![Swansea University](https://media.trabajo.org/img/noimg.jpg)
Swyddog Ymchwil Cynaeafu Ynni Ffotofoltäig
3 weeks ago
**Cyflog** Cyflog**:£36,386 i £42,155 y flwyddyn**
**Lleoliad**:Campws y Bae, Prifysgol Abertawe**
**Contract**:Cyfnod penodol tan 31/06/2024 (15 mis)**
**Prif ddiben y swydd**
Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw trawsnewid bywydau a dyfodol pobl drwy ddarparu amgylchedd ymchwil rhagorol, gan ysgogi effaith sy'n cael ei galluogi drwy gydweithio mewn modd effeithiol yn rhanbarthol ac yn fyd-eang. Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a buddsoddiad gwerth mwy na £500m yn isadeiledd newydd Campws y Bae, mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe'n amlwg fel un o'r canolfannau rhagoriaeth gorau yn y wlad.
Mae ATIP yn rhaglen grant gwerth £6 miliwn a ariennir gan yr EPSRC ac a arweinir gan Brifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad agos â Choleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen. Cefnogir yr ymchwil yn agos gan 12 o bartneriaid diwydiant allweddol. Y prif amcan yw darparu'r wyddoniaeth a'r beirianneg sy'n sail i sbarduno'r genhedlaeth nesaf o ffotofoltäig organig a ffotofoltäig perofsgit (PV) yn gymwysiadau integredig lle mae angen technolegol clir.
Un o'r anghenion hynny yw datblygu technolegau ffotofoltäig sy'n gallu cynaeafu golau amgylcheddol a dan do yn effeithiol i bweru'r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau rhyngrwyd pethau (IoT) wedi'u hunanbweru. Bydd hyn yn osgoi'r angen i newid neu dynnu batris i'w hailwefru, gan arbed ynni, deunyddiau prin ac, yn y pen draw, leihau ôl troed carbon y dyfeisiau hyn.
Rydym ni'n chwilio am Swyddog Ymchwil i gefnogi'r prosiect ATIP, gan weithio ym maes deunyddiau a dyfeisiau celloedd solar arloesol. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gallu gweithio mewn amgylchedd traws-ddisgyblaethol, gan dynnu ar arbenigedd Peirianwyr Electronig, a datblygu eu harbenigedd eu hunain ym maes technolegau cynaeafu golau i optimeiddio a nodweddu ffotofoltäig cynaeafu ynni.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arbenigedd wrth greu'r genhadaeth nesaf o dechnolegau PV megis OPV a pherfosgitiau a bydd yn brofiadol o ran technegau nodweddu electronig ac electronig-optegol i ddatblygu dealltwriaeth o ffiseg dyfeisiau sy'n weithredol mewn golau isel er mwyn datblygu celloedd a modiwlau PV mwy effeithiol. Dylai'r ymgeisydd feddu ar PhD ym maes Cemeg, Gwyddor Deunyddiau, Ffiseg neu ddisgyblaeth gysylltiedig, meddu ar hanes clir o arbenigedd mewn technolegau PV y Genhedlaeth Nesaf a dylid darparu tystiolaeth o ymgysylltiad gweithredol, rôl bersonol a chyfraniad at ysgrifennu a chyhoeddi papurau ymchwil, yn enwedig ar gyfer cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid. Dylai ddangos y gallu i gymryd rhan weithredol wrth gynllunio ymchwil ac ysgrifennu ceisiadau am gyllid ymchwil allanol, neu gyfrannu at y gwaith hwn.
**Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach**
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.
Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi'r canlynol i'w cais lle bo'n berthnasol:
- Curriculum Vitae;
Sylwer bod y swydd hon hefyd yn cael ei hysbysebu i gronfa o gydweithwyr mewnol fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i gyflogi pobl drwy adleoli. Os bydd y swydd hon yn cael ei llenwi drwy'r llwybr hwn, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau hyn. Os nad ydych yn derbyn e-bost, dylech dybio bod eich cais yn dal i fod yn rhan o'r broses.
**Dyddiad cau**:5 Mawrth 2023
**Dyddiad y cyfweliadau**:10 Mawrth 2023
Job Reference: AC05866