Cynorthwy-ydd Ymchwil

4 months ago


Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

**Cyflog** Cyflog**: Gradd 7: £31,411 - £35,333 y flwyddyn
**Lleoliad**: Campws Singleton
**Contract**: Swydd cyfnod penodol yw hon am gyfnod o 6 mis gan ddechrau ar 1 Ebrill 2023
**Oriau gwaith**: 35 awr yr wythnos

**Prif ddiben y swydd**
Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw gweddnewid bywydau pobl, a'u dyfodol, drwy ddarparu amgylchedd academaidd rhagorol ynghyd â chydbwysedd rhagorol rhwng ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf, gan ysgogi effaith sy'n cael ei galluogi drwy gydweithredu mewn ffordd effeithiol yn rhanbarthol ac yn fyd-eang.

Mae Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd Ymchwil i weithio ar y prosiect ‘_Optimising sticky traps for Western Flower Thrips and Whitefly using visual modelling_’ a ariennir gan y BBSRC a Razbio Ltd. Bydd y rôl yn cynnwys defnyddio modelu golwg plâu i wella dyluniad trapiau gludiog a phrofi dyluniadau arfaethedig mewn treialon maes.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd mewn maes perthnasol (e.e. ecoleg, bioleg, cyfrifiadureg) a bydd gradd PhD yn ddymunol. Bydd yn meddu ar brofiad o gynnal ymchwil o safon ddigonol i’w chyhoeddi ac, yn ddelfrydol, bydd yn meddu ar brofiad o ddadansoddi delweddau a chynnal treialon maes.

**Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach**
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Cynhelir y cyfweliadau ar 09/02/2023
- Cwblhewch gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.
- Lanlwythwch unrhyw wybodaeth bellach sy’n berthnasol i’r cais am swydd

Job Reference: AC05825