Pennaeth Recriwtio RHanbarthol RHyngwladol
2 months ago
**Prif ddiben y swydd**
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. A chanddi ddau gampws glan môr godidog mewn man hyfryd o'r byd, ger Penrhyn Gwyr, mae'n lle arbennig i weithio ac astudio. Mae'r swydd hon yn y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gartref i'r timau derbyn myfyrwyr, recriwtio, marchnata, codi arian a datblygu a rhyngwladol.
Mae'r Brifysgol am benodi ymarferydd addysg uwch proffesiynol, brwdfrydig a phrofiadol, â hanes o gyflawni ym maes recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a marchnata. Fel rhan o'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, byddwch yn arwain tîm sy'n gyfrifol am weithgareddau recriwtio a marchnata mewn lleoliadau penodol ar draws y byd. Ar hyn o bryd, y lleoliadau hynny yw **De Asia, America ac Ewrop**, ond dylai fod gennych y profiad a'r hyblygrwydd angenrheidiol i weithio'n fyd eang, yn ôl y galw. Byddwch yn cynnig esiampl dda o arwain, datblygu a chyflawni swyddogaeth recriwtio myfyrwyr rhyngwladol cydlynus ac effeithiol ar gyfer y rhanbarthau. Byddwch yn nodi risgiau a chyfleoedd busnes ac yn darparu atebion hyblyg ac arloesol a fydd yn cyflawni targedau.
Rydyn yn chwilio am rywun proffesiynol, hyblyg sy'n gweithio o'i ben a'i bastwn ei hun ac yn benderfynol o lwyddo. Bydd gennych radd baglor (neu gyfwerth) a phrofiad o farchnata a recriwtio rhyngwladol a recriwtio myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gallu dangos craffter busnes cadarn, meddwl strategol a bydd gennych allu profedig i gyflwyno amcanion mewn amgylchedd addysg uwch gystadleuol, gan weithio mewn ffordd sensitif, gyda doethineb, diplomyddiaeth ac ystwythder diwylliannol.
**Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach**
Bwriedir llunio rhestr fer ar 9 Ionawr 2023 a chynnal cyfweliadau ar 18 Ionawr 2023 (i'w gadarnhau)
Gallwch gyflwyno cais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol a amlinellir yn y disgrifiad swydd. Lanlwythwch CV
Job Reference: SD02975
We have other current jobs related to this field that you can find below
-
Cynorthwy-ydd Ymchwil
3 weeks ago
Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Cyflog** Cyflog**: Gradd 7: £31,411 - £35,333 y flwyddyn **Lleoliad**: Campws Singleton **Contract**: Swydd cyfnod penodol yw hon am gyfnod o 6 mis gan ddechrau ar 1 Ebrill 2023 **Oriau gwaith**: 35 awr yr wythnos **Prif ddiben y swydd** Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw gweddnewid bywydau pobl, a'u dyfodol, drwy ddarparu amgylchedd academaidd rhagorol...
-
Technegydd Ymchwil
5 days ago
Swansea, City and County of Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Prif ddiben y swydd**Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw gweddnewid bywydau pobl, a'u dyfodol, drwy ddarparu amgylchedd academaidd rhagorol ynghyd â chydbwysedd rhagorol rhwng ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf, gan ysgogi effaith drwy gydweithredu mewn ffordd effeithiol yn rhanbarthol ac yn fyd-eang.Mae'r prosiect Achub Morwellt y Cefnfor, Adran...
-
Swyddog Ymchwil Cynaeafu Ynni Ffotofoltäig
3 weeks ago
Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Cyflog** Cyflog**:£36,386 i £42,155 y flwyddyn** **Lleoliad**:Campws y Bae, Prifysgol Abertawe** **Contract**:Cyfnod penodol tan 31/06/2024 (15 mis)** **Prif ddiben y swydd** Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw trawsnewid bywydau a dyfodol pobl drwy ddarparu amgylchedd ymchwil rhagorol, gan ysgogi effaith sy'n cael ei galluogi drwy gydweithio mewn modd...