Mentor Cyflogaeth Gymunedol
3 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi help mentor i gyfranogwyr sy’n byw yng Nghaerdydd, rhoi cymorth ymarferol o ran sgiliau chwilio am swydd a cheisiadau am swyddi a chynorthwyo cleientiaid i baratoi CVs perthnasol, priodol a phroffesiynol i gynorthwyo cleientiaid i ‘fynd yn ôl i’r gwaith'.
**Am Y Swydd**
Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio ar y Prosiect Cyflogaeth Dan Gymorth Lleol. Mae'r Project yn rhoi cymorth i unigolion ag Anableddau Dysgu, Awtistiaeth neu'r ddau i symud i gyflogaeth gystadleuol, gan ddarparu'r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i gadw eu gwaith.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dangos dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu cwsmeriaid sy'n ceisio cyflogaeth barhaus; ac sy’n meddu ar y gallu i'w helpu i gael gwaith.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio mewn maes sy’n gysylltiedig â chwilio am waith.
Bydd gennych brofiad o weithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid a phrofiad o gynnig cymorth mentor mewn lleoliad cyflogaeth. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
Byddwch yn cynorthwyo cyfranogwyr i symud yn agosach at gyfleoedd cyflogaeth a chael mynediad i gronfa rhwystrau i gael hyfforddiant.
Byddwch yn gweithio’n dda mewn tîm, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn weithiwr hyblyg.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg, Bwyleg neu Wcrainiad, o fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2025.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Efallai y bydd angen gweithio rhywfaint gyda’r nos ac ar y penwythnos.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/ Cyfarwyddwr Cynorthwyol/ Prif Swyddog neu'r uwch swyddog enwebedig ar radd swydd heb fod yn is na RhG2 neu yn achos staff mewn ysgolion y Pennaeth / Corff Llywodraethu, gall gymeradwyo ceisiadau.
Yn sgil yr amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Valeria Sala ar 02920871071
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02592
-
Mentor Cyflogaeth Gymunedol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi help mentor i gyfranogwyr sy’n byw yng Nghaerdydd, rhoi cymorth ymarferol o ran sgiliau...
-
Mentor Cymorth Cynnar
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...
-
Mentor Ieuenctid
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...
-
Senior Lecturer
3 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full timeDisgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Rhyngbroffesiynol.pdf Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-ordinator.pdf Job description Cardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality...
-
Senior Lecturer
3 weeks ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full timeDisgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...