Rheolwr Gwasanaeth

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Gwasanaeth cymwys addas weithio ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion. Bydd y rôl hon yn arwain y timau gwaith cymdeithasol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion gan weithio gyda phobl dros 18 oed sydd angen gofal iechyd meddwl eilaidd sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a siapio'r gwasanaeth gan gydweithio gyda’n cydweithwyr iechyd a’n hasiantaethau partner i gefnogi arfer gorau ac i ddarparu gwasanaethau proffesiynol ac arbenigol i ddinasyddion Caerdydd.

Byddwch yn arwain gwasanaeth blaengar gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau o ran eich ymarfer, a gweithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y mwyaf o fyw'n annibynnol. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hymyriadau a'r cymorth a roddwn i'n haelodau staff. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n rhannu ein hymrwymiad ac sy'n gallu arwain timau i ymwreiddio'r diwylliant hwn.

Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg.

**Am Y Swydd**
Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Gwasanaeth, a fydd yn arweinydd strategol ar gyfer ein timau gwaith cymdeithasol Iechyd Meddwl Oedolion. Mae'r timau'n gweithio ar draws cymunedau Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am siapio'r model cyflawni yn y dyfodol, datblygu gwasanaethau a gweithdrefnau, a sicrhau bod ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ganolog i hyn. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y Cyngor, Iechyd, y sector preifat a'r Trydydd Sector. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu trwy dimau amlddisgyblaethol a bydd cydweithio â dinasyddion, gofalwyr di-dâl, teuluoedd, a chydweithwyr yn ganolog i hyn. Mae profiad amlwg o ddatblygu a chryfhau perthnasau ag asiantaethau partner a chydweithwyr yn hanfodol.

Bydd gennych brofiad o arwain a rheoli timau gofal cymdeithasol, ac arbenigedd wrth sicrhau bod timau'n gweithio'n effeithiol i reoli systemau cymhleth mewn modd amserol a phroffesiynol. Bydd gennych brofiad o arwain a rheoli staff mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol. Mae'r rôl yn cynnwys cyfrifoldebau strategol, a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r gallu i ddeall a dehongli data a gwybodaeth a gallu rheoli a chynllunio mewn gwasanaeth eang. Byddwch yn gallu datblygu ymatebion ac ystyried defnyddio gwasanaethau mewn ffordd hyblyg a gallu arwain staff ymlaen gan ddefnyddio dulliau cydweithio a mentora.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn sydd â phrofiad rheoli amlwg i'n gwasanaeth. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac i ddatblygu timau a gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar ymateb proffesiynol a thosturiol i'n dinasyddion.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys ac wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a bydd gennych o leiaf pum mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso a gwybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol wrth lywodraethu'r arena gofal cymdeithasol, a byddwch yn gallu cefnogi ac arwain aelodau'r tîm yn ogystal â rhoi arweiniad i gydweithwyr yn y Cyngor a phartneriaid eraill.
- Byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy y mae lwfans ychwanegol yn cael ei dalu ar ei gyfer.
- Byddwch yn gallu deall gwaith y gwasanaeth, defnyddio staff yn briodol a meddwl yn strategol i sicrhau bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau i barhau â'i waith gan ragweld a rheoli heriau.
- Byddwch yn gallu deall gwaith y gwasanaeth, defnyddio staff yn briodol a meddwl yn strategol i sicrhau bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau i barhau â'i waith gan ragweld a rheoli heriau.
- Byddwch wedi cronni profiad sylweddol o reoli achosion cymhleth a heriol ac yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol a'r codau ymarfer perthnasol.
- Byddwch yn deall pob agwedd ar gyfrifoldebau cyllido a dulliau o ran parhau â chronfeydd gofal iechyd a’u prosesu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwybod sut i gynrychioli'r Awdurdod Lleol yn effeithiol mewn trafodaethau cymhleth â phartneriaid a rhanddeiliaid eraill.
- Mae'n rhaid i chi fod yn ddadansoddol, yn rhagweithiol, yn canolbwyntio ar atebion, gydag ymrwymiad i ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol yn barhaus a rheoli risg yn effeithiol.
- Mae’n rhaid i chi allu creu a chyflawni gwaith partneriaeth effeithiol gyda chanlyniadau â ffocws a gallu ymgysylltu, cefnogi, herio a chyflawni newid. Mae’n rhaid i chi allu grymuso eich staff i ddarparu gwasanaethau i'r safon uchaf. Dylech fod yn arweinydd strategol cryf sy'n gwerthfawrogi ei dîm a'r weledigaeth i gefnogi pobl.
- Byddwch yn ymr



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. ***Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae hon yn rôl Rheolwr Tîm sydd ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...

  • Rheolwr Technegol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Rheolwr Technegol yn yr Uned Gwella Adeiladau, y Tîm Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn cynllunio, datblygu a rheoli gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac yn goruchwylio gwaith contractwyr o ddydd i ddydd gan sicrhau bod y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn...

  • Rheolwr Arlwyo

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Wedi'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol (37 awr yr wythnos) llawn-amser yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth gweinyddol i’r gwasanaeth a’r rheolwr ac yn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth. **Beth Rydym Ei...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael i unigolyn ymroddedig ymuno â’n Gwasanaeth Byw’n Annibynnol. Mae'r Gwasanaeth yn dîm amlddisgyblaeth sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac aros yn rhan o’u cymuned, gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. **Am Y Swydd** Y Rheolwr Sicrwydd Ansawdd sy'n gyfrifol am...

  • Rheolwr Warws

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Rheolwr Warws wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, dosbarthu, casglu a chynnal...

  • Rheolwr Cydymffurfio

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu: Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth. **Am Y Swydd** Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn deinamig ymuno â’r Gwasanaethau Cymdogaeth ac Ailgylchu yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Rheolwr Digidol a Phrosiectau, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm...

  • Rheolwr Strwythurol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn sgil ailstrwythuro gwasanaeth mae cyfle gwych wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Strwythurol cymwys i arwain ar ystod o brosiectau cysylltiedig â pheirianneg strwythurol gan ddefnyddio adnoddau mewnol ac allanol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu...

  • Rheolwr Arlwyo

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Bydd y...

  • Rheolwr Arlwyo

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Bydd y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC) yn gydweithrediad Cymru gyfan o holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru (wedi'u rhannu'n 5 gwasanaeth rhanbarthol) sy’n gweithio gyda ac mewn partneriaeth ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol (AMG) Cymru a gwasanaethau eraill. Gyda'i gilydd, mae 5 gwasanaeth mabwysiadu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol swydd wag gyffrous ar gyfer Rheolwr Trydanol Cymwys; byddwch yn gyfrifol i sicrhau bod y gofynion trydanol statudol ar gyfer stoc ddomestig y cyngor yn cael eu bodloni yn ogystal â bod yn rheolwr llinell o ddydd i ddydd i drydanwyr tai. **Am Y Swydd** Yn ychwanegol, bod yn gyfrifol am sicrhau bod...