Hostel Worker

6 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Dyma swydd yng Ngwasanaeth Datrysiadau Tai y Cyngor wedi'i lleoli yn Hostel Tŷ Iolo, y Barri, lle sy’n dangos empathi a thosturi i bobl sydd wedi dod yn ddigartref ac sy’n aros am gartref parhaol.

Mae Hostel Tŷ Iolo yn adnodd llety dros dro 24 awr gyda 21 ystafell lety a chegin a lolfa gyffredin ar gyfer ystod o bobl o unigolion i deuluoedd â phlant.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion cyflog: £21,575-£ 22,369 gan gynnwys tâl shifft uwch Oriau o Waith / Patrwm Gwaith: patrwm sy’n cynnwys nosweithiau, penwythnosau a thros nos Prif Weithle: Hostel Tŷ Iolo, y Barri Rheswm Gwneud y Swydd yn un Dros Dro: ddim yn berthnasol - rôl barhaol

Disgrifiad:
Cadw cofnod o gamau a gymerwyd mewn perthynas â phob digwyddiad/mater rheoli’r hostel ac adrodd am ddigwyddiadau o’r fath i’r Rheolwr Llety Dros Dro.

Croesawu preswylwyr newydd i'r Hostel a chwblhau'r holl gofnodion angenrheidiol gan gynnwys cytundeb trwydded, ffurflenni Budd-dal Tai, Cefnogi Pobl, ffurflenni Atgyfeirio, Ceisiadau Digartrefedd a Cheisiadau Cofrestr Tai yn unol â rhwymedigaethau statudol a pholisïau mabwysiedig y Cyngor.

Cymryd rhan yn llawn yn Rota’r Hostel i gynnal diogelwch digonol a rheolaeth briodol yn unol â rhwymedigaethau statudol a pholisïau mabwysiedig y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo i gydlynu trefniadau cysgu dros nos/penwythnos/gyda'r nos, dernum pobl y tu allan i oriau, a gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol gyda'r cwmni diogelwch
nos.
**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio mewn Hostel
- Profiad o weithio gyda chleientiaid sy’n agored iawn i niwed
- Profiad o weithio gyda’r cyhoedd
- Profiad o systemau swyddfa a chadw cofnodion
- Profiad o weithio ar sail rota

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Oes - Uwch
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Ian Jones

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00571


  • Hostel Worker

    6 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **About us** The post lies within the Councils Housing Solutions service and is based at Ty Iolo Hostel in Barry. Ty Iolo provides temporary accommodation for families and single people who have become homeless and are awaiting permanent housing. Ty Iolo is staffed 24-hrs, we provide support to 21 families residing at Ty Iolo. We are a compassionate,...