Rheolwr Strwythurol

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Yn sgil ailstrwythuro gwasanaeth mae cyfle gwych wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Strwythurol cymwys i arwain ar ystod o brosiectau cysylltiedig â pheirianneg strwythurol gan ddefnyddio adnoddau mewnol ac allanol.

Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladau ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull aml-ddisgyblaeth er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. I’r perwyl hwn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, lles a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn eu cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.

**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau ymgymeriad effeithiol a chwblhau gwasanaethau dichonoldeb strwythurol, asesu a dylunio, ac wedi hynny cynorthwyo'n rhagweithiol gyda darparu ystod o brosiectau cysylltiedig ag adeiladu i safon gyson uchel yn unol â gofynion y cwsmer.

Bydd deiliad y swydd yn rheoli Peiriannydd Strwythurol a hefyd yn mynd ati'n rhagweithiol i reoli'r ddarpariaeth allanol o wasanaethau sy'n gysylltiedig â pheirianneg strwythurol ac yn gweithio yn ôl y galw gyda'r amcan parhaus o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.

Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:

- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Beiriannydd Strwythurol cymwys (Siartredig neu gyfatebol) sydd â phrofiad da o reoli adnoddau technegol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn perthynas â phrosiectau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ar draws amrywiaeth o fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion;
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:

- gwybodaeth dda am y polisïau a’r fframweithiau rheoleiddio sy'n berthnasol i adeiladu a rheoli adeiladau;
- gwybodaeth dechnegol dda am dechnegau adeiladu strwythurol;
- profiad ymarferol o gomisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu;
- sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a
- sgiliau trefnu personol da a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00389