodaeth am fudd-daliadau prawf modd neu wasanaeth cwsmeriaid
- Gwybodaeth fanwl am y system budd-daliadau Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
- Gwybodaeth fanwl am y broses Apeliadau Budd-daliadau a Rheoli Budd-daliadau
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Gallu rhifyddeg dadansoddol ac ymholgar,
- Y gallu i fod yn synhwyrol ac i gadw cyfrinachedd.
- Gallu trin cwsmeriaid mewn sefyllfaoedd anodd.
- Sgiliau TG datblygedig
- 5 TGAU (Gradd A i C) neu lefel gyfatebol yn cynnwys Saesneg a Mathemateg.
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
- Gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
- Gallu trin cwsmeriaid yn hyderus ac yn effeithiol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y GDG: Sylfaenol
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Christina Delaney 01446 709225
Job Reference: RES00357
-
Asesydd Budd Pennaf
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn chwilio am Aseswyr Budd Pennaf i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol. Mae ein tîm yn gyfrifol am asesiadau TDAR ar gyfer awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad...
-
Cynghorydd Arian
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Ynglŷn â'r rôl** Manylion y Cyflog: Gradd 6 £27,334 - £29,777 Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 Oriau'r wythnos dros dro - hyd at flwyddyn Prif Weithle: Yr Alpau, Bro Morgannwg Rheswm Dros Dro: I gyflenwi yn lle aelod o staff ar secondiad **Disgrifiad**: Cynorthwyo cwsmeriaid i wneud y mwyaf o sicrhau budd-daliadau lles, drwy ddatblygu cyngor ar...
-
Cynghorydd Arian
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Ynglŷn â'r rôl** Manylion y Cyflog: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409-£27,852 Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 Oriau'r wythnos dros dro - hyd at flwyddyn Prif Weithle: Yr Alpau, Bro Morgannwg Rheswm Dros Dro: I gyflenwi yn lle aelod o staff ar secondiad **Disgrifiad**: Cynorthwyo cwsmeriaid i wneud y mwyaf o sicrhau budd-daliadau lles, drwy ddatblygu...
-
Gweithiwr Hostel
2 weeks ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Dyma swydd yng Ngwasanaeth Datrysiadau Tai y Cyngor wedi'i lleoli yn Hostel Tŷ Iolo, y Barri, lle sy’n dangos empathi a thosturi i bobl sydd wedi dod yn ddigartref ac sy’n aros am gartref parhaol. Mae Hostel Tŷ Iolo yn adnodd llety dros dro 24 awr gyda 21 ystafell lety a chegin a lolfa gyffredin ar gyfer ystod o bobl o unigolion i...
-
Hostel Worker
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Dyma swydd yng Ngwasanaeth Datrysiadau Tai y Cyngor wedi'i lleoli yn Hostel Tŷ Iolo, y Barri, lle sy’n dangos empathi a thosturi i bobl sydd wedi dod yn ddigartref ac sy’n aros am gartref parhaol. Mae Hostel Tŷ Iolo yn adnodd llety dros dro 24 awr gyda 21 ystafell lety a chegin a lolfa gyffredin ar gyfer ystod o bobl o unigolion i...
-
Quickstart - Gweinyddwr Cwynion Gwasanaethau
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Bydd deiliaid y swyddi hyn yn gweithio yn ein hadran Tai a Gwasanaethau Adeiladau yn prosesu cwynion, canmoliaethau ac ymholiadau gwleidyddol cwsmeriaid. Bydd hyn yn gofyn am brosesu'r gronfa ddata cwynion ac yna nodi'r gŵyn, holi unigolion priodol cyn casglu'r wybodaeth i baratoi ymateb ysgrifenedig. Cynigir y bydd y ffordd hon o weithio yn...