Cynghorydd Arian

6 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion y Cyflog: Gradd 6 £27,334 - £29,777
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 Oriau'r wythnos

dros dro - hyd at flwyddyn
Prif Weithle: Yr Alpau, Bro Morgannwg
Rheswm Dros Dro: I gyflenwi yn lle aelod o staff ar secondiad

**Disgrifiad**:
Cynorthwyo cwsmeriaid i wneud y mwyaf o sicrhau budd-daliadau lles, drwy ddatblygu cyngor ar fudd-daliadau lles, i ddarparu hyfforddiant, briffio a gwybodaeth i gydweithwyr ac asiantaethau eraill er mwyn helpu cwsmeriaid i ddeall pa fudd-daliadau sydd ar gael iddynt ac i wneud ceisiadau i gynyddu eu hincwm

**Amdanat ti** Bydd angen y canlynol arnoch**:

- Gwybodaeth ymarferol am sawl system a gweithdrefn budd-daliadau lles (yn benodol Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol)
- Y gallu i ddelio â chwsmeriaid sy'n agored i niwed mewn modd sensitif i greu canlyniadau cadarnhaol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
- Creu atebion cadarnhaol mewn amgylchedd cymorth amlasiantaethol
- Gwybodaeth ymarferol a'r gallu i wneud y defnydd gorau posibl o fudd-daliadau lles i gynyddu incwm cwsmeriaid
- Y gallu i ddelio ag ystod amrywiol o gwsmeriaid ac ymholiadau
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Y gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth a gwneud penderfyniadau effeithiol wrth ddatrys problemau
- Gallu cyfleu materion cymhleth i gwsmeriaid yn seiliedig ar eu hanghenion unigol
- 5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
- Gallu trefnu’ch llwyth gwaith eich hun
- Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
- Awydd i wella gwasanaethau'n barhaus
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**

A oes angen gwiriad GDG: Dd/B

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00444