Technegydd Ymchwil

3 months ago


Swansea, City and County of Swansea, United Kingdom Swansea University Full time
**Prif ddiben y swydd**

Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw gweddnewid bywydau pobl, a'u dyfodol, drwy ddarparu amgylchedd academaidd rhagorol ynghyd â chydbwysedd rhagorol rhwng ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf, gan ysgogi effaith drwy gydweithredu mewn ffordd effeithiol yn rhanbarthol ac yn fyd-eang.

Mae'r prosiect Achub Morwellt y Cefnfor, Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe am benodi Technegydd Ymchwil adfer morwellt. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Evie Furness a'r Athro Cysylltiol Richard Unsworth ochr yn ochr â thîm y Prosiect Morwellt i helpu i gyflawni arbrawf Adfer Morwellt o bwys yn rhanbarth y Solent ac Ynys Wyth.

Mae'r swydd hon am gyfnod penodol wedi'i chysylltu'n uniongyrchol â phrosiect a ariennir gan y WWF i wella ein dealltwriaeth o'r ffordd orau o wneud gwaith adfer morwellt yn amgylcheddau morol amrywiol y DU. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth parhaus i brosiect adfer Achub Morwellt Cefnfor y Solent. Bydd hyn yn golygu cymryd rhan mewn arolygon arfordirol a morol a pharatoi ar eu cyfer. Bydd angen i'r unigolyn weithio'n broffesiynol ac yn frwdfrydig i gefnogi tîm ehangach y Prosiect Morwellt/ tîm Achub Morwellt y Cefnfor, a bod yn frwdfrydig am waith ymgysylltu a chyfathrebu. Hefyd, bydd angen iddo anelu at gael atebion a meddu ar y gallu i ymdrin â gwaith trefnu logisteg maes cymhleth. Bydd yr ymgeisydd yn gyfforddus wrth weithio oriau gwaith maes hir a chynorthwyo â thasgau cyffredin mewn labordy ac acwariwm. Disgwylir y bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau da wrth reoli a dadansoddi data a'r gallu i lunio adroddiadau sylfaenol.

Mae sgiliau cyfathrebu da, profiad blaenorol o weithio mewn tîm, profiad gwaith maes morol yn y DU a gwybodaeth dda am MS Office yn hanfodol. Mae profiad o ysgrifennu adroddiadau a dealltwriaeth o adfer morwellt ar lefel mynediad yn ddymunol. Mae sgiliau cychod a chymwysterau sgwba ar lefel 3 CMAS yn ddymunol.

**Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach**
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ym 30 Ionawr 2023
- Cwblhewch gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol a dymunol yn y ddogfennaeth recriwtio.
- Lanlwythwch CV ac unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r cais am swydd

Job Reference: AC05809