Cydlynydd Cynghori

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm Lles a Budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gwybodaeth Budd-daliadau Lles o safon uchel, profiad rheoli cryf a safon uchel o gyfathrebu i gefnogi gwaith y Tîm Cyngor Ariannol o ddydd i ddydd.

Bydd y cydlynydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Mentor Cynghori a'r rheolwr Cyngor Ariannol i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gweithredu’n ddi-dor, sicrhau bod swyddi'n cael eu llenwi a bod cynghorwyr yn darparu cyngor ariannol o safon uchel i'r 20+ lleoliad y mae'r tîm yn eu mynychu ar hyn o bryd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus safon uchel o wybodaeth am y pynciau sy'n gysylltiedig â chymorth Cyngor Ariannol, sef Budd-daliadau Lles a Chynyddu Incwm, y Dreth Gyngor a Gostyngiad y Dreth Gyngor yn ogystal â gwybodaeth am y nifer o wahanol randdeiliaid a phartneriaid y mae'r gwasanaeth yn ymwneud â nhw.

Yn ogystal â hyn, ac i sicrhau bod y gwasanaeth amrywiol hwn yn gweithio’n ddi-dor, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth a phrofiad o recriwtio a phob agwedd ar gyfrifoldebau Adnoddau Dynol sy'n gysylltiedig â rheoli tîm.

Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cofnodi ystadegau ac adrodd yn ôl i'r Rheolwr Cyngor Ariannol gyda gwybodaeth am unrhyw amrywiadau y gwasanaeth sy'n effeithio ar gyflawni’r gwasanaethau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro llawn amser yw hon tan 31 Mawrth 2024.

**Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.**

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

Bydd gofyn i chi weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ôl rota.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Carlos Ruiz ar 02920 871071.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02997


  • Cydlynydd Storfeydd

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn dynamig ymuno â Gwasanaethau Golygfeydd Stryd i gyflenwi gweithrediadau rheng flaen, gan ddarparu safon uchel o wasanaeth i breswylwyr Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Cydlynydd Storfeydd, byddwch yn gyfrifol am reoli gweithrediadau...

  • Mentor Cynghori

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r galw am dai cymdeithasol yn cynyddu a does dim digon o dai cyngor ar gael i bobl sydd eu hangen. Mewn ymateb i hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddatblygu datrysiadau tai newydd i leihau'r pwysau ar y Rhestr Aros Tai Cyffredin. Mae diwallu anghenion y bobl hynny sydd â'r angen mwyaf am dai addas yn hollbwysig, mae hyn yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn gyfrifol am ddatblygu'r Hybiau i bobl hŷn, gan helpu i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau. Goruchwylio a rheoli Rheolwyr y Cynllun Byw yn y Gymuned a Swyddogion Cymorth Byw yn y Gymuned o fewn yr holl Gynlluniau Byw yn y Gymuned. Sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o safon mor uchel â phosibl a bod pob cynllun yn cael ei gadw'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...