Mentor Cynghori

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a safon uchel o wybodaeth am Fudd-daliadau Lles ymysg pethau eraill, i gefnogi’r Tîm Cyngor Ariannol sy’n ehangu a datblygiad y gwasanaeth.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd recriwtio a chynorthwyo dechreuwyr newydd a helpu gyda chynnydd y Tîm Cyngor Ariannol a’r gwaith o’i ehangu. Bydd ganddo ddyletswyddau rheoli llinell ar gyfer tîm bach.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am y gwasanaethau y mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn eu darparu, yn ogystal â bod â gwybodaeth a phrofiad o ddelio â pholisïau perthnasol yn ymwneud â Recriwtio, Salwch, Gadael ac Adnoddau Dynol.

Bydd y rôl hon yn gofyn am gydgysylltu â thimau yn fewnol ac yn allanol i'r Cyngor ac adrodd i'r Cydlynydd Cynghori a'r Rheolwr Cyngor Ariannol ar gynnydd y gwasanaethau a ddarperir.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus safon uchel o wybodaeth am y canlynol;
- Budd-daliadau lles a gwneud y mwyaf o incwm. Bydd hyn yn cwmpasu’r Dreth Gyngor a Gostyngiad y Dreth Gyngor, dyled ac atgyfeiriadau.
- Profiad o ddelio gyda dechreuwyr newydd; recriwtio, mynediad i systemau, a phrosesau sefydlu.
- Profiad o archwilio a gweithio gyda thîm hyfforddi neu archwilio wrth adnabod unigolion a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol neu'r rhai sy'n gallu symud ymlaen i'r lefel nesaf o hyfforddiant.
- Adrodd ac ystadegau. Creu adroddiadau ac ystadegau a'r gallu i gyfleu'r rhain i nodi anghenion, galw a meysydd llwyddiant.
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uniongyrchol gyfrifol am brosiect bach felly mae'n rhaid cael profiad o ddelio â thimau a phrosiectau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swyddi dros dro yw'r rhain sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

Bydd gofyn i chi weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ôl rota.

Am mwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch a Carlos Ruiz os gwelwch yn dda ar 02920 871071

**Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.**

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02748


  • Cydlynydd Cynghori

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm Lles a Budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi help mentor i gyfranogwyr sy’n byw yng Nghaerdydd, rhoi cymorth ymarferol o ran sgiliau chwilio am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi help mentor i gyfranogwyr sy’n byw yng Nghaerdydd, rhoi cymorth ymarferol o ran sgiliau chwilio am...

  • Mentor Budd-daliadau

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Cyngor Caerdydd am recriwtio unigolyn brwdfrydig iawn i gynorthwyo gyda hyfforddiant, cefnogi a gwirio ansawdd yn ymwneud â Budd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, prydau ysgol am ddim a grantiau Gwisg Ysgol ynghyd ag unrhyw faterion cysylltiedig ag unigolion a grwpiau. **About the job** Rhoddir hyfforddiant llawn a bydd yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi cymorth mentora i gyfranogwyr sy'n byw yng Nghaerdydd, gan ddarparu cymorth ymarferol i ymgymryd â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. - Mae ein...