Asesydd Budd Pennaf
7 months ago
**Amdanom ni**
Mae'r Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn chwilio am Aseswyr Budd Pennaf i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol. Mae ein tîm yn gyfrifol am asesiadau TDAR ar gyfer awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus, cyfleoedd ar gyfer dysgu a goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 9 PCG 31-35
Oriau Gwaith: 37
Patrwm Gweithio: Dydd Llun i Ddydd Gwener
Prif Weithle: Hybrid / Swyddfa’r Dociau
Fel Asesydd Budd Pennaf:
- Byddwch yn defnyddio eich sgiliau dadansoddi a chyfathrebu i ddarganfod beth sydd er budd pennaf pobl mewn sefyllfaoedd cymhleth a heriol weithiau
- Byddwch yn hyrwyddo prosesau cyfreithlon sy'n cydbwyso hawliau, risgiau a chyfrifoldebau i helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau mewn perthynas â dewisiadau pobl a hawliau dynol
- Byddwch yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws gwahanol sefydliadau a systemau ac yn rhoi arweiniad a gwybodaeth iddynt am y ddeddfwriaeth, y prosesau a'r arferion sy'n cefnogi'r defnydd gorau o TDAR.
**Amdanat ti**
Rydym yn chwilio am Aseswyr Budd Pennaf profiadol sydd â gwerthoedd proffesiynol cryf, sgiliau asesu rhagorol a gwybodaeth gadarn, weithredol o'r ddeddfwriaeth, canllawiau a phrosesau perthnasol sy'n gysylltiedig â gwaith TDAR.
Byddwch yn awyddus i ddefnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau i adeiladu ffyrdd newydd o weithio a hyrwyddo arfer gorau o ran DGM a TDAR. Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt sy'n seiliedig ar gryfderau gyda phobl a'u teuluoedd.
Bydd gennych brofiad sylweddol o waith aml-broffesiynol, amlasiantaethol a galluogi cyfoedion ac eraill i ddysgu a datblygu.
Byddwch yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, neu'n Nyrs Gofrestredig, neu'n Therapydd Galwedigaethol Cofrestredig neu'n Seicolegydd Siartredig, wedi'ch cofrestru gyda'ch corff proffesiynol perthnasol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae angen GDG Manwl Gweithlu Oedolion a Phlant ar gyfer y rôl hon.
Mae angen bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu gyfwerth hefyd.
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person ynghlwm
Job Reference: SS00806
-
Uwch Asesydd Budd-daliadau
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r swydd o fewn yr Adran Fudd-daliadau. Mae’r tîm yn prosesu pob math o geisiadau am Fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor yn unol â phob gofyniad gweinyddol a deddfwriaethol. Rydym hefyd yn prosesu ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim a Grantiau Datblygu Disgyblion. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409...