Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Ref**:12011

**Teitl y Swydd**: Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau (Arbenigwr Mathemateg)

**Contract**: Yn Ystod y Tymor yn Unig (38 weeks) tan Gorffennaf 2023,

**Cyflog**: £25,565 - £27,747 y flwyddyn pro rata

**Lleoliad**: Caerdydd a Bro Morgannwg

Allwch chi gefnogi myfyrwyr i gyflawni eu nodau? Ydych chi'n mwynhau helpu pobl gyda sgiliau rhifedd yn ogystal â llythrennedd digidol a Saesneg? Os felly, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau. Yn benodol, rydym yn chwilio am arbenigwr Mathemateg sy'n angerddol am weithio gyda'n dysgwyr a datblygu eu sgiliau mathemateg.

Mae buddion gwych i’r rôl, gan gynnwys oriau gweithio yn ystod y tymor yn unig (gweithio 38 wythnos y flwyddyn), pensiwn hael, cynllun arian iechyd, cynllun Beicio i’r Gwaith, ap Headspace am ddim, mynediad i gampfeydd a chymorth llesiant, yn ogystal â llwybrau gyrfa sylweddol o fewn y coleg. Mae posibilrwydd o gyfleoedd rhannu swydd hefyd ar gael i’r rhai sy’n chwilio am swyddi rhan amser.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth sgiliau llythrennedd, rhifedd, ESOL a digidol i fyfyrwyr, yn ogystal â’u hyfforddi nhw ar ei sgiliau academaidd ac astudio.

**Cyfrifoldebau’n cynnwys**:

- Bod yn Hyfforddwr Dysgu - cynnig cymorth i ddysgwyr; rhoi arweiniad i fyfyrwyr i’w helpu i ddeall eu harddulliau dysgu; gwneud y mwyaf o brosesau hyfforddi i alluogi’r myfyrwyr i ddysgu’n fwy effeithiol.
- Darparu cefnogaeth ar gyfer sgiliau rhifedd yn bennaf ond hefyd Saesneg, sgiliau digidol, ESOL ac ysgrifennu academaidd ar bob lefel o'r cyfnod cyn-mynediad i AU a phroffesiynol; arweiniad ar ysgrifennu datganiadau UCAS; cyflwyno sesiynau sgiliau astudio (e.e. ysgrifennu academaidd, sgiliau cyflwyno; rheoli amser, llên-ladrad a chyfeirnodi).
- Defnyddio dulliau cymorth priodol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, yn cynnwys
- yn y dosbarth, apwyntiadau a sesiynau galw heibio
- un i un, grwpiau bach a dosbarth cyfan
- wyneb yn wyneb ac ar-lein;
- Cysylltu â staff addysgu er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad myfyrwyr, adnabod rhesymau sylfaenol pam bod angen y gefnogaeth a gweithredu amrywiaeth o dechnegau megis atgyfeirio, gosod targedau a datblygu cymhelliant a hyder y dysgwr.
- Cynorthwyo staff addysgu i ddefnyddio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) i sicrhau bod asesiadau cychwynnol yn cael eu cwblhau, a bod sgiliau’r dysgwyr yn datblygu.
- Cofnodi cymorth yn gywir mewn fformatau digidol, olrhain cynnydd y dysgwyr, datblygu a diweddaru adnoddau ar-lein.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg hyd at lefel 3 mewn pwnc perthnasol, a gradd C, neu uwch, mewn TGAU Saesneg a Mathemateg. Mae meddu ar gymwysterau addysgu neu hyfforddi yn ddymunol, neu barodrwydd i weithio atynt, fel sy’n briodol. Croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg, ond nid yw hyn yn elfen hanfodol o’r swydd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 13/01/23 am 12pm**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12281** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dysgu a Datblygu** **Contract**:Llawn Amser, Cyfnod Penodol tan Hyd at fis Mawrth 2025** **Cyflog: £33,897 - £36,154 pro rata** **Oriau**: 37** **Lleoliad**:Traws-gampws** Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Hyfforddwr Dysgu a Datblygu yn yr adran Fusnes yng Ngholeg...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12314** **Teitl y Swydd**:Anogwr Dysgu a Sgiliau i Brentisiaid Iau** **Contract: Rhan Amser - Parhaol** **Oriau: 27.5 awr yr wythnos, Yn ystod y tymor yn unig 38 Wythnos** **Cyflog: £17,499 - £18,993 (Yn seiliedig ar Raddfa Gyflog CALl o £27,227 - £29,551)** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Anogwr Dysgu a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:LMDC23** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth** **Contract: Llawn Amser, Parhaol** **Oriau: 37** **Cyflog: £35,455 - £37,556 y flwyddyn** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth o fewn y tîm Busnes sydd wedi'i leoli ar ein...

  • Hyfforddwr Gyrfaoedd

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol/Allanol** **Cyfeirnod: 12051** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Gyrfaoedd - REACH+ - 2 Swydd** **Oriau: 1 x 1.0 cyfwerth â llawn amser - 37 Awr** **1 x 0.8 cyfwerth â rhan amser - 30 Awr** **Hyd: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024** **Cyflog: £25,565 - £27,747 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Hyfforddwr Gyrfaoedd i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen. Rydym yn darparu amrywiaeth o fentrau diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Diben y swydd yw cynllunio, cefnogi a chyflwyno hyfforddiant teithio annibynnol i blant, pobl ifanc ac...

  • Hyfforddwr Dyfodol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:11907** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dyfodol** **Nifer y swyddi: 2** **Contract: Llawn Amser 1.0 cyfwerth â llawn amser - Tymor Penodol tan Gorffennaf 2023** **Oriau: 37** **Cyflog: £25,565 - £27,747 pro rata** Rydym yn chwilio am aelod o staff profiadol a brwdfrydig i ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12070** **Teitl y Swydd**:Darlithydd Aml-sgiliau mewn Adeiladu** **Cytundeb: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £22,905 - £45,079 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd Aml-sgiliau mewn Adeiladu yn adran Technoleg a Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: WP2402** **Teitl y Swydd**:Interniaeth â Chymorth - Hyfforddwr Swydd x2** **Contract**:Rôl 1: Parhaol** **Rôl 2: Tymor Penodol tan Gorffennaf 2025** **Oriau**:37** **Cyflog: £27,227 - £29,551 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer dwy swydd Hyfforddwr Swyddi i ymuno â’n rhaglen internïaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12341** **Teitl y Swydd: Pennaeth TEL (Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg)** **Cytundeb: Cyfnod Mamolaeth tan fis Rhagfyr 2024** **Oriau: 37** **Cyflog: £54,563 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gyfer Pennaeth Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg. Gan adrodd i’r Pennaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full time

    **Advert** **The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.** **Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd** Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig i arwain a rheoli holl weithgarwch darpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyrraedd targedau perfformiad ac ansawdd, gweithredu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol (Dysgu Sylfaen)** **Contract**:Rhan Amser (0.71 cyfwerth â llawn amser), Yn Ystod Tymor Ysgol yn Unig, Parhaol** **Cyflog: £16,660.31 - £17,220.16 (Ar sail cyflog cyfwerth â llawn amser o £23,152-£23,930 y flwyddyn)** **Oriau**: 32.5 awr yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12159 **Teitl y Swydd**: Anogwr Dysgu ac Aseswr ADY **Contract**: Llawn Amser, Parhaol **Cyflog**: £29,057 - £31,036 y flwyddyn **Lleoliad**: Coleg Caerdydd a'r Fro Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Anogwr Dysgu ac Aseswr ADY wedi'i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas ond gyda'r disgwyliad i wasanaethu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full time

    **Advert** **The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.** **Swyddog Gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd** Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ymuno gyda thîm gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd. Mae'r ddarpariaeth yma yn cynnig gwersi Cymraeg i Oedolion ar draws y rhanbarth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyfeirnod: 12256** **Teitl y Swydd**:Asesydd Electrodechnegeol Dysgu Seiliedig ar Waith** **Contract**:Llawn Amser, Parhaol** **Cyflog: £33,897 - £36,154 y flwyddyn** **Oriau**: 37** **Lleoliad**:Traws-gampws** Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Asesydd Electrodechnegeol yn yr adran Dysgu Seiliedig ar Waith...


  • Cardiff, United Kingdom Venture Graduates Full time

    **LOCATION**: Cardiff **EMPLOYER NAME**: Venture Graduates **APPLICATION DEADLINE**: 07/08/2023 **Join our digital boot camp and launch your career in the digital world!** Are you a recent graduate eager to accelerate your journey in the digital realm? Look no further! Our immersive and comprehensive Digital Boot Camp is designed to equip you with the...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol sy'n angerddol am hawliau pobl ag anableddau dysgu ac sydd am fod yn rhan o wasanaeth sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n galluogi pobl i fyw bywydau llawn ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12317** **Teitl y Swydd**:Dirprwy Bennaeth Iechyd a Gofal** **Contract**:Llawn Amser, Parhaol** **Cyflog**:£49,486 per annum** **Oriau: 37** **Lleoliad**:Traws-gampws** Mae swydd wag gyffrous ar gael fel Dirprwy Bennaeth Iechyd a Gofal yn yr adran Iechyd a Gofal yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Gwasanaeth Cynhwysiant, a chwarae rhan gefnogol wrth weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru 2018). Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes, ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol...

  • Swyddog Cynghori

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddi sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor i...